Diweddariad ar y Cynllun Cartrefi i Wcráin
Update on the Homes for Ukraine Scheme
Yn dilyn ymateb hynod gadarnhaol pobl Cymru i gynllun Uwch-Noddwyr Llywodraeth Cymru, sydd wedi arwain at gyflwyno mwy na 2000 o fisas hyd yma, mae Gweinidogion wedi cyhoeddi saib gweithredol dros dro ar geisiadau newydd yn ystod mis Mehefin. Diben y saib dros dro yw sicrhau bod pobl sy’n cyrraedd, a’r rhai sydd eisoes yma yng Nghymru, yn parhau i gael lefel ragorol o ofal a chefnogaeth.
Bydd y saib dros dro hwn yn dechrau o ddydd Gwener 10 Mehefin a bydd Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn defnyddio’r amser hwn i ganolbwyntio ar sefydlu trefniadau ar gyfer llety cam nesaf a darparu gwasanaethau cofleidiol ehangach ledled Cymru.
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
“O ddechrau’r gwrthdaro yn Wcráin, mae ein neges ni wedi bod yn glir – mae Cymru’n Genedl Noddfa ac yn barod i groesawu pobl sy’n ffoi rhag rhyfel.
“Wedi’i lansio ddiwedd mis Mawrth, rydyn ni wedi cael ymateb cadarnhaol iawn i’n llwybr Uwch-Noddwyr ar gyfer Cartrefi i Wcráin. Rydyn ni wedi gweld fisas yn cael eu rhoi ymhell y tu hwnt i'n hymrwymiad cychwynnol i groesawu 1000 o bobl.
“Bydd y saib dros dro hwn yn gyfle i ni fireinio’r trefniadau rydyn ni wedi’u rhoi ar waith i gefnogi pobl wrth iddyn nhw gyrraedd a sicrhau bod pob gwasanaeth cyhoeddus, yn enwedig awdurdodau lleol, yn gallu parhau i ddarparu cefnogaeth o safon uchel.
“I fod yn glir, ni fydd y saib gweithredol hwn yn effeithio ar unrhyw geisiadau cyfredol a bydd pobl yn parhau i gyrraedd Cymru wrth i fisas gael eu dyfarnu ac wrth i drefniadau teithio gael eu cadarnhau.”
Gan ganmol y dull ‘Tîm Cymru’ o ymdrin â’r argyfwng, dywedodd y Gweinidog wedyn:
“Mae lefel yr ymrwymiad i bobl Wcráin ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus a’r gymdeithas ehangach wedi bod yn wych.
“Rydw i eisiau talu teyrnged i bawb sy’n cyfrannu at ddull ‘Tîm Cymru’ o weithredu gyda’r argyfwng yn Wcráin. Mae’r cynllun hwn yn llwyddiant oherwydd yr holl unigolion, sefydliadau, busnesau, awdurdodau lleol a phartneriaid trydydd sector.
“Fe allwn ni i gyd fod yn falch o’r ymdrech arwrol i gefnogi pobol Wcráin, gan ddangos yn glir bod Cymru wir yn Genedl Noddfa.”
Nodiadau i olygyddion
- Mae 5,668 o geisiadau wedi'u cadarnhau wedi'u cyflwyno gyda noddwr yng Nghymru, gyda 2,866 ohonynt â Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr.
- Mae 4,909 o fisas wedi'u rhoi i'r rhai sydd â noddwr yng Nghymru, gyda 2,453 ohonynt â Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr.
- Mae 1,961 o bobl â noddwr yng Nghymru wedi cyrraedd y DU, gyda 480 ohonynt â Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr.