"Bydd dileu'r stigma o siarad am y misglwyf mewn chwaraeon yn annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan," meddai'r Gweinidog
“Removing the stigma of talking about periods in sport will encourage more women and girls to take part,” vows Minister
Bydd dileu'r stigma o siarad am y misglwyf yn helpu i annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon, meddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Jane Hutt.
Y gobaith yw y bydd sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael mewn cyfleusterau chwaraeon, yn ogystal ag annog y rhai sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon i ddysgu am effaith eu cylchoedd mislif ar eu hyfforddiant, yn annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Cyfarfu'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Jane Hutt â chwaraewyr o dîm Merched Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i ddysgu sut maen nhw'n cefnogi chwaraewyr i chwarae a hyfforddi o amgylch eu cylchoedd mislif.
Cyfarfu'r Gweinidog â'r chwaraewyr yn eu cyfleusterau hyfforddi yng Amdani Hi @ Ocean Way , a grëwyd gyda'r bwriad o fod yn ganolfan chwaraeon i ddatblygu pêl-droed merched a ieuenctid yng nghanol Caerdydd, ddydd Iau (25 Mai).
Ar hyn o bryd mae'r clwb yn cymryd rhan mewn astudiaeth i ymchwilio i effaith y mislif ar berfformiad, fel y gallant fonitro pryd fydd amser brig chwaraewr ar gyfer hyfforddi a chwarae'n gystadleuol.
Mae'r clwb hefyd yn ceisio chwalu'r rhwystrau o siarad am y mislif, yn ogystal â chyflogi mwy o hyfforddwyr benywaidd a rhoi rhyddid i chwaraewyr leisio eu barn.
Dau nod craidd cynllun Balch o’r Mislif Llywodraeth Cymru yw mynd i'r afael â thlodi misglwyf, drwy ei gwneud yn haws i gael cynnyrch mislif, a sicrhau urddas mislif, drwy gael gwared ar unrhyw ymdeimlad o stigma neu gywilydd sy'n gysylltiedig â’r mislif.
Ers 2018 mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £12m i sicrhau bod plant a phobl ifanc a'r rhai ar incwm isel yn cael mynediad at gynnyrch mislif am ddim.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo £24m o gyllid cyfalaf dros y tair blynedd nesaf (2022-25) i Chwaraeon Cymru i ddatblygu cyfleusterau ledled Cymru sy'n cynnwys pawb, yn ogystal â £1.25m yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf (2022-23).
Mae Chwaraeon Cymru yn blaenoriaethu ceisiadau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb gan gynnwys materion sy'n ymwneud â rhyw, megis urddas mislif.
Mae buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon, elitaidd a llawr gwlad, yn ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu, gan amlygu'r cysylltiad pwysig rhwng cynyddu cyfranogiad a iechyd a lles ein cenedl.
Yn ddiweddar, cynhaliwyd trafodaethau gydag awdurdodau lleol i gynllunio sut y gellir cyfeirio cyllid at glybiau chwaraeon, er mwyn sicrhau bod gan bobl ifanc a'r rhai sy'n cael trafferth cael gafael ar gynnyrch mislif fodd i wneud hynny.
Nod y cynllun hefyd yw gwella cyfranogiad menywod, merched a'r rhai sy'n profi’r mislif mewn chwaraeon. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i asesu effaith y mislif ar y rhai sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff, fel y gellir ystyried gwella a chynnal lefelau cyfranogi.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt: "Mae'n bwysig nad yw cael mislif yn rhwystr i gymryd rhan mewn chwaraeon a rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wella lefelau cyfranogiad menywod a merched.
"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael, boed hynny yn y gymuned mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a banciau bwyd, neu mewn cyfleusterau mwy sy'n canolbwyntio ar chwaraeon fel canolfannau hamdden a chlybiau chwaraeon.
"Rydyn ni eisiau sicrhau nad yw cael mislif yn golygu na all menywod a merched gymryd rhan mewn chwaraeon, wrth inni anelu at gael gwared ar y stigma o siarad am y mislif a’i gwneud yn haws i gael gafael ar ddewis o gynnyrch mislif."
Dywedodd Iain Darbyshire, pennaeth pêl-droed menywod a merched yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd: "Rydym wedi dechrau cymryd rhan mewn astudiaeth i ymchwilio i effaith cylch y mislif ar berfformiad gan ein bod am gefnogi chwaraewyr ym mhob ffordd y gallwn.
"Rydyn ni eisiau sicrhau nad oes ofn ar ein chwaraewyr siarad am eu mislif, gan gynnwys sut maen nhw'n teimlo ar wahanol gamau o'u cylchoedd misol, fel y gallwn ddysgu am yr hyn sy'n gweithio iddyn nhw a’r hyn sydd ddim.
"Mae'r clwb wedi buddsoddi mewn cyfleusterau sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer menywod a merched, a fydd, gobeithio, yn helpu i hybu lefelau cyfranogiad yn y dyfodol."
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: "Mae gan chwaraeon y potensial i rymuso menywod a merched, chwalu stereoteipiau rhywedd a gwella hunan-barch menywod, ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i hybu lefelau cyfranogiad.
"Mae wedi bod yn galonogol gweld twf pêl-droed menywod a merched yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae'n rhaid i ni barhau i sicrhau eu bod yn cael yr un cyfleoedd â bechgyn, fel eu bod yn parhau i gymryd rhan gydol eu hoes."
Mae'r clwb hefyd wedi recriwtio hyfforddwyr cryfder a gwella cyrff benywaidd yn ddiweddar ac mae'n bwriadu cryfhau eu hyfforddiant ymhellach gyda mwy o fenywod.
Dywedodd Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Menywod a Merched yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru: “Er mwyn i bêl-droed allu tyfu yng Nghymru, mae’n bwysig creu lleoedd cynhwysol a phositif lle gall merched a menywod deimlo’n gyfforddus a bod ar eu gorau. Byddai cael gwared ar y cywilydd a’r stigma sy’n gysylltiedig â’r mislif a sicrhau bod cynnyrch mislif ar gael mewn cyfleusterau chwaraeon yn gam mawr at sicrhau hynny.
“Rydyn ni’n disgwyl ymlaen at weld sut y gall Cynllun Balch o’r Mislif Llywodraeth Cymru ynghyd ag ymchwil yn y maes, helpu pêl-droed merched a menywod i dyfu a gwireddu ei botensial yn llawn.”
Nodiadau i olygyddion
- (From left) Cardiff City FC Women's team Physio Aimi Healey-Bracher, players Hollie Smith, Megan Bowen, Siobhan Walsh and Minister for Social Justice Jane Hutt at Amdani Hi @ Ocean Way training facilities
- (from left) Cardiff City FC Women's team players Holli Smith, Megan Bowen, Siobhan Walsh, Team Physio Aimi Healey-Bracher, Minister for Social Justice Jane Hutt and Executive Director of Cardiff City House of Sport Joanne Borley-Parker in the Amdani Hi @ Ocean Way changing rooms
- Minister for Social Justice Jane Hutt in the stands at Amdani Hi @ Ocean Way
The Welsh Government’s Programme for Government commits to embedding period dignity in schools. This will be done by ensuring period dignity is considered in future equality and education national guidance for schools, local authorities and FE colleges.
Clubs and organisations seeking to improve their facilities can apply for support through the Be Active Wales fund and Crowdfunder scheme. Details for these schemes are available on Sport Wales’s website.
The plan also outlines a broad vision to achieve period dignity in Wales. This vision involves removing any sense of stigma or shame associated with periods; normalising people’s experience of having a period and considering the impact of periods across a person’s life course and lifestyle.
Period Proud Wales | GOV.WALES