English icon English
Wales and Ukraine flags flying together-4

Rydym yma i’ch helpu i ailadeiladu eich bywydau ac ymgartrefu yng Nghymru’ – meddai’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ôl cyfarfod gwladolion o Wcráin

‘We are here to help you rebuild your lives and settle into Wales’ – vows Social Justice Minister after meeting Ukraine nationals

Mae gwladolion o Wcráin sydd wedi ffoi o’u gwlad ar ôl goresgyniad Rwsia wedi eu croesawu i Gymru gan y Prif Weinidog a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Cyfarfu’r Gweinidogion â’r gwladolion o Wcráin sy’n ceisio noddfa yng Nghymru ar Ddiwrnod Ffoaduriaid y Byd (20 Mehefin).

Fe wnaethant ymweld â Chanolfan Groeso lle mae mwy na 200 o bobl wedi eu noddi o dan gynllun Uwch-Noddwr Llywodraeth Cymru.

Mae miloedd o bobl eraill o Wcráin eisoes wedi hawlio noddfa yng Nghymru ar ôl ffoi o’r wlad ar ôl goresgyniad Rwsia, diolch i haelioni pobl sydd wedi gwirfoddoli i fod yn noddwr.

Mae mwy na 6,500 o bobl wedi eu croesawu i Gymru wedi i’w ceisiadau am fisa gael eu cadarnhau, ac mae Llywodraeth Cymru yn uwch-noddwr i 3,600 o’r rhain.

Mae 5,500 o fisâu eraill wedi eu cyhoeddi i bobl sydd â noddwyr yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn uwch-noddwr i 2,965 o’r rhain.

Mae’r ffigyrau gwirioneddol yn debygol o fod yn uwch gan fod cyfanswm y ceisiadau a gadarnhawyd yn dangyfrifiad o oddeutu 1,300, a’r cynllun uwch-noddwr yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r tangyfrifiad.

Yn ystod eu cyfnod yn y Ganolfan Groeso, rhoddwyd cymorth i westeion o ran gwaith ysgol i blant a phobl ifanc, cymorth i ddod o hyd i waith i oedolion, a chymorth i gadw mewn cysylltiad â theuluoedd eraill o Wcráin sydd yng Nghymru.

Yn ogystal â gwersi Saesneg a Mathemateg i’r plant, rhoddwyd gwersi Saesneg i oedolion er mwyn eu helpu i ymgartrefu yng Nghymru ac i hybu eu cyfleoedd o ddod o hyd i waith.

Mae pob ymdrech yn cael ei gwneud i gofrestru plant mewn ysgolion lleol pan fydd eu teuluoedd wedi dod o hyd i gymunedau addas i ymgartrefu ynddynt.

Mae Canolfannau Croeso ledled Cymru yn gweithio’n agos â llywodraeth leol, byrddau iechyd, elusennau ac eraill mewn ymdrech i ddod o hyd i leoedd addas i wladolion o Wcráin ymgartrefu.

Maent yn cael cyngor i’w cynorthwyo i ymgartrefu mewn gwlad newydd, gan gynnwys cymorth gydag arian, budd-daliadau lles a chyngor ynglŷn â dod o hyd i waith.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: “Rydym yn falch o fod wedi gallu croesawu miloedd o bobl i Gymru o Wcráin ac mae wedi bod yn fraint eu cyfarfod heddiw a chlywed eu hanesion.

“Rydym yn benderfynol o fod yn Genedl Noddfa a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu i ailadeiladu eu bywydau ac ymgartrefu yng Nghymru.

“Roeddem ni’n falch o weld yr ymdrech sy’n cael ei gwneud yn y Ganolfan Groeso i’w croesawu a gwneud iddynt deimlo’n gartrefol a hoffwn ddiolch iddynt am bopeth maent wedi ei wneud.”

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Rydym yn gweithio’n galed iawn gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i ddod o hyd i leoliadau i bobl ar ôl eu cyfnod yn y Ganolfan Groeso.

“Mae miloedd o aelwydydd yng Nghymru wedi dweud eu bod am gymryd rhan yn y cynllun Cartrefi i Wcráin ac mae nifer o’r rheini eisoes yn lletya pobl o Wcráin.

“Hoffem ddiolch iddynt am eu hymdrechion gan fod hynny, yn ogystal â’n Canolfannau Croeso ar draws Cymru, wedi bod o gymorth i ddarparu noddfa i’r rheini oedd mewn angen yn ystod cyfnod anodd iawn iddynt.”

Nodiadau i olygyddion

Captions:

  • Welsh and Ukraine flags flying high
  • First Minister Mark Drakeford with a Welsh dragon crocheted by a person from Ukraine
  • Social Justice Minister Jane Hutt met with Ukraine nationals who fled the country after the Russian invasion