English icon English
Maid of Sker 01-2

Llên gwerin Cymru yn ysbrydoli gêm fideo CGI newydd 'Maid of Sker 2'

Welsh folklore inspires sequel for hit CGI video game ‘Maid of Sker 2’

Mae cefnogaeth gan gyllid cynhyrchu Cymru Greadigol wedi galluogi cwmni gemau blaenllaw o Gymru Wales Interactive i greu Maid of Sker 2, gêm fideo CGI i ddilyn y gem wreiddiol arobryn.

Bydd y cyllid cynhyrchu yn galluogi Wales Interactive i ddatblygu'r teitl nesaf hwn yn gyflym ac ar lefel uchel, gan ganiatáu i 10 o ddatblygwyr llawrydd weithio ar deitl mawr, y potensial am 8-9 o swyddi parhaol eraill yn ystod cyfnod y prosiect, a chreu cyfleoedd i 12 o hyfforddeion eraill.

Cyhoeddwyd Maid of Sker gyntaf ym mis Gorffennaf 2020 ac, ers ei lansio, mae wedi gweld tua 1.2 miliwn o lawrlwythiadau hyd yma ledled y byd, gan dderbyn cymeradwyaeth gyffredinol yn ogystal ag ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Treftadaeth TIGA 2020.

Gêm genre arswyd gothig yw Maid of Sker a ysbrydolwyd gan stori Elisabeth Williams o Gymru, menyw ifanc a garcharwyd gan ei thad i'w hatal rhag priodi'r dyn yr oedd yn ei garu. Dywedir iddi farw o dor-calon ac anfarwolwyd y chwedl drasig hon yn y gân werin Gymraeg, 'Y Ferch o'r Sger' (The Maid of Sker).

Mae Wales Interactive wedi cymryd y stori wreiddiol o lên gwerin Cymru, wedi esblygu'r naratif gan ddefnyddio ffaith a ffuglen ac ychwanegu nifer o gymeriadau, gan ddod â'r gêm i gynulleidfaoedd newydd sy'n gallu ei phrofi trwy gyfrwng gêm arswyd person cyntaf.

Bydd Maid of Sker 2 yn adeiladu ar dreftadaeth, thema a llwybr stori Gymreig y teitlau blaenorol.

Dywedodd Dr David Banner MBE, Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd Wales Interactive: "Mae'n wych gweld cefnogaeth barhaus Cymru Greadigol i ddiwydiant Gemau Cymru ac rydym wrth ein boddau mai ein prosiect Maid of Sker 2 fydd y gêm fideo gyntaf i dderbyn cyllid cynhyrchu.

"Mae Wales Interactive wedi dod yn un o arweinwyr byd-eang ein maes, gan werthu miliynau o gemau fideo a ffilmiau rhyngweithiol ledled y byd, a bydd y gefnogaeth hon gan Lywodraeth Cymru yn chwarae rhan bwysig yn ein llwyddiant a'n twf yn y dyfodol".

Ers 2020 mae Cymru Greadigol wedi buddsoddi £18.1 miliwn mewn cyllid cynhyrchu yn unig, sydd wedi cefnogi 37 o brosiectau ar draws ffilm, teledu, gemau ac animeiddio, gan gynhyrchu dros £208.7 miliwn i economi Cymru a dangos Adenillion ar Fuddsoddi o fwy na 11:1 i'r economi.

Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: "Mae eleni wedi bod yn flwyddyn gyffrous i'r diwydiant Gemau yng Nghymru. Rydym o ddifrif am gemau a thechnoleg gemau ac mae Cymru Greadigol yn cefnogi cymuned ffyniannus o fusnesau arloesol, gan wneud y gorau o ddoniau lleol i sicrhau llwyddiant rhyngwladol.

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi Wales Interactive gyda chyllid cynhyrchu, mae'r buddsoddiad wedi creu cyfleoedd gwerthfawr i ddarpar ddatblygwyr gemau roi hwb i'w sgiliau ar bob cam yn eu gyrfaoedd, ac rwy'n dymuno pob llwyddiant iddynt gyda'r cynhyrchiad."

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed i hyrwyddo Cymru yn fyd-eang fel canolfan ddeinamig a chreadigol, ym mis Mawrth eleni cymerodd 17 o gwmnïau gemau ran mewn cenhadaeth fasnach i'r Gynhadledd Datblygwyr Gemau yn San Francisco i'w helpu i ddatblygu eu busnesau eu hunain a'u proffiliau byd-eang, gyda datganiadau o ddiddordeb ar gyfer cenhadaeth fasnach 2024 yn cael ei lansio yn fuan.

Roedd sgyrsiau cynnar yn y Gynhadledd Datblygwyr Gemau a chefnogaeth Cymru Greadigol yn chwarae rhan flaenllaw wrth sicrhau fod cwmni gemau arbenigol o'r Unol Daleithiau Rocket Science wedi dewis Caerdydd fel pencadlys Ewropeaidd newydd. Bydd Rocket Science yn creu 50 o gyfleoedd gwaith medrus iawn a chyflog uchel i raddedigion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant gemau ledled y ddinas, gan roi hwb mawr i sector gemau Cymru.

Mae Cymru Greadigol unwaith eto yn darparu cymorth ariannol tuag at raglen datblygu doniau ar lawr gwlad dan arweiniad Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam. Mae Games Talent Wales yn darparu mentora yn y diwydiant a grantiau i wyth stiwdio gemau annibynnol, gyda'r uchelgais hirdymor o greu rhwydwaith cynaliadwy o stiwdios gemau annibynnol yng Nghymru.

Mae Wales Interactive hefyd yn un o bedwar cwmni o Gymru sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Diwydiant Gemau TIGA, ochr yn ochr â Sugar Creative, Good Gate Media a Skylife Accountancy,

I ddarganfod mwy am gyllid cynhyrchu Cymru Greadigol cliciwch yma.