English icon English
Minister for Social Justice and Chief Whip Jane Hutt with Disability Wales and British Deaf Association staff

"Rydyn ni'n ymdrechu i gyflawni nodau datblygu cynaliadwy ar gyfer pobl anabl ledled Cymru," meddai'r Gweinidog.

“We are striving to achieve sustainable development goals for disabled people across Wales,” says Minister

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau i wella bywydau pobl anabl sy'n byw yng Nghymru.

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn amlinellu agenda uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid y byd er budd pobl, y blaned a ffyniant erbyn 2030.

Ni yw’r unig genedl – hyd yn hyn - i fod wedi troi Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn gyfraith.

Thema Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl eleni (3 Rhagfyr) yw: "Unedig yn ein gwaith i achub a chyflawni'r Nodau Datblygu Cynaliadwy ar gyfer pobl anabl ac ar y cyd â nhw, a sicrhau eu bod nhw eu hunain yn rhan o'r broses".

Wrth siarad yn ystod ymweliad â swyddfeydd Anabledd Cymru a Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, dywedodd y Gweinidog:

"Rydyn ni'n rhannu'r uchelgais hwn i gyflawni nodau datblygu cynaliadwy ar gyfer pobl anabl ledled Cymru. Rydyn ni wedi eu cynnwys yn ein penderfyniadau ac maen nhw wedi dylanwadu ar ein gwaith o ddrafftio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

"Rydyn ni'n gwneud penderfyniadau er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol ac yn tynnu ar ddoniau pawb i alluogi ein cenedl i ffynnu."

Ychwanegodd: "Mae ymweld ag Anabledd Cymru a Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi bod yn gyfle i gwrdd â staff yn y ddau sefydliad sy'n ymdrechu i ddatgymalu'r rhwystrau sy'n cael eu profi gan bobl anabl ledled Cymru.

"Mae wedi bod yn fraint clywed sut maen nhw'n cefnogi pobl anabl a sut maen nhw wedi ymgorffori'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn eu gwaith."

Dywedodd Rhian Davies o Anabledd Cymru: "Rydyn ni'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn ymuno â'r gymuned ryngwladol i hyrwyddo'r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

"Mae'r Nodau Datblygu Cynaliadwy ac amcanion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn hanfodol i sicrhau cydraddoldeb llawn i bobl anabl yng Nghymru."

Ychwanegodd: "Mae heddiw wedi bod yn gyfle gwych i gwrdd â'r Gweinidog a thrafod ein rôl wrth frwydro dros hawliau pobl anabl drwy bandemig - a nawr argyfwng costau byw - tra hefyd yn ymdrechu am Gymru fwy cynhwysol sy'n gwarantu'r gallu i bawb gael byw'n annibynnol."

Ychwanegodd Rebecca Mansell o Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain: “Mae’n anrhydedd inni gael y Gweinidog yn ymweld â ni heddiw, ac rydyn ni wrth ein bodd. Mae ein Cymuned Fyddar yng Nghymru yn parhau i gael ei llethu gan rwystrau niferus wrth geisio cael gafael ar wybodaeth a gwasanaeth Iaith Arwyddion Prydain.

“Fel y corff cenedlaethol sy’n cynrychioli Iaith Arwyddion Prydain o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn brwydro dros gydraddoldeb a hawliau i Gymuned Fyddar Cymru.”

Sefydlwyd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn 2021 yn sgil adroddiad 'Drws Ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19.'

Pwrpas y Tasglu yw diffinio nodau allweddol a'r camau sydd eu hangen i gyflawni gwelliannau, y bydd Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth cyhoeddus ehangach a phobl anabl yn gweithio gyda'i gilydd i'w gwneud yn realiti.

Mae'r tasglu yn cynnwys gwahanol weithgorau, sy'n edrych ar yr heriau y mae pobl anabl yn eu hwynebu ac yn gweithio tuag at ein huchelgais o sicrhau Cymru fwy cyfartal. Mae'r holl adroddiadau a gyhoeddir yn seiliedig ar waith y gweithgorau ac yn cael eu llunio ar y cyd â phobl anabl.

Nodiadau i olygyddion

Pic caption:

  • Minister for Social Justice and Chief Whip Jane Hutt with Disability Wales and British Deaf Association staff
  • Sbarc/Spark offices in Cardiff where  Disability Wales and British Deaf Association are based

The theme of the 2023 International Day of Disabled People is: "United in action to rescue and achieve the Sustainable Development Goals for, with and by persons with disabilities".

The annual observance of the International Day of Disabled People was proclaimed in 1992, by the United Nations General Assembly resolution 47/3. The observance of the Day aims to promote an understanding of disability and mobilise support for the dignity, rights and well-being of disabled people. It also seeks to increase awareness of gains to be derived from the integration of disabled people in every aspect of political, social, economic and cultural life.

The main programme of the observance of the International Day of Disabled People at the UN Headquarters in New York will include the Opening, panel discussions and cultural events. Member States, civil society organisations and the private sector are welcome to organise their own events to celebrate the International Day to raise awareness and promote the rights and perspectives of disabled people around the world.

The Taskforce brings together people with lived experience, Welsh Government Policy Leads and representative organisations to identify the issues and barriers that affect the lives of many disabled people. The Taskforce established a prioritisation group to identify the key priorities for its programme of work to be addressed through the development of working groups. The following workstreams have been identified as priority areas for the programme of work:   

  • Embedding and Understanding of the Social Model of Disability (across Wales) 
  • Access to Services (including Communications and Technology)
  • Independent Living: Social Care
  • Independent Living: Health
  • Travel 
  • Employment and Income
  • Affordable and Accessible Housing 
  • Children and Young People
  • Access to Justice
  • Wellbeing