'Canolfannau cymunedol ledled Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas'
‘Community centres across Wales play a crucial role in supporting the most vulnerable members of our society’
Wrth agor canolfan gymunedol sydd wedi elwa ar arian gan Lywodraeth Cymru, dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol fod canolfannau cymunedol ledled Cymru'n chwarae rhan ganolog wrth gefnogi aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.
Mae cyllid gan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol wedi helpu canolfannau cymunedol - ynghyd ag amrywiaeth o gyfleusterau eraill - i wneud gwelliannau a gwaith atgyweirio ac ailddatblygu ledled Cymru.
Bob blwyddyn gall prosiectau wneud cais am grantiau o hyd at £300,000 i dalu am gost uwchraddio eu cyfleusterau cymunedol, yn ogystal â grantiau bach o hyd at £25,000.
Yn y flwyddyn ariannol 2021/22, dyfarnwyd grantiau gwerth bron i £7.7m i 71 o brosiectau ar draws Cymru.
Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ariannu prynu a gwella cyfleusterau sy'n darparu cyfleoedd i bobl leol wella eu bywydau o ddydd i ddydd.
Ymhlith y prosiectau sydd wedi elwa ar draws Cymru y mae Haverhub yn Sir Benfro a gafodd £250,000 i wneud gwaith ailddatblygu mewnol ac allanol ar hen Swyddfa Bost; Gerddi’r Rheilffordd yn Sblot, Caerdydd a gafodd £214,550 i wella mynediad, creu canolfan gymunedol, creu gardd gymunedol, adeiladu lleoliad digwyddiadau/ystafell ddosbarth awyr agored a darparu man diogel i storio beiciau; Menter Ty'n Llan yng Ngwynedd a gafodd £250,000 i adnewyddu tafarn leol er mwyn creu canolfan gymunedol gan gynnwys atgyweiriadau sylweddol i do, goleuadau, nenfydau, pibellau dŵr a gwteri, a symud asbestos; Canolfan Cwmbrân i Bobl Ifanc yn Nhorfaen a gafodd £148,556 i dalu am gost creu caffi cymunedol, gardd gymunedol, ystafell les/cwnsela, campfa a man hamdden; Sied Nwyddau Llanelli yn Sir Gâr a gafodd £25,000 er mwyn creu caffi cymunedol a man dehongli treftadaeth; a Groundworks Caerffili a gafodd £25,000 i adnewyddu'r adeilad gan gynnwys gosod drysau a ffenestri sash newydd ac atgyweirio difrod a achoswyd gan ddŵr yn dod i mewn.
Yn gynharach heddiw (21 Ebrill), aeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i agoriad swyddogol Canolfan Iechyd a Lles Roundhouse Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni.
Cafodd yr Ymddiriedolaeth grant o £250,000 yn 2012/22 er mwyn prynu a gosod y ganolfan gymunedol, y maen nhw'n cyfeirio ato fel y ‘Roundhouse’, sydd bellach yn helpu ystod eang o bobl.
Mae'r prosiect wedi helpu pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol, wedi mynd i'r afael ag unigrwydd ac wedi cynnig mwy o gyfleoedd gwirfoddoli.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau sy’n fuddiol i’r gymuned leol, gan gynnwys clwb gwau, clybiau garddio, mwy na 50 o ddosbarthiadau a rhaglenni i wella ffitrwydd.
Meddai Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: "Rwyf mor falch bod y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol wedi gallu helpu i gyflawni gweledigaeth Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni ar gyfer y dyfodol ac rwy'n gwybod y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran cefnogi iechyd a lles y gymuned leol.
"Deallwn fod gofodau fel hyn yn hanfodol i'r gymuned leol, fel lleoliad i glybiau gyfarfod ac ar gyfer cynnal rhaglenni iechyd a ffitrwydd a dosbarthiadau i bobl ddysgu ohonynt.
"Mae canolfannau cymunedol yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi’r aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas ac rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi drwy bethau fel ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, er mwyn iddynt allu parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol i gymunedau ledled Cymru."
Dywedodd Gitti Coats, cyfarwyddwr prosiect Cwmni Buddiant Cymunedol Haverhub yn Sir Benfro: "Fe wnaethom wario llawer o'r arian ar osod y gegin yn llawn er mwyn gallu ei ddefnyddio'n fasnachol, fel bod modd i ni wahodd cogyddion ac arlwywyr proffesiynol i'w defnyddio. Diolch i hyn rydym yn gallu rhedeg caffi cymunedol chwe diwrnod yr wythnos a stondin goffi bob hyn a hyn hefyd. Mae wedi dod yn ofod croesawgar i bobl o bob oed ddod i gyfarfod â’i gilydd.
Ychwanegodd: "Fe wnaethom hefyd wario arian ar offer AV fel bod cerddorion lleol yn gallu perfformio ar y llwyfan ac rydym yn cynnal noson meic agored unwaith yr wythnos. Mae tua 60-80 o bobl yn ymuno â ni ar nos Fercher wlyb ac mae'n darparu gofod ac amgylchedd diogel i bobl ifanc ddod at ei gilydd."
Dywedodd David Nicholson, wrth sôn am Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân: "Mae'r grant wedi ein helpu i chwyldroi'r Ganolfan yn llwyr mewn sawl ffordd ac yn rhoi'r potensial i ni greu mwy o incwm ar ein taith i gynaliadwyedd. Mae wedi ein galluogi i ddod â'r Ganolfan i’r 21ain ganrif o ran yr adeilad a throi mannau segur yn ganolfannau cymunedol newydd.
Ychwanegodd: "Rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn y defnydd o’r adeilad, er enghraifft yn ystod ein sesiynau galw heibio gyda’r nos, ac mae wedi ein galluogi i ddarparu amrywiaeth o raglenni hyfforddiant ac iechyd a lles a gweithgareddau na fyddai wedi bod yn bosibl o'r blaen. Fe wnaeth yr arian helpu i greu ein canolfannau cymunedol, gan roi pum canolfan newydd i ni.
"Mae'r newidiadau wedi bod yn hynod boblogaidd gyda phobl ifanc, staff a'r gymuned fel ei gilydd."
Meddai Rebecca Clark, Cyfarwyddwr Gerddi’r Rheilffordd yn Sblot: "Mae cyllid Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl hanfodol i'n posiect a arweinir gan y gymuned yn Sblot, Caerdydd, ac mae wedi helpu i wireddu gweledigaeth a grëwyd gan bobl leol.
"Mae Gerddi’r Rheilffordd yn ofod i'r gymuned gyfan ddysgu, tyfu, rhannu a chwarae, a dod at ei gilydd i weithredu ar faterion sydd o bwys iddyn nhw. Mae'r gronfa hon wedi ein helpu i greu gerddi glaw hardd, gan wneud y safle'n fwy gwydn i lifogydd, a darparu llwybrau hygyrch a thoiled i gynyddu cynwysoldeb ac adeilad cymunedol canolog a grëwyd yn gyfan gwbl o gynwysyddion llongau a fydd yn cael ei ddefnyddio i gynnal gweithdai, digwyddiadau a dathliadau.
"Rydym yn gobeithio, wrth i'n safle barhau i dyfu, y gall gynnig lle diogel a chroesawgar i'r gymuned gyfan."