"Creu'r Gymru ry'n ni eisiau ei gweld" – mae’r sgwrs gelfyddydol cwiar genedlaethol gyntaf o’i fath yn cael ei chynnal yn yr Eisteddfod
“Creating the Wales we want to see” – First national queer arts talk of its kind gets underway at the Eisteddfod
Mae Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, wedi gweld Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru ar waith heddiw yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ochr yn ochr â’r Aelod Arweiniol Dynodedig, Siân Gwenllian AS, fe agorodd hi’r 'Camp Cymru' cyntaf.
Mae Camp Cymru yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae’n dod ag artistiaid, pobl greadigol ac aelodau o'r gymuned LHDTC+ ynghyd i drafod y celfyddydau cwiar Cymraeg yng Nghymru.
Mae’n bum mlynedd ers sefydlu Mas ar y Maes – sef mannau cyfrwng Cymraeg ar y maes i gynnwys a dathlu pobl LHDTC+ - yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2018. Felly, bydd digwyddiad cyntaf Camp Cymru yn achlysur arall sy’n digwydd am y tro cyntaf – gan mai hon fydd y sgwrs gelfyddydol cwiar genedlaethol gyntaf o'i bath yng Nghymru. Ac mae’r cyfan yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd yn gyfle i ystyried, trafod a dathlu datblygiadau diweddar, gan edrych at ddyfodol y gymuned LHDTC+ yng Nghymru.
Mae'r rhaglen o ddigwyddiadau, sydd wedi’u trefnu gan Mas ar y Maes a Pride yn dangos sut mae Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru yn cael ei roi ar waith yn ymarferol. Ac mae’n helpu i gefnogi argymhellion fel sicrhau bod anghenion siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu wrth gynrychioli diwylliant LHDTC+.
Er nad yw'r Gymraeg yn nodwedd warchodedig, mae'r Cynllun Gweithredu yn cydnabod bod gan bobl LHDTC+ sy'n siarad Cymraeg anghenion penodol o ran y Gymraeg.
Mae Marc Rees yn artist ac yn un o'r trefnwyr. Dywedodd: "Mae Camp Cymru yn ddiwrnod o ddigwyddiadau a thrafodaethau sy'n rhoi cyfle i ddathlu ond hefyd edrych yn drylwyr ar y dyfodol, a chael eich cyffroi ganddo.
"Mae'r Eisteddfod wedi newid yn ddramatig dros y blynyddoedd, a dwi'n meddwl ei bod hi mor bwysig ein bod ni'n newid. Rydym yn croesawu newid. Rydym yn croesawu pobl LGBTQ+ a'u gwaith.
"Mae taith Llywodraeth Cymru i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop yn hynod uchelgeisiol. Mae'n daith y gallwn ni ei gwneud gyda'n gilydd, ac mae'n wych bod yr Eisteddfod yn ein cefnogi."
Lansiwyd y Cynllun Gweithredu LHDTC+ ym mis Chwefror, fel rhan o’r Cyundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Mae’r Cynllun yn pwysleisio’r bwriad i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.
Derbyniodd ganmoliaeth ryngwladol gan y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddar fel enghraifft o arfer dda o ran llunio polisïau hawliau dynol, gan nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau, gobeithion a stori pob person LHDTC+ fel rhan o’r uchelgais i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop.
Wrth lansio Camp Cymru, traddododd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Hannah Blythyn, sy'n ddysgwr Cymraeg, araith yn Gymraeg. Dywedodd: "Ers gormod o amser, mae diwylliant a threftadaeth LHDTC+ Cymraeg wedi bod ynghudd, er eu bod yn cyfrannu at etifeddiaeth ein cenedl.
"Mae angen adrodd y straeon hyn ac mae digwyddiadau fel Camp Cymru yn rhoi cyfle i ni ddathlu a gwella’r gynrychiolaeth i gymunedau LHDTC+ fel rhan o dreftadaeth a diwylliant Cymru.
"Mewn oes lle y gall deimlo fel petai perygl y byddwn ni’n colli ein hawliau, a ninnau’n dal i wynebu gwahaniaethu ac aflonyddu yn rhy aml, mae'n rhaid i ni sefyll yn gadarn dros undod a chynhwysiant, yn chwyrn yn erbyn cymdeithas ranedig sy’n allgau, a chredu mewn gobaith nid casineb."
Uchelgais Llywodraeth Cymru yw gweld nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog: "I mi, mae Cymraeg 2050 a'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn mynd law yn llaw. Mae’r ddau yn ymwneud â chreu'r Gymru rydyn ni am ei gweld, a'r Gymru rydyn ni am ei llunio ar gyfer ein pobl ifanc.
"Trwy gydweithio, gallwn ni helpu i sicrhau bod diwylliant LHDTC+ Cymraeg yn ffynnu - a gwireddu gweledigaeth arall ar ein taith tuag at wella cydraddoldeb i bob cymuned LHDTC+."
Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chronfa Balchder Llawr Gwlad, i helpu digwyddiadau mewn trefi llai ac ardaloedd gwledig i ymgysylltu â phobl LHDTC+ a chymunedau ehangach, a’u cefnogi. Mae digwyddiadau Balchder ledled Cymru yn parhau i gynnig cyfleoedd cymdeithasol ymhlith grwpiau, gan gynnwys pobl LHDTC+ sy'n siaradwyr Cymraeg.
Dywedodd Sian Gwenllian AS: "Mae'n wych gweld bod ymdrechion yr Eisteddfod Genedlaethol i gofleidio amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd o nerth i nerth – sy’n rhoi’r weledigaeth o genedl gyfartal lle mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd wrth wraidd cenhadaeth a rhaglen yr ŵyl.
"Trwy weithio gyda doniau creadigol y gymuned LHDTC+, a'u cefnogi, gallwn ni adeiladu ar lwyddiant datblygiadau arloesol blaenorol fel Mas ar y Maes. Ar yr un pryd rydyn ni’n rhoi ein Cynllun Gweithredu LHDTC+ ar waith yn ymarferol - sy’n anelu at sicrhau mai ein cenedl ni yw’r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop - yng ngŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop.
"Mae cynnal digwyddiad cyntaf Camp Cymru yn yr Eisteddfod eleni nid yn unig yn sicrhau cyfle pwysig i fwynhau celf a diwylliant cwiar yn naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae hefyd yn ddatganiad clir bod yr Eisteddfod yn perthyn i bawb ac yn dathlu holl amrywiaeth Cymru. Mae'n dangos, drwy weithio gyda'n gilydd, y gallwn ni greu cenedl fwy cyfiawn, teg a goddefgar, lle mae pawb yn rhydd i fod yn driw iddyn nhw eu hunain."