Newyddion
Canfuwyd 167 eitem, yn dangos tudalen 4 o 14
Undeb credyd symudol cyntaf Cymru yn agor wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi hwb ariannol newydd o £1.3m
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £1.3m ychwanegol i ehangu opsiynau credyd fforddiadwy, gan helpu miloedd yn fwy o bobl ledled Cymru i gael mynediad at wasanaethau ariannol teg.
£1.5m i gefnogi teuluoedd ar incwm is
Mae cyllid nawr ar gael i helpu sefydliadau i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â thlodi plant ledled Cymru.
Chwalu rhwystrau: Menywod Cymru yn arwain mewn bywyd cyhoeddus
Mae menywod o bob cwr o Gymru yn camu i rolau arweiniol ac yn newid wyneb bywyd cyhoeddus, diolch i raglen fentora arloesol sydd newydd sicrhau tair blynedd arall o gyllid.
Bywyd newydd i 57 o adeiladau yng Nghymru
Ymhlith y 57 o brosiectau cymunedol sy'n rhannu cyllid newydd gwerth £4.8m gan Lywodraeth Cymru mae canolfan gymunedol newydd yn Nryslwyn sy'n cynnwys swyddfa bost a siop, gwelliannau sylweddol i Glwb Rygbi y Tyllgoed yng Nghaerdydd a chyn-ysgol gynradd yng Nghribyn, Ceredigion.
Digwyddiadau Balchder yn dod â chymunedau at ei gilydd ar draws Cymru
Gyda Mis Hanes LHDT+ ar y gweill, mae cymunedau ledled Cymru yn edrych ymlaen at dymor o ddathliadau Balchder yn ystod y misoedd nesaf. O drefi bach i ddinasoedd, bydd y digwyddiadau hyn yn dod â phobl at ei gilydd, gan greu mannau croesawgar lle gall pawb ddathlu amrywiaeth, teimlo eu bod yn cael eu gweld, a bod yn nhw eu hunain.
Bywyd newydd i leoliadau cymunedol ar draws Cymru
Mae dros 450 o leoliadau cymunedol ledled Cymru wedi cael eu hachub, eu gwella neu wedi cael eu creu o'r newydd gyda chymorth buddsoddiad gwerth £63m gan Lywodraeth Cymru - gan gadw lleoliadau hanfodol yn agored yn lleol wrth helpu cymunedau i greu canolfannau newydd lle gall pobl ddod at ei gilydd.
£300,000 i adfywio Eglwys Sant Marc ar gyfer cymuned Parc Caia
Mae Eglwys Sant Marc ym Mharc Caia, Wrecsam, yn cael ei thrawsnewid yn ganolfan ar gyfer chwaraeon, drama, clybiau cinio, a mwy, diolch i £300,000 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru.
£700k ychwanegol i ddarparu eitemau hanfodol am ddim i gymunedau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £700,000 i helpu Cwtch Mawr, banc-bob-dim yn Abertawe, i ymestyn ei gyrhaeddiad a chynnig eitemau hanfodol am ddim i hyd yn oed fwy o bobl mewn angen.
£1.5m i helpu cymunedau i gadw'n gynnes a chadw mewn cysylltiad
Bydd £1.5m ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer canolfannau clyd ledled Cymru sy'n sicrhau lle croesawgar a diogel i bobl o bob oed.
Cyngor a chymorth am ddim i hawlio'r hyn sy'n ddyledus i chi
Yn sgil amcangyfrif bod £2 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru, mae ymdrech newydd ar waith i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo ac i gynyddu incwm eu haelwydydd.
Diogel, cynnes a chysylltiedig: hybiau yn helpu cymunedau y gaeaf hwn
Mae hybiau diogel a chynnes yn rhoi cefnogaeth hanfodol i bobl y gaeaf hwn, gan gynnig mannau croesawgar i gadw'n gynnes, cysylltu ag eraill, a chael mynediad at gyngor a gwasanaethau yn ystod cyfnodau anodd.
£1.7m i gefnogi teuluoedd ac unigolion sy'n wynebu tlodi bwyd
Bydd cymorth hanfodol ar gael y gaeaf hwn i deuluoedd ac unigolion ar draws Cymru sy'n cael trafferth gyda chost bwyd, gyda £1.7m o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cyllid yn rhoi cymorth i'r rhai sydd fwyaf mewn angen ac yn cefnogi prosiectau cymunedol sy'n gweithio i atal a mynd i'r afael â thlodi bwyd yn y tymor hirach.