English icon English
MSJ and DMSS with young care leavers-2

“Rydym yn buddsoddi ym mywydau'r rhai sydd angen help llaw," medd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol dilyn cyfarfod â phobl ifanc sy'n gadael gofal sy'n elwa ar gynllun peilot Incwm Sylfaenol

“We are investing in the lives of those who need a helping hand,” says Social Justice Minister after meeting with care leavers benefitting from Basic Income pilot scheme

“Rydym yn buddsoddi ym mywydau pobl ifanc sydd angen help llaw i gyflawni eu potensial," meddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, ar ôl cwrdd â'r rhai sy'n cymryd rhan mewn cynllun peilot Incwm Sylfaenol yng Ngogledd Cymru.

Bydd y cynllun, a gafodd ei lansio ym mis Gorffennaf, yn helpu dros 500 o bobl ifanc sy’n troi'n 18 oed ac yn gadael gofal yng Nghymru drwy gynnig £1600 bob mis (cyn treth) am ddwy flynedd i'w cefnogi wrth iddynt bontio i fywyd fel oedolyn.

Y gobaith yw y bydd y peilot yn gosod y rhai sy'n gadael gofal ar lwybr i fywydau iach, hapus a boddhaus.

Bydd y cynllun peilot gwerth £20 miliwn, a fydd yn parhau am dair blynedd, yn cael ei werthuso er mwyn edrych yn ofalus ar ei effaith ar fywydau'r rhai sy'n cymryd rhan.

Yng nghanol argyfwng costau byw, y gobaith yw y gall y gwersi a ddysgwyd o'r cynllun peilot fod o fudd i genedlaethau'r dyfodol drwy eu helpu i oresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth ddechrau bywyd fel oedolion. Gallai hyn fod yn fanteisiol iddyn nhw a'r gymdeithas ehangach.

Ar ôl lansio'r cynllun gyda'r Prif Weinidog a Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, fe wnaeth Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a'r Dirprwy Weinidog, gwrdd â nifer o bobl ifanc sy’n elwa ar y peilot yng Nghanolfan Fusnes Conwy yn gynharach heddiw (dydd Gwener, 28 Hydref) fel rhan o Wythnos Genedlaethol y Rhai sy'n Gadael Gofal.

"Mae wedi bod yn wych clywed am sut mae'r cynllun peilot eisoes wedi effeithio ar fywydau’r rhai sy'n cymryd rhan ynddo," meddai.

"Ein huchelgais ar gyfer y cynllun yw y bydd yn caniatáu i'r bobl ifanc hyn wneud eu dewisiadau eu hunain, boed hynny'n golygu dewis lle maen nhw'n byw, pa swyddi y gallant ymgeisio amdanynt, p’un ai parhau i astudio neu benderfynu mynd a theithio'r byd. Ni ddylai dewisiadau bywyd plant sy'n derbyn gofal gael eu penderfynu gan amgylchiadau eu plentyndod.

"Mae'n galonogol clywed faint sydd eisoes wedi derbyn cefnogaeth i gymryd y camau cyntaf i gyflawni hyn ac mae'n eu rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol."

Ychwanegodd: "Rydym eisiau iddynt gael annibyniaeth wrth fynd yn hŷn, a thrwy roi help llaw wrth iddynt ddechrau eu bywyd fel oedolyn gallwn wella eu siawns o wneud hynny.

"Drwy roi sefydlogrwydd ariannol i genhedlaeth o bobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau mawr i gyrraedd eu potensial llawn, rydym yn rhoi'r offer iddynt eu goresgyn a ffynnu."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: "Mae wedi bod yn galonogol clywed gan y bobl ifanc yr effaith mae'r cynllun peilot wedi'i gael ar eu bywydau. Rydyn ni wedi dysgu llawer o gwrdd â nhw heddiw ac rydyn ni'n eu gwerthfawrogi nhw'n rhannu eu meddyliau gyda ni

"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac mae llawer ohonynt wedi tyfu i fyny heb rwydwaith cymorth drwy eu blynyddoedd ffurfiannol.

"Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun hwn, yn ogystal â'r cyngor a'r wybodaeth sydd ar gael iddyn nhw drwyddo, yn rhoi'r hyder a'r sylfeini cryf iddyn nhw gyflawni eu breuddwydion."

Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot hefyd yn derbyn cyngor a chefnogaeth unigol i'w helpu i reoli eu cyllid a datblygu eu sgiliau ariannol a chyllidebu.

Bydd awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol wrth eu cefnogi drwy gydol y peilot. Bydd Voices from Care Cymru hefyd yn gweithio gyda'r bobl ifanc i roi cyngor iddynt ar les, addysg a chyflogaeth a'u helpu i gynllunio eu dyfodol ar ôl y peilot.

Roedd Emma Phipps-Magill o Voices from Care Cymru hefyd yn bresennol yn y cyfarfod, a dywedodd: "Rydym eisoes wedi gweld bod y peilot yn cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc sy'n gadael gofal wrth iddynt addasu i gael annibyniaeth ariannol.

"Rydym yn dal i fod yn nyddiau cynnar y peilot, ond maent wedi bachu ar y cyfle ac eisoes wedi gwneud cynnydd gyda llawer o'u nodau."

Nodiadau i olygyddion

  • The total Basic Income support will be £1,600 per calendar month (pre-tax) for a period of 24 months, starting on the first day of the calendar month immediately following the calendar month in which the recipient’s 18th birthday falls. After tax, the amount each recipient will receive per month is £1,280.
  • The Basic Income Pilot cohort will be limited to care leavers who reach their 18th birthday between 1 July 2022 and 30 June 2023.
  • The pilot will run for three years with each member of the cohort receiving a basic income payment of £1600 per month (before tax) for a duration of 24 months from the month after their 18th birthday.  
  • Participants in the pilot can choose whether to receive this payment either monthly or two times a month. It will be paid to them by an external provider.
  • The payment will be taxed at the basic rate of tax at source.
  • Participation in the pilot is voluntary. Eligible young people will be supported by their local authority and provided with advice funded by the Single Advice Fund, to decide if taking part in the pilot is the right choice for them. 
  • Welsh local authorities will play a critical role in delivering the Basic Income pilot. They will act as a first point of contact for the care leavers and will be responsible for guiding the young people in their care through the pilot. They will also provide vital feedback to Welsh Government on the pilot as it is rolled out.
  • The Welsh Government involved care leavers directly in the development of the pilot, as well as working with professionals in local authorities and have also established a Technical Advisory Group, chaired by Professor Sir Michael Marmot, bringing together experts in basic income and support for care leavers to inform the development and evaluation of the pilot.