“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb ledled Cymru sy’n gweithredu fel gwesteiwyr i Wcreiniaid, ond mae’n hanfodol bod mwy o aelwydydd yn cynnig lle.”
“We’re immensely thankful to all those across Wales who are acting as hosts to Ukrainians, but it’s vital that more households come forward.”
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt ar y Cynllun Cartrefi i Wcráin.
Yn y diweddariad diweddaraf ar sefyllfa Argyfwng Wcráin, mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi diolch i’r holl aelwydydd hynny ledled Cymru sydd wedi cynnig eu cartrefi i Wcreiniaid sy’n ffoi o’r Rhyfel ac mae’n annog mwy o aelwydydd i ddarparu’r cymorth hanfodol hwn.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
“Rwy’n falch iawn o ddweud bod mwy na 5,650 o bobl o Wcráin, sy’n cael eu noddi gan Lywodraeth Cymru ac aelwydydd yng Nghymru, eisoes wedi cyrraedd y DU. Mae mwy nag 8,200 o fisas wedi cael eu rhoi bellach i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, felly gallwn ddisgwyl i nifer y rhai sy’n cyrraedd barhau i gynyddu yn ystod yr wythnosau nesaf.
“Noddodd miloedd o aelwydydd o Gymru Wcreiniaid i gyrraedd Cymru ac fe wnaethant ymrwymo i’w cynnal am o leiaf 6 mis. Wrth i ni symud i’r hydref, rydym yn nesáu at ddiwedd y cyfnod cychwynnol hwnnw. Rydym yn gobeithio y bydd y gwesteiwyr a’r Wcreiniaid yn cytuno i ymestyn llawer o’r lleoliadau hynny, ond mae arnom angen gwesteiwyr ychwanegol i gefnogi’r rhai na allant barhau i fyw lle maent.”
“Er mwyn sicrhau croeso cynnes i Gymru, rwy’n rhoi gwahoddiad i aelwydydd ledled Cymru agor eu cartrefi i groesawu’r rhai sy’n ceisio noddfa. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb ledled Cymru sy’n gweithredu fel gwesteiwyr i Wcreiniaid, ond mae’n hanfodol bod mwy o aelwydydd ar gael.
“Rwy’n deall yn llwyr bod rhai pobl eisiau helpu ond efallai nad oes ganddynt yr adnoddau i wneud hynny, o ystyried yr amgylchiadau rydym i gyd yn eu hwynebu gyda’r argyfwng costau byw. Ond yr hyn rydym i gyd yn ei wybod, ac sydd wedi’i brofi droeon, yw bod pobl Cymru ymhlith y rhai mwyaf hael ledled y byd ac rwy’n siŵr y byddwn yn camu i’r adwy unwaith eto.
“Gall y syniad o groesawu pobl i’ch cartref fod yn heriol. Dyma pam rydym wedi ariannu Housing Justice Cymru i ddarparu gwasanaeth Cymorth i Westeiwyr sy’n cynnwys gwybodaeth arbenigol a dibynadwy, hyfforddiant, cyngor ac arweiniad i bobl sy’n croesawu, neu’r bobl sy’n ystyried croesawu, Wcreiniaid i Gymru. Mae rhagor o wybodaeth am sesiynau a hyfforddiant ar gael ar wefan Housing Justice Cymru. Rydym hefyd yn cyhoeddi canllawiau sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd ar gyfer gwesteiwyr a noddwyr yn gov.wales/ukraine.
“Mae arnom angen llawer mwy o aelwydydd o hyd i ystyried a allant ddarparu cartref i'r rhai mewn angen. Byddai hyn fel rheol yn ymrwymiad i letya am 6 i 12 mis. Os oes unrhyw un yn ystyried hyn rydym yn eu hannog i gofrestru eu diddordeb yn gov.wales/offerhome, ac i fynychu un o’r sesiynau ‘Cyflwyniad i Westeio’, a hwylusir gan Housing Justice Cymru. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth i barhau â’r broses os byddwch yn penderfynu nad yw ar eich cyfer chi.”
“Rydym hefyd wedi ffurfio partneriaeth gydag Airbnb.org i sicrhau y gellir darparu lleoliadau brys am dymor byr iawn i atal digartrefedd. Os na allwch chi letya am fwy na 6 mis ond y gallech chi gynnig eich eiddo am hyd at 30 diwrnod ar y tro, efallai y byddwch yn gallu cyfrannu hefyd. Ewch i gov.wales/offerhome a dilynwch y ddolen i blatfform Airbnb.org.”
Yn olaf, dywedodd y Gweinidog:
“Byddwn yn parhau i gyfathrebu â'r rhai sy'n cynnal Wcreiniaid, gyda chanllawiau a gwybodaeth wedi'u diweddaru i gefnogi'r rôl werthfawr rydych chi'n ei chyflawni.
“I bawb sydd eisoes yn cynnal Wcreiniaid ac i’r rhai sy’n ystyried hynny, diolch yn fawr, mae arnom ni ddyled enfawr i chi i gyd.”