English icon English
Railways Gardens shipping containers-2

'Canolfannau cymunedol ar draws De Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas'

‘Community centres across South Wales play a crucial role in supporting the most vulnerable members of our society’

Wrth agor canolfan gymunedol sydd wedi elwa ar arian gan Lywodraeth Cymru, dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol fod canolfannau cymunedol ar draws De Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.

Mae cyllid gan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol wedi helpu canolfannau cymunedol - ynghyd ag amrywiaeth o gyfleusterau eraill - i wneud gwelliannau a gwaith atgyweirio ac ailddatblygu ledled Cymru.

Bob blwyddyn gall prosiectau wneud cais am grantiau o hyd at £300,000 i dalu am gost uwchraddio eu cyfleusterau cymunedol, yn ogystal â grantiau bach o hyd at £25,000.

Yn y flwyddyn ariannol 2021/22, dyfarnwyd grantiau gwerth bron i £7.7m i 71 o brosiectau ar draws Cymru.

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ariannu prynu a gwella cyfleusterau sy'n darparu cyfleoedd i bobl leol wella eu bywydau o ddydd i ddydd.

Ymysg y prosiectau sydd wedi elwa yn Ne Cymru y mae Gerddi’r Rheilffordd yn Sblot, Caerdydd a gafodd £214,550 i wella mynediad, creu canolfan gymunedol, creu gardd gymunedol, adeiladu lleoliad digwyddiadau/ystafell ddosbarth awyr agored a darparu man diogel i storio beiciau; a Chanolfan Ddiwylliant ac Addysg Al-Ikhlas yng Nghaerdydd a gafodd £250,000 i adnewyddu dau gyfleuster cyfagos i greu canolfan gymunedol.

Yn gynharach heddiw (21 Ebrill), aeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i agoriad swyddogol Canolfan Iechyd a Lles Roundhouse Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni.

Cafodd yr Ymddiriedolaeth grant o £250,000 yn 2012/22 er mwyn prynu a gosod y ganolfan gymunedol, y maen nhw'n cyfeirio ato fel y ‘Roundhouse’, sydd bellach yn helpu ystod eang o bobl.

Mae'r prosiect wedi helpu pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol, wedi mynd i'r afael ag unigrwydd ac wedi cynnig mwy o gyfleoedd gwirfoddoli.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau sy’n fuddiol i’r gymuned leol, gan gynnwys clwb gwau, clybiau garddio, mwy na 50 o ddosbarthiadau a rhaglenni i wella ffitrwydd.

Meddai Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: "Rwyf mor falch bod y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol wedi gallu helpu i gyflawni gweledigaeth Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni ar gyfer y dyfodol ac rwy'n gwybod y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran cefnogi iechyd a lles y gymuned leol.

"Deallwn fod gofodau fel hyn yn hanfodol i'r gymuned leol, fel lleoliad i glybiau gyfarfod ac ar gyfer cynnal rhaglenni iechyd a ffitrwydd a dosbarthiadau i bobl ddysgu ohonynt.

"Mae canolfannau cymunedol yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi’r aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas ac rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi drwy bethau fel ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, er mwyn iddynt allu parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol i gymunedau ledled Cymru."

Dywedodd Rebecca Clark, Cyfarwyddwr Gerddi’r Rheilffordd yn Sblot: "Mae cyllid Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl hanfodol i'n posiect a arweinir gan y gymuned yn Sblot, Caerdydd, ac mae wedi helpu i wireddu gweledigaeth a grëwyd gan bobl leol.

"Mae Gerddi’r Rheilffordd yn ofod i'r gymuned gyfan ddysgu, tyfu, rhannu a chwarae, a dod at ei gilydd i weithredu ar faterion sydd o bwys iddyn nhw. Mae'r gronfa hon wedi ein helpu i greu gerddi glaw hardd, gan wneud y safle'n fwy gwydn i lifogydd, a darparu llwybrau hygyrch a thoiled i gynyddu cynwysoldeb ac adeilad cymunedol canolog a grëwyd yn gyfan gwbl o gynwysyddion llongau a fydd yn cael ei ddefnyddio i gynnal gweithdai, digwyddiadau a dathliadau.

"Rydym yn gobeithio, wrth i'n safle barhau i dyfu, y gall gynnig lle diogel a chroesawgar i'r gymuned gyfan."

Nodiadau i olygyddion

  • Railways Gardens in Cardiff have used shipping containers to host workshops, events and celebrations.
  • Meadow flowering at Railway Gardens in Cardiff
  • Minister for Social Justice Jane Hutt, Director of of Llanrumney Hall Community Trust Steve Borley and Development Manager Mary Harris officially opening Llanrumney Hall Community Trust’s Roundhouse Health & Wellbeing Centre
  • Llanrumney Hall Community Trust’s Roundhouse Health & Wellbeing Centre

For information about other projects awarded Community Facilities Programme funding in Wales, see: Community Facilities Programme: grants awarded 2015 to 2026 | GOV.WALES