Newyddion
Canfuwyd 89 eitem, yn dangos tudalen 8 o 8

Agor cronfa i gefnogi pobl anabl sy’n sefyll mewn etholiad
Fel rhan o gronfa beilot gan Lywodraeth Cymru, gellir talu am ddehonglwyr iaith arwyddion, tacsis neu offer ar gyfer pobl anabl sy’n sefyll mewn etholiad.

“Rydyn ni eisiau sgwrs genedlaethol, gynhwysol am yr effaith y gall y mislif ei chael ar fywyd person.”
Heddiw [dydd Mercher, 20], mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu i ddiddymu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif i bawb yng Nghymru.

Llythyr y Prif Weinidog am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
"Yn dilyn fy llythyr agored blaenorol at ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir) yng Nghymru, hoffwn ailadrodd fy neges o gefnogaeth i’r unigolion hynny sy’n byw yma yng Nghymru ac sydd am barhau i wneud hynny.

“Mae'n sefyllfa gwbl warthus, amhosibl ei chyfiawnhau a dweud y gwir, bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod gwrando ac yn gwrthod amddiffyn y rhai mwyaf anghenus."
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, ar doriad Llywodraeth y DU i'r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol
Mewn sesiwn drafod yn y Senedd ar Gredyd Cynhwysol heddiw, condemniodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, Lywodraeth y DU yn llym oherwydd ei chynllun i dorri'r cynnydd o £20 yr wythnos, a fydd yn golygu bod miloedd o unigolion ledled Cymru, p’un a ydyn nhw mewn gwaith neu beidio, yn waeth eu byd.

Cymru yn dangos ei hagwedd unedig at groesawu pobl sy'n cyrraedd o Affganistan fel Cenedl Noddfa.
Yr wythnos hon, mae Cymru wedi pasio carreg filltir bwysig yn ein hymdrechion i ddarparu noddfa i ddinasyddion Affganistan sydd wedi cefnogi ein Lluoedd Arfog. Mae Cymru bellach yn rhoi llety i 50 o deuluoedd, sy'n cynnwys tua 230 o unigolion. Mae'r rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi cyrraedd wedi cefnogi unedau'r Lluoedd Arfog yng Nghymru yn uniongyrchol yn Affganistan dros yr 20 mlynedd diwethaf.