Targed o fewn cyrraedd Cymru wrth i goeden rhif 20 miliwn gael ei phlannu yn Uganda
Wales edges closer to target with 20 millionth tree planted in Uganda
Mae rhaglen tyfu coed sy'n ceisio mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn dathlu carreg filltir bwysig wrth i goeden rhif 20 miliwn gael ei phlannu yn Uganda fel rhan o gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Nod Rhaglen Coed Mbale - a sefydlwyd gan fenter hirsefydlog Cymru ac Affrica - yw plannu 25 miliwn o goed erbyn 2025 mewn ardal fryniog, wedi'i datgoedwigo'n drwm yn nwyrain Uganda mewn ymgais i alluogi cymunedau i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.
Gan weithio gydag elusen Maint Cymru, mae'r fenter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE) a phedwar corff anllywodraethol lleol arall, yn dosbarthu egin coed am ddim i ffermwyr ac ysgolion lleol i gael eu plannu ar dyddynnod a thir yn y gymuned.
Mae'r rhaglen plannu coed yn cael effaith sylweddol ar yr ardal. Mae delweddau lloeren wedi dangos bod y gwaith o blannu coed newydd o fewn 5km i safleoedd meithrin saith gwaith yn uwch nag ymhellach i ffwrdd
Mae hefyd yn lleihau'r angen i dorri coed aeddfed, sefydledig ar ymylon coedwigoedd ymhellach i ffwrdd, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Mount Elgon, yn ogystal â darparu ffynhonnell gynaliadwy o bren tanwydd.
Mae manteision y rhaglen plannu coed hefyd yn cynnwys: cynhyrchu ffrwythau i wella maeth ac iechyd teuluoedd lleol, darparu meddyginiaeth i deuluoedd lleol a phorthiant ar gyfer anifeiliaid, darparu cysgod a lloches i gnydau, ysgolion a ffermdai, sefydlogi llethrau a darparu porthiant ar gyfer gwenyn a phryfed peillio eraill.
Mae'r rhaglen hefyd yn helpu i osod stofiau sy'n effeithlon o ran tanwydd i leihau'r angen am goed tân ac yn gweithio gyda menywod i gynyddu eu cyfraniad at waith gweithredu ar newid hinsawdd ar draws y rhanbarth.
Mae'r rhaglen, sy'n anelu at blannu dros 3 miliwn o goed y flwyddyn, yn helpu cymunedau sy'n byw ar reng flaen yr argyfwng hinsawdd i addasu a gwella eu bywoliaeth.
Mae dros 100 o staff wedi cael eu recriwtio ac mae 50 o feithrinfeydd coed dan arweiniad cymunedau wedi cael eu creu.
Mae'r prosiect yn cysylltu â Chynllun Plannu! Llywodraeth Cymru, sy’n plannu dwy goeden ar gyfer pob plentyn sy'n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru - un yn Uganda ac un yma yng Nghymru.
Cyfarfu'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, gyda chynrychiolwyr o METGE a Maint Cymru yn y Deml Heddwch yn gynharach yr wythnos hon (7 Tachwedd) i'w llongyfarch ar hynt y gwaith a thrafod dyfodol y rhaglen plannu coed.
Dywedodd: "Nid mater o blannu coed yn unig yw hyn, mae'n golygu ymgysylltu â phobl o bob oedran yng Nghymru ac Affrica ar newid hinsawdd a phwysleisio pwysigrwydd coed a choedwigoedd fel rhan o'r ateb.
"Rydym wedi cyflawni cynnydd rhyfeddol yn y blynyddoedd diwethaf, gan agosáu at ein targed uchelgeisiol o blannu 25 miliwn o goed erbyn 2025, a hynny er lles yr amgylchedd a hefyd er lles bywoliaeth llawer o bobl."
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
"Mae Rhaglen Planhigion Coed Mbale a Plannu! yn tystio i’n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan godi ymwybyddiaeth o broblemau datgoedwigo a sut y gallwn fynd i'r afael â hi.
"Mae cyrraedd y garreg filltir o blannu 20 miliwn o goed yn Uganda wrth i arweinwyr y byd baratoi i ddod ynghyd ar gyfer COP27 ac i nodi Diwrnod Datgarboneiddio. Mae’n dangos sut y gall dyfalbarhad a chydweithio gyflawni gwahaniaeth gwirioneddol.”
"Bydd ein haddewid i blannu tair miliwn yn rhagor o goed bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf yn arwain at fuddion sylweddol, nid yn unig i bobl sy'n byw yn rhanbarth Mbale, ond yn llawer ehangach gan y bydd yn cael cryn effaith ar newid hinsawdd."
Dywedodd Cyfarwyddwr Maint Cymru, Nicola Pulman:
"Mae'r rhaglen hon yn bwysig ar gyfer yr hinsawdd fyd-eang a lleol. Mae cyflawni’r garreg filltir o blannu 20 miliwn o goed yn bwysig ac yn dyst i ymdrechion y cymunedau a sefydliadau lleol ym Mbale, sydd wedi gweithio'n ddiflino gyflawni hyn.
"Mae'r rhaglen hon wedi dod yn adnabyddus ledled y rhanbarth ac mae'n newid agweddau pobl at goed. Bydd hyn o fudd nid yn unig i'r amgylchedd, ond i genedlaethau'r dyfodol yn ogystal."
Dywedodd George M. Sikoyo, Cyfarwyddwr Gweithredol Menter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE):
"Mae cyflawni’r garreg filltir o blannu 20 miliwn o goed yn newyddion gwych! Mae'n dilysu'r bartneriaeth ac yn pwysleisio pa mor benderfynol yw METGE a Maint Cymru, gyda chymorth cyllid gwerthfawr gan Lywodraeth Cymru, i wrthdroi dirywiad amgylcheddol a chynyddu gwydnwch yn yr hinsawdd yn ardal Mount Elgon yn Uganda.
''Mae'r rhaglen plannu coed yn chwarae rhan annatod wrth adfer tir a'i gwneud yn fwy cynhaliol i ffermwyr, eu cymuned a'u holl dirweddau.
"Mae'r manteision cyfunol hyn o goed yn helpu i wella diogelwch bwyd, hunanddibyniaeth, datblygiad economaidd yn ogystal â gwytnwch i’r newid yn yr hinsawdd a’r penderfyniad i adfer yr amgylchedd."
Nodiadau i olygyddion
The four local NGOs are Share an Opportunity, Salem Brotherhood, MEACCE (Mount Elgon Agroforestry Communities Cooperative Enterprise) and BRDC (Bungokho Rural Development Centre).
Three METGE representatives (Chair - Mary Manana, Director – George Sikoyo and Programme Officer – Michael Sunday) will be visiting Wales for two weeks from 5th – 18th November and are available for interview.