English icon English
Derek Walker-2

Cyhoeddi Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol newydd Cymru

Wales’ new Future Generations Commissioner announced

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi mai Derek Walker fydd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol nesaf Cymru.

Bydd Derek Walker yn dechrau yn y swydd ar ôl i gyfnod y Comisiynydd presennol, Sophie Howe ddod i ben ar ddechrau 2023.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i greu swydd annibynnol i weithredu fel gwarcheidwad cenedlaethau'r dyfodol. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn swydd unigryw sy'n darparu cyngor a chymorth ar ddatblygu cynaliadwy ac yn annog y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus i arddel safbwynt mwy hirdymor ar benderfyniadau polisi, a diogelu a hyrwyddo anghenion cenedlaethau'r dyfodol.

Yn dilyn proses recriwtio drylwyr, cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford Derek Walker fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol newydd Cymru.

Ar hyn o bryd, Derek Walker yw Prif Swyddog Gweithredol Cwmpas, asiantaeth ddatblygu sy'n gweithio dros newid economaidd a chymdeithasol cadarnhaol. Mae'n un o'r asiantaethau mwyaf o'i fath yn y DU. Yn ystod ei amser fel Prif Swyddog Gweithredol,  mae Derek wedi newid cyfeiriad gwaith y sefydliad i ganolbwyntio ar ddulliau datblygu cynaliadwy. Mae wedi goruchwylio rhaglenni sydd wedi arwain at dwf sylweddol yn nifer y cwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a busnesau sydd ym mherchnogaeth gweithwyr yng Nghymru.

Mae Cwmpas hefyd wedi dod yn sefydliad y gofynnir iddo am gymorth ar gyfer gwaith i gryfhau cymunedau ac i wneud cymdeithas yn fwy cyfartal. Cyn gweithio yn Cwmpas, bu Derek yn gweithio fel Pennaeth Materion Allanol y Gronfa Loteri Fawr (Cymru), fel Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd TUC Cymru yn Hwlffordd. Derek oedd cyflogai cyntaf Stonewall Cymru hefyd.

Dywedodd Derek Walker:

“Rwy'n falch o gael fy mhenodi'n Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Mae'n rôl hanfodol wrth arwain trawsnewid ar draws ein gwlad, i greu bywydau a dyfodol gwell i'n dinasyddion.

“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhoi fframwaith deddfwriaethol i Gymru sy'n rhoi'r cyfle inni arwain y byd mewn datblygu cynaliadwy. Nid wyf yn tanbrisio'r her sydd o'n blaenau. Rwy'n ymrwymo i wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi cyrff cyhoeddus i sicrhau bod gweithredu'n cyd-fynd ag uchelgais y Ddeddf. ”

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Yn awr yn fwy nag erioed, mae rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn hollbwysig. Bydd yn helpu i lywio'r dyfodol tecach, mwy cyfartal rydyn ni i gyd eisiau ei weld.  Mae ar Gymru angen unigolyn cryf, annibynnol, ac uchel ei barch i ymgymryd â rôl y Comisiynydd, gan ein helpu i gyd i adael treftadaeth well i bobl a'r blaned.

“Mae gan Derek gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, ac rwy'n gwybod y bydd yn adeiladu'r cydberthnasau ledled Cymru i barhau â'r hwb dros newid a gychwynnwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a gwaith Sophie Howe.

"Hoffwn dalu teyrnged i Sophie Howe am ei holl waith yn ystod ei hamser fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae Sophie wedi gwneud y rôl yn rôl unigryw, gan ysbrydoli ein cenhedlaeth iau a chymdeithas yn gyffredinol, i feddwl yn ofalus am yr holl benderfyniadau rydyn ni'n ei gwneud, a sut y bydd hynny'n effeithio ar y rhai sy'n ein holynu fel arweinwyr yfory.

“Mae Sophie wedi gwneud cyfraniad trawiadol a hirhoedlog at drafodaeth gyhoeddus a pholisi yng Nghymru, a mawr yw ein diolch iddi am lywio rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol cyntaf Cymru."

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, a gadeiriodd y panel dethol trawsbleidiol:

“Mae'n hanfodol bod gan ein Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol nesaf yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r profiad i ymgymryd â'r her enfawr hon.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Derek Walker fel ein Comisiynydd newydd, i sicrhau'r dyfodol teg a chyfartal rydyn ni  i gyd am ei weld.

“Hoffwn ddiolch i Sophie Howe am ei holl waith wrth gyflawni ar gyfer cenedlaethau i'r dyfodol, gan ymgysylltu â phobl ifanc i fod yn rhan o'r broses a gwneud Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn beth llawn bywyd. Mae Sophie wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol a rhagweithiol ac am hynny byddwn bob amser yn ddiolchgar iddi am hynny."

Nodiadau i olygyddion

  • The Future Generations Commissioner post was established in the Well-being of Future Generations Act which sets out seven national well-being goals for a more prosperous, healthier, resilient, more equal and globally responsible Wales, with cohesive communities, a vibrant culture and thriving Welsh language.
  • For more info about some of the impact of the Future Generations Act, see: The Impact of the Act – The Future Generations Commissioner for Wales