Newyddion
Canfuwyd 173 eitem, yn dangos tudalen 7 o 15
Prosiect chwaraeon yn helpu rhagor o fenywod i fod yn egnïol
Mae Sports4All yn cynnig sesiynau gweithgareddau rhad ac am ddim i fenywod yng Nghaerdydd, ac yn annog menywod a merched Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i wella'u lles drwy gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Elusen iechyd meddwl yng Nghasnewydd yn elwa ar gymorth Llywodraeth Cymru
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths, wedi ymweld â Mind Casnewydd i weld sut mae £300,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi'r elusen i agor man lloches newydd yn eu hadeilad ac i ddarparu eu cyfleusterau i fwy o bobl.
Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ei hymrwymiad i wneud Cymru yn 'hafan ddiogel' i bobl LHDTC+
Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ei hymrwymiad i wneud Cymru yn 'hafan ddiogel' i bobl LHDTC+ drwy ddarparu'r gwasanaeth cymorth personol cyntaf o'i fath i'r rheini sy'n dioddef ac yn goroesi arferion trosi, meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ar Ddiwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Trawsffobia a Deuffobia (dydd Gwener 17 Mai).
Cyhoeddi cynigion i wella'r cydbwysedd o ran rhywedd yn y Senedd
Heddiw (11 Mawrth), rydym yn cyhoeddi cynigion cyfreithiol pwysig i gynyddu cyfran y menywod sy'n sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau'r Senedd yn y dyfodol.
'Banc pob dim' cyntaf Cymru yn darparu eitemau hanfodol i bobl mewn angen
Mae menter newydd i ddarparu nwyddau hanfodol i aelwydydd sydd mewn cyni wedi cael ei lansio yn Abertawe.
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cryfhau cysylltiadau â Llywodraeth Iwerddon yn ystod taith Dydd Gŵyl Dewi
Mae'r Gweinidog, Jane Hutt, wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru yn ystod taith i Ddulyn i nodi Dydd Gŵyl Dewi.
'Bydd Siarter Budd-daliadau Cymru yn ei gwneud yn haws i bobl hawlio'r hyn y mae ganddyn nhw'r hawl i'w gael', meddai'r Gweinidog
Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip wedi addo bod "gan Siarter Budd-daliadau Cymru y potensial i fod o fudd i filoedd o bobl sy'n byw mewn tlodi".
'Rhaid inni wella addysg am y mislif mewn ysgolion' – yn ôl y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
'Rhaid gwneud mwy i wella addysg am gylchred y mislif os ydyn ni am fynd i'r afael ag urddas mislif mewn ysgolion', meddai Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.
Llywodraeth Cymru yn penodi comisiynwyr i oruchwylio Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn dilyn adroddiad 'damniol'
Mae Comisiynwyr yn cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru i oruchwylio Awdurdod Tân ac Achub De Cymru.
Rhagflas dan embargo: Gweithredu Llywodraeth Cymru ynghylch Awdurdod Tân ac Achub De Cymru
Mae Llywodraeth Cymru ar fin cymryd camau digynsail i wella'r diwylliant a'r gwerthoedd yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, yn amlinellu ei hymateb i'r adroddiad damniol a ddatgelodd ddiwylliant o gasineb at fenywod yn y gwasanaeth a methiannau ehangach ym maes rheoli ac arweinyddiaeth.
Bydd yn gwneud datganiad llafar yn y Senedd brynhawn dydd Mawrth.
"Mae mynd i'r afael â thlodi plant yn ganolog i bopeth rydyn ni'n ei wneud," meddai'r Gweinidog
"Mae mynd i'r afael â thlodi plant yn ganolog i bopeth rydyn ni'n ei wneud." Dyna y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Jane Hutt wedi ymrwymo iddo.
"Rydyn ni'n ymdrechu i gyflawni nodau datblygu cynaliadwy ar gyfer pobl anabl ledled Cymru," meddai'r Gweinidog.
Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau i wella bywydau pobl anabl sy'n byw yng Nghymru.