English icon English
Brecon Aberhonddu Pride2

Digwyddiadau Balchder yn dod â chymunedau at ei gilydd ar draws Cymru

Pride events bringing communities together across Wales

Gyda Mis Hanes LHDT+ ar y gweill, mae cymunedau ledled Cymru yn edrych ymlaen at dymor o ddathliadau Balchder yn ystod y misoedd nesaf. O drefi bach i ddinasoedd, bydd y digwyddiadau hyn yn dod â phobl at ei gilydd, gan greu mannau croesawgar lle gall pawb ddathlu amrywiaeth, teimlo eu bod yn cael eu gweld, a bod yn nhw eu hunain.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi digwyddiadau Balchder ar lawr gwlad, gan eu helpu i dyfu, cyrraedd mwy o bobl, trefnu perfformwyr o Gymru, a chreu mannau croesawgar sydd wedi'u creu gan ac ar gyfer pobl LHDTC+ a'u cynghreiriaid.

Y llynedd, cafodd ddigwyddiadau Balchder ledled Cymru gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys yr un yn Aberhonddu. Dywedodd Michael Price, Cadeirydd Balchder Aberhonddu: "Mae digwyddiadau balchder fel Balchder Aberhonddu yn cael effaith wirioneddol drawsnewidiol ar gymunedau gwledig fel ein cymuned ni. Nid yn unig maen nhw'n creu gofodau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi a'u dathlu, a all fod yn arbennig o ystyrlon mewn meysydd lle mae gwelededd LHDTC+ yn llai cyffredin, ond maen nhw hefyd yn helpu i hybu ymdeimlad o gymuned, gyda chynghreiriaid ac aelodau o'r gymuned LHDTC+ yn dod at ei gilydd i ymladd dros achos unedig a'i ddathlu.

"Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi gallu tyfu ein digwyddiadau, cyrraedd mwy o bobl, a chreu ymdeimlad cryfach o berthyn i unigolion a chynghreiriaid LHDTC+ ledled y rhanbarth."

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: "Mae Mis Hanes LHDTC+ yn gyfle i ni fyfyrio ar y cynnydd sydd wedi’i wneud a heriau'r dyfodol. Er bod pobl LHDTC+ yn wynebu gwahaniaethu mewn sawl rhan o'r byd, mae Cymru'n gweithio tuag at fod y genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+. Mae ein Cynllun Gweithredu LHDTC+ eisoes yn cael effaith wirioneddol, ac mae digwyddiadau Balchder yn rhan enfawr o'r cynnydd hwnnw.

"Gall y dathliadau hyn newid bywydau. I rai, efallai mai mynychu digwyddiad Balchder yw'r tro cyntaf iddynt deimlo eu bod wir yn cael eu derbyn. Mae pob digwyddiad Balchder, mawr neu fach, yn helpu i adeiladu Cymru lle gall pawb fyw yn agored ac yn falch."