English icon English
MSJ Jane Hutt with Steve Borley and Mary Harris at the opening of the Llanrumney Roundhouse-2

'Canolfannau cymunedol yng Ngogledd Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas'

‘Community centres across North Wales play a crucial role in supporting the most vulnerable members of our society’

Wrth agor canolfan gymunedol sydd wedi elwa ar arian gan Lywodraeth Cymru, dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol fod canolfannau cymunedol ledled Gogledd Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.

Mae cyllid gan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol wedi helpu canolfannau cymunedol - ynghyd ag amrywiaeth o gyfleusterau eraill - i wneud gwelliannau a gwaith atgyweirio ac ailddatblygu ledled Cymru.

Bob blwyddyn gall prosiectau wneud cais am grantiau o hyd at £300,000 i dalu am gost uwchraddio eu cyfleusterau cymunedol, yn ogystal â grantiau bach o hyd at £25,000.

Yn y flwyddyn ariannol 2021/22, dyfarnwyd grantiau gwerth bron i £7.7m i 71 o brosiectau ar draws Cymru.

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ariannu prynu a gwella cyfleusterau sy'n darparu cyfleoedd i bobl leol wella eu bywydau o ddydd i ddydd.

Ymhlith y prosiectau sydd wedi elwa yng Ngogledd Cymru y mae Menter Ty'n Llan yng Ngwynedd a gafodd £250,000 i adnewyddu tafarn leol i greu canolfan gymunedol gan gynnwys atgyweiriadau sylweddol i’r to, goleuadau, nenfydau, pibellau dŵr a gwteri, a symud asbestos; Canolfan Glanhwfa ar Ynys Môn a gafodd £300,000 er mwyn adnewyddu capel yr agorodd y Gweinidog yn swyddogol yn ddiweddar; a Neuadd Dyfi yng Ngwynedd a gafodd £250,000 i atgyweirio'r to ac lleihau’r ôl troed carbon drwy insiwleiddio a chynhyrchu pŵer solar.

Yn gynharach heddiw (21 Ebrill), aeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i agoriad swyddogol Canolfan Iechyd a Lles Roundhouse Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni.

Cafodd yr Ymddiriedolaeth grant o £250,000 yn 2012/22 er mwyn prynu a gosod y ganolfan gymunedol, y maen nhw'n cyfeirio ato fel y ‘Roundhouse’, sydd bellach yn helpu ystod eang o bobl.

Mae'r prosiect wedi helpu pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol, wedi mynd i'r afael ag unigrwydd ac wedi cynnig mwy o gyfleoedd gwirfoddoli.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau sy’n fuddiol i’r gymuned leol, gan gynnwys clwb gwau, clybiau garddio, mwy na 50 o ddosbarthiadau a rhaglenni i wella ffitrwydd.

Meddai Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: "Rwyf mor falch bod y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol wedi gallu helpu i gyflawni gweledigaeth Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni ar gyfer y dyfodol ac rwy'n gwybod y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran cefnogi iechyd a lles y gymuned leol.

"Deallwn fod gofodau fel hyn yn hanfodol i'r gymuned leol, fel lleoliad i glybiau gyfarfod ac ar gyfer cynnal rhaglenni iechyd a ffitrwydd a dosbarthiadau i bobl ddysgu ohonynt.

"Mae canolfannau cymunedol yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi’r aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas ac rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi drwy bethau fel ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, er mwyn iddynt allu parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol i gymunedau ledled Cymru."

Fe gaeodd tafarn Ty'n Llan yn 2017 gan adael bwlch enfawr ym mhentref Llandwrog, gan nad oes cyfleusterau cymdeithasol eraill na lleoedd eraill i'r gymuned gyfarfod.  Yn 2021, cafodd y dafarn eu rhoi ar werth a daeth criw o drigolion lleol at ei gilydd i ffurfio cymdeithas budd cymunedol o'r enw Menter Ty'n Llan. Llwyddodd y Gymdeithas, gyda chymorth dros 1,000 o gyfranddalwyr, i godi digon o arian i brynu'r dafarn. Wedi i'r dafarn gael ei hadfer, mae bellach yn leoliad ar gyfer llawer o weithgareddau gan gynnwys clwb cinio dros 60 oed, cwis a nosweithiau bingo i'r holl gymuned, clwb ymarfer cadeirio, clwb llyfrau, grŵp dysgwr Cymraeg a grŵp pobl ifanc.

Dywedodd Cadeirydd pwyllgor rheoli Menter Ty'n Llan, y gymdeithas budd cymunedol sy'n berchen ar ac yn rhedeg y dafarn, Caryl Elin Lewis: "Mae’r amrywiaeth o weithgareddau sy'n cael eu cynnig yn y dafarn wedi creu ymdeimlad go iawn o gymuned ac wedi helpu i wella iechyd a lles pobl trwy wirfoddoli, cymdeithasu a dysgu sgiliau newydd. 

Ychwanegodd: "Mae'r gefnogaeth gan gronfa Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein helpu ni i ddiogelu'r adeilad er mwyn i'r holl gymuned ei fwynhau ac i hwyluso a rhedeg y grwpiau pwysig hyn sy'n dod â phobl leol at ei gilydd. Mae pobl na fyddai byth wedi ymweld â Ty'n Llan fel tafarn o'r blaen, bellach yn ymweld yn rheolaidd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chyfarfod ffrindiau. Mae wedi bod yn newid bywyd i nifer ac yn sicr wedi gwella lles pobl. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n cyllidwyr."