£1.5m i helpu cymunedau i gadw'n gynnes a chadw mewn cysylltiad
£1.5m to help communities stay warm and connected
Bydd £1.5m ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer canolfannau clyd ledled Cymru sy'n sicrhau lle croesawgar a diogel i bobl o bob oed.
Mae'r canolfannau'n cynnig lle diogel lle gall pobl gyfarfod, cael cyngor, a chadw'n gynnes, gan helpu cymunedau o bob oed trwy gyfnod heriol.
Mae llawer o'r canolfannau clyd yn cynnig cymorth ymarferol ar gyfer rheoli biliau, hawlio budd-daliadau, a chael hyd i gyngor ar sut i arbed ynni. Maent hefyd yn creu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, dysgu sgiliau newydd, neu fwynhau diod gynnes a sgwrs.
Mae'r ymrwymiad ariannol hwn yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 yn ychwanegol at yr £1.5m sydd eisoes yn cael ei ddarparu ar gyfer canolfannau clyd yn y flwyddyn ariannol hon. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau y gall y canolfannau barhau i gefnogi cymunedau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae'r canolfannau clyd wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion lleol ac mae'r cyllid yn cael ei ddyrannu drwy awdurdodau lleol. Maent yn dibynnu ar wirfoddolwyr ymroddedig i greu amgylcheddau cynhwysol a chefnogol.
Heddiw, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol â Chanolfan Glyd Pontarddulais, sef Canolfan y Bont, i weld o lygad y ffynnon sut mae'r canolfannau hyn yn gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. Mae Canolfan y Bont ar gael drwy gydol y flwyddyn, ac mae ar agor bedair gwaith yr wythnos. Mae'n cynnig lle diogel a chroesawgar i aelodau'r gymuned gadw'n gynnes, gwneud ffrindiau, mwynhau gweithgareddau, a chael pryd maethlon gyda'i gilydd.
Dywedodd Catherine Evans, Cydlynydd Canolfan Glyd Partneriaeth Pontarddulais: "Heb y ddarpariaeth hon, byddai llawer o aelodau o'n cymuned yn wynebu unigedd a chaledi, ac yn ei chael hi'n anodd ymdopi â heriau fel costau cynyddol ac adnoddau prin. Rydyn ni'n ei weld fel braint i weithio gyda nhw, gan ddarparu nid yn unig cynhesrwydd a maeth ond hefyd gwmnïaeth a chefnogaeth.
"Drwy'r Ganolfan Glyd, rydyn ni'n falch ein bod ni'n gweithio yn erbyn tlodi ac yn meithrin ymdeimlad o berthyn, gan sicrhau nad oes unrhyw un yn ein tref yn teimlo'n angof nac ar ei ben ei hun."
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: "Bydd y cyllid hwn yn golygu y gall pobl ledled Cymru barhau i gael mannau cynnes a chroesawgar yn eu cymunedau lleol. Hanfod y canolfannau clyd hyn yw bod pobl yn helpu pobl eraill – p'un a yw'n gyngor ymarferol neu'n sgwrs gyfeillgar, mae'r mannau hyn ar agor i bobl o bob oed ac yn darparu rhywbeth amhrisiadwy i bawb sy'n cerdded trwy'r drws."
Mae'r buddsoddiad yn rhan o becyn cymorth cyfredol ac ehangach Llywodraeth Cymru i bobl ledled Cymru dros y misoedd nesaf, gan gynnwys ein Cronfa Cymorth Dewisol, Gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl, a'r Cynllun Talebau Tanwydd.