Gweinidog yr Economi yn galw ar weithwyr i ‘wrando a gweithredu’ i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail LHDTC+ mewn gweithleoedd yng Nghymru
Economy Minister calls on employers to 'listen and act’ to tackle LGBTQ+ discrimination in Welsh workplaces
“Ni ddylai unrhyw un gael ei ddal yn ôl am fod ei hunan” – dyna oedd geiriau Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw wrth i fis Pride dynnu i ben, gan esbonio’r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo gweithleoedd cynhwysol.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau Cymru i wella cydraddoldeb a chynhwysiant yn y gweithle fel rhan o gynllun uchelgeisiol i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru: Gyda’n Gilydd Mewn Balchder Llywodraeth Cymru, yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Plaid Cymru.
Mae’r Cynllun yn ymrwymo’r holl Weinidogion i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau masnach, cyflogwyr a phartneriaid eraill i ddiogelu gweithwyr LHDTC+ rhag wahaniaethu, hyrwyddo arferion gorau, a gwella gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.
Mae’n dilyn ymchwil a gynhaliwyd pan datblygwyd y Cynllun Gweithredu a ddangosodd fod pobl LHDTC+ ddwywaith yn fwy tebygol o brofi aflonyddwch neu fwlio na’u cyfoedion heterorywiol, tra bo bron i chwarter wedi nodi bod eu hunaniaeth wedi cael ei datgelu yn y gweithle.
Wrth ymweld â Bad Wolf, y cwmni cynhyrchu sy'n gyfrifol am His Dark Materials, Industry, I Hate Suzie, A Discovery of Witches a Doctor Who yn Wolf Studios Wales ym Mae Caerdydd, cyfarfu Gweinidog yr Economi â staff ac aelodau'r criw, gan gynnwys y rhai o'r gymuned LGBTQ+ a'r rhai sy'n gyfrifol am addewid Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y cwmni, i drafod polisïau ac arferion gweithle sy'n darparu amgylchedd lle gall gweithwyr LHDTC+ ffynnu.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Ni ddylai unrhyw un gael ei ddal yn ôl yn y gwaith am fod ei hunan ac mae'n annerbyniol bod pobl LHDTC+ ddwywaith yn fwy tebygol o wynebu gwahaniaethu o'i gymharu â'u cyfoedion heterorywiol.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ymrwymiad i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+. Mae cydraddoldeb a chynhwysiant yn hanfodol i'n gweledigaeth o sicrhau economi decach ac rwy'n annog busnesau yng Nghymru i wrando a gweithredu ar y gwahaniaethu y mae gormod o weithwyr yn ei wynebu o hyd.
"Mae busnesau arloesol fel Bad Wolf yn dangos sut y gall rhoi cydraddoldeb a chynhwysiant wrth wraidd strategaeth y gweithlu ddatgloi talent holl weithwyr Cymru.
"Mae pobl o bob cymuned wedi bod yn dathlu mewn digwyddiadau Pride ledled Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rwy'n benderfynol o weld yr ysbryd cynhwysol hwnnw o ddathlu yn cael e drosi i greu gweithleoedd mwy cyfartal, lle mae staff LHDTC+ yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi, gan weithio gyda busnesau, undebau llafur a phartneriaid allweddol eraill."
Hefyd, lansiodd Gweinidog yr Economi a'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol y Cynllun Gweithredu Manwerthu ym mis Mai 2023. Mae'r Cynllun yn cynnwys camau i hyrwyddo Gwaith Teg a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithlu.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn:
“Ni ddylai unrhyw un deimlo bod yn rhaid iddo guddio pwy ydyw. Rydyn ni am weld Cymru lle y mae pawb yn gallu byw eu bywydau fel eu gwir hunain, yn rhydd o ofn a gwahaniaethu.
“Yn anffodus, rydyn ni’n byw mewn oes lle y gall deimlo bod ein hawliau mewn perygl o gamu yn ôl, a dyna pam, drwy ein Cynllun Gweithredu LHDTC+, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno newid ystyrlon i gymunedau LHDTC+.
“Mae hynny’n cynnwys dileu gwahaniaethu fel bod gweithwyr yn teimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu cefnogi ac yn hapus yn y gwaith. Bydd hyn yn gwella iechyd, yn arwain at berthnasoedd gwell yn y gwaith ac yn hybu creadigrwydd a chynhyrchiant.”
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynllun gweithredu TUC Cymru (Cyngres yr Undebau Llafur) ar 10 cam tuag at gweithleoedd sy’n cynnwys pobl LHDTC+ a gyhoeddwyd yn mis Mai 2023.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
"Mae pob gweithiwr yn haeddu teimlo'n ddiogel, a’i fod yn cael ei barchu a'i werthfawrogi yn y gwaith. Mae pobl LHDTC+ yn fwy tebygol o wynebu casineb ar ffurf trawsffobia, homoffobia, deuffobia neu fathau eraill o gasineb a gwahaniaethu. Gall hyn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl, eu gallu i symud ymlaen a’u perfformiad yn y gwaith. Hefyd, mae llawer o bobl draws, rhyngrywiol a phobl nad ydynt yn cydymffurfio o ran eu rhywedd yn dweud eu bod yn dioddef o drawsffobia parhaus, triniaeth negyddol, ac ymddygiad ymosodol yn y gwaith neu wrth chwilio am waith.
"Mae mudiad yr undebau llafur yng Nghymru wedi ymrwymo i ymladd dros hawliau pob gweithiwr. Rydym am i bob gweithiwr LHDTC+, gan gynnwys y rhai sydd â hunaniaethau croestoriadol fod yn falch ac yn ddiogel yn y gwaith. Mae pawb yn haeddu gweithio mewn amgylchedd cynhwysol, parchus a diogel. Rydym yn croesawu cynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru ac wedi llunio canllawiau sy'n helpu cynrychiolwyr undebau a chyflogwyr i'w gweithredu. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i sicrhau bod gweithwyr LHDTC+ yn gallu bod eu hunain, ac yn falch o hynny, yn y gwaith."
Dywedodd Prif Weithredwr Bad Wolf, Jane Tranter:
"Mae Bad Wolf yn gwmni sy'n seiliedig ar y gred bod yn rhaid i amrywiaeth a chynwysoldeb fod wrth wraidd popeth a wnawn, ac roeddem yn falch iawn o allu croesawu'r Gweinidog ac egluro sut rydym wedi adeiladu'r cwmni dros yr 8 mlynedd diwethaf gyda'r ethos cryf hwnnw mewn golwg. Dylai creadigrwydd a chynwysoldeb fynd law yn llaw bob amser ac mae Bad Wolf yn ymdrechu i fod yn le lle gall y ddau ffynnu yn gyfartal. Rydyn ni’n falch iawn o’r gwaith a wnawn a’r timau amrywiol sy'n gwneud eu gorau yn y stiwdio a'n cynyrchiadau bob dydd."