English icon English
rhys-ifans-olivia-cooke-2

Sioe lwyddiannus HBO, House of the Dragon, yn dychwelyd i’r sgrin fach ar ôl ffilmio yng Ngogledd Cymru

HBO’s award-winning House of the Dragon roars back to the small screen after filming in North Wales

Mae’n bosibl y bydd gwylwyr craff yn sylwi ar leoliadau cyfarwydd iawn yn y rhaglun a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer yr ail gyfres o House of the Dragon. Yn sgil cymorth gan Cymru Greadigol, cafodd Gogledd Cymru ei ddefnyddio fel safle ffilmio ar gyfer ail gyfres y sioe lwyddiannus.

Defnyddiodd HBO wyth lleoliad ar draws Ynys Môn a Gwynedd yn gynharach eleni, gan roi hwb i’r economi leol.

Helpodd Cymru Greadigol i sicrhau bod dros 250 o bobl leol wedi cael eu cyflogi i weithio fel aelodau o’r criw yn ystod y cyfnod ffilmio pum wythnos. Hwyluswyd hyn gan CrewHQ, menter hyfforddi gan Warner Bros. Discovery.

Roedd Cymru Greadigol a CrewHQ hefyd yn gyfrifol am ddarparu rhaglen helaeth ac arloesol ar gyfer hyfforddeion, a oedd yn cynnwys cyfleoedd i uwchraddio sgiliau a chyfleoedd lefel mynediad i dros 30 o bobl. Roedd cynlluniau, hefyd, ar gyfer y bobl leol, a oedd yn cynnwys ymweliadau â’r set, dosbarthiadau meistr, a chyfleoedd i greu adnoddau i’w defnyddio mewn ysgolion.

Yn seiliedig ar nofel ‘Fire & Blood’ George R.R. Martin, mae House of the Dragon wedi’i osod mewn cyfnod 200 o flynyddoedd cyn digwyddiadau Game of Thrones, ac mae’n adrodd hanes y teulu Targaryen.

Mae’r rhaglun, a ryddhawyd ddydd Sadwrn, yn rhoi rhagflas o’r gyfres newydd. Y gyfres gyntaf oedd un o gomisiynau drama safon uchel mwyaf HBO, ac fe’i gwyliwyd gan gyfartaledd o 29 miliwn o bobl ledled yr Unol Daleithiau. Enillodd y gyfres honno wobr Golden Globe am y gyfres ddrama orau yn 2023. Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar Sky a NOW yn y DU ac Iwerddon.

Ffilmiwyd rhannau o’r gyfres gyntaf mewn lleoliadau yn Sbaen, Cernyw a Swydd Derby, gyda’r prif waith ffilmio yn digwydd yn Stiwdios Warner Bros. yn Leavesden, Swydd Hertford. Pan ddaeth yn amser cynllunio ar gyfer yr ail gyfres, daeth y tîm cynhyrchu o hyd i rai lleoliadau allweddol yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd yr Uwch-gynhyrchydd, Kevin de la Noy: “Roedd hi’n wych cael ffilmio yng Nghymru, gyda’i golygfeydd a’i thirweddau syfrdanol. Mae wirioneddol yn dod â Westeros yn fyw. Roeddwn i’n awyddus iawn i fynd â House of the Dragon yno. Roedden ni’n gwybod y byddai’r gefnogaeth gan y Llywodraeth a’r bobl leol yn ein helpu ni i gael deunydd ffilm rhyfeddol. Roedden ni’n lwcus iawn i gael tywydd godidog hefyd. Diolch, Cymru!”

Yn ogystal â buddsoddi mewn cynyrchiadau fel House of the Dragon, mae Cymru Greadigol hefyd wedi buddsoddi yn y sector greadigol yng Ngogledd Cymru, drwy gefnogi Stiwdios Ffilm Aria ar Ynys Môn. Agorodd y stiwdios hynny yn swyddogol ym mis Ionawr 2023.

Bydd Stiwdios Ffilm Aria yn trawsnewid y diwydiant creadigol. Bydd lansio’r cyfleuster ardderchog hwn yn rhoi hwb i’r portffolio o stiwdios yng Nghymru, gan wneud Cymru’n ddewis mwy deniadol i gwmnïau cynhyrchu rhyngwladol a denu rhagor o fusnes i’r rhanbarth. Mae hefyd yn gartref newydd i gwmni cynhyrchu Rondo Media a’r gyfres Rownd a Rownd a gynhyrchir ganddo ers blynyddoedd ar gyfer S4C.

Mae Cymru Greadigol hefyd wedi cefnogi prosiect newydd o dan arweiniad Prifysgol Bangor, Ysgol Ffilm a Theledu Prifysgol De Cymru, a Screen Alliance Wales, i greu tair Academi Sgrin newydd yng Nghymru, gydag un o’r rheini yn Stiwdios Ffilm Aria. Bydd hyn yn creu cyfleoedd i hyfforddeion gael profiad gwerthfawr mewn amgylchedd diwydiant.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: “Mae hwn yn adlewyrchiad gwych o gryfder Gogledd Cymru fel rhanbarth, ac rydw i’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi cynhyrchiad o safon mor uchel gyda chyllideb mor fawr.

“Yn ogystal â rhoi hwb i’r economi leol yn ystod y gwaith ffilmio ei hun, mae ganddo botensial enfawr i ddenu twristiaid i Gymru yn y dyfodol.

“Hoffwn ddiolch i HBO am roi cyfleoedd gwerthfawr i’n hyfforddeion. Mae’r cyfleoedd hynny’n hynod o bwysig wrth inni geisio cryfhau’r enw da sydd gennym yma yng Nghymru yn barod am ddarparu criwiau ffilmio o ansawdd uchel.

“Mae hwn yn gyfle arall gwych i godi ein proffil rhyngwladol ac rydw i’n edrych ymlaen at weld Cymru ar y sgrin unwaith eto.”