English icon English
Indie, 4, in a ceramics workshop as part of Teulu-2

Cyhoeddi teulu o orielau wrth i Teulu agor yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Announcing a family of galleries as Teulu sets to open at Aberystwyth Arts Centre

Bydd yr arddangosfa gyntaf fel rhan o brosiect Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru yn agor i'r cyhoedd y penwythnos hwn [Dydd Sadwrn 9 Mawrth].

Arddangosfa Teulu yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw'r gweithgaredd cyntaf i'w gyflwyno fel rhan o fodel gwasgaredig y prosiect lle bydd celf yn cael ei arddangos mewn orielau yn agosach at ble mae pobl yn byw ac yn gweithio i wella mynediad at gelf gyfoes a'r casgliad cenedlaethol.

Yr wyth oriel arall sy'n ffurfio'r model gwasgaredig yw:

  • Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
  • Mostyn, Llandudno
  • Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
  • Oriel Davies, y Drenewydd
  • Oriel Myrddin, Caerfyrddin
  • Plas Glyn-y-Weddw, Pwllheli
  • Canolfan Grefft Rhuthun
  • STORIEL, Bangor

Mae disgwyl i'r gwaith o sefydlu'r rhwydwaith o orielau ledled Cymru gael ei gwblhau ddiwedd mis Mawrth 2025. Mae hyn yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru fel yr amlinellir yn ein Rhaglen Lywodraethu ac yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.  Mae'r gwaith hwn yn cael ei arwain drwy gydweithio rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Teulu yn arddangosfa unigryw wedi'i churadu gan bedwar teulu lleol yn Aberystwyth sydd wedi bod yn cydweithio â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ers mis Hydref 2023.

Mae'r teuluoedd wedi mynychu cyfres o weithdai, wedi ymweld ag orielau ac amgueddfeydd gan gynnwys Amgueddfa Cymru, Caerdydd ac Ysgol Gelf Aberystwyth, ac wedi cael eu hysbrydoli i greu eu gwaith cerameg ac animeiddio eu hunain i'w arddangos ochr yn ochr â gweithiau gan artistiaid enwog fel Pablo Picasso, Ceri Richards a Mary Lloyd Jones.

Mae Ysgol Gelf Aberystwyth hefyd yn rhan o brosiect Teulu a bydd yn parhau i weithio gyda'r teuluoedd y tu hwnt i'r arddangosfa hon, gan geisio curadu arddangosfa cerameg arall yn ddiweddarach yn yr Hydref.

Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: "Mae'n newyddion cyffrous iawn bod yr arddangosfa gyntaf o dan y bartneriaeth Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol bellach ar fin agor i'r cyhoedd.  Mae'r casgliad cenedlaethol yn perthyn i bawb yng Nghymru, a bydd y model newydd yma yn caniatáu i bobl fwynhau'r casgliad yn eu cymunedau eu hunain.

"Mae Teulu yn ffordd ardderchog o ddechrau'r prosiect, gyda'r cyhoedd wirioneddol wrth galon y gwaith o benderfynu beth sy'n rhan o'r arddangosfa."

Mae cynnwys cymunedau lleol yn ganolog i’r model gwasgaredig o wneud arddangosfeydd yn y dyfodol yn fwy perthnasol i’r gymuned leol.

Ar gyfer arddangosfa Teulu, gwahoddwyd y teuluoedd i ddewis themâu o bwys arbennig iddynt ac roeddent yn llwyr gyfrifol am ddewis darnau o gelf arbennig i'w cynnwys yn yr arddangosfa. Dewiswyd y darnau hyn a byddant ar fenthyg ar gyfer yr arddangosfa gyda chydweithrediad caredig gan gasgliad Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru (NCAGW) yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ochr yn ochr â gweithiau o gasgliad Ysgol Gelf Aberystwyth.

Dywedodd yr Aelod Dynodedig Siân Gwenllian: "Mae arddangosfa Teulu yn ffordd wych o ddathlu lansiad sefydliad cenedlaethol diweddaraf Cymru - yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol.

"Mae'r prosiect mawr yma’n cymryd cam pwysig ymlaen gyda'r arddangosfa yma. Mae'n symbol o'n dull newydd o wreiddio'r celfyddydau ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru, gan wneud ein casgliadau cenedlaethol yn fwy hygyrch ac ystyrlon i bobl, plant a chymunedau ledled ein gwlad."

 

Sylwadau Ategol

Meddai Ffion Rhys, Curadur Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth: "Mae'r arddangosfa hon wedi bod yn daith wirioneddol i ni, a hoffwn ddiolch yn fawr i'r teuluoedd sydd wedi cymryd rhan - rydym wedi dysgu cymaint ganddyn nhw, a'r gobaith yw y bydd y dysgu hwn yn galluogi mwy o deuluoedd i gael mynediad i'r celfyddydau - i gymryd rhan a mwynhau,  diolch o galon. Diolch hefyd i'n partneriaid Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ysgol y Celfyddydau Aberystwyth, Plant Dewi, Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Elin Vaughan Crowley artist a chydlynydd prosiect, tiwtor cerameg Laura Hughes a Charlie Carter, tiwtor animeiddio am eu rhan yn galluogi hyn i ddigwydd"

Meddai Elin Vaughan Crowley, Cydlynydd Artist a Phrosiect "Mae wedi bod yn bleser cydweithio â'r pedwar teulu a Ffion y curadur ar brosiect sy'n cwmpasu rhywbeth rwy'n angerddol iawn amdano, sef gwneud y celfyddydau yn hygyrch i bawb. Ein bwriad oedd rhoi ymdeimlad o berchnogaeth i'r teuluoedd o ran penderfyniadau yn ymwneud â churadu arddangosfeydd, fel pa fath o gelf oedd yn cael ei arddangos, pa fath o le i'w greu a sut i groesawu ac ymgysylltu â phobl sydd eisiau ymweld â'r oriel ond a allai fod wedi meddwl yn y gorffennol nad oedd yn lle iddyn nhw."

Mae Petra Nelson wedi bod yn rhan o'r prosiect gyda'i gŵr, Shane, a thri o blant, Flynn, Mabli a Neli. Meddai, "Rwyf wedi bod wrth fy modd yn gallu mynd 'tu ôl i'r llenni' yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Ysgol Gelf Aberystwyth, gweld yr holl gelf gwych a sylweddoli pa mor wahanol yw chwaeth pawb mewn celf."