Newyddion
Canfuwyd 63 eitem, yn dangos tudalen 1 o 6
Ysgolion, colegau a phrifysgolion i elwa ar dros £40 miliwn o gyllid cynnal a chadw ychwanegol
Mae £40.5 miliwn yn ychwanegol o gyllid wedi'i ddyrannu eleni i gefnogi gwaith atgyweirio a chynnal a chadw cyfalaf hanfodol ar draws yr ystad addysg yng Nghymru.
Mae hyn yn adeiladu ar y cyhoeddiad blaenorol o £20 miliwn ar gyfer ysgolion a cholegau a wnaed ym mis Ionawr.
Datgelu straeon Cymru drwy archif ddigidol am ddim
Bydd casgliad newydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am eu hardal leol a hanes amrywiol Cymru.
Prydau ysgol am ddim yn lleddfu'r pwysau ariannol i deuluoedd
Mae ymchwil newydd yn dangos bod y cynllun prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd wedi cael gwared ar rwystrau ariannol, wedi cynyddu mynediad at brydau ysgol ac wedi lleihau stigma.
Pecyn cymorth newydd ar ymddygiad i ysgolion
Yn dilyn yr Uwchgynhadledd Ymddygiad Genedlaethol yn 2025, heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn newydd o brosiectau i gefnogi ysgolion ledled Cymru gydag ymddygiad, lles ac ymgysylltiad.
Y ffenestr geisiadau ar agor i athrawon sy'n siarad Cymraeg ac sy'n dymuno symud i ysgolion uwchradd
Mae rhaglen i gefnogi athrawon sy'n siarad Cymraeg i fynd yn athrawon uwchradd yng Nghymru ar agor bellach, a gellir gwneud ceisiadau tan 22 Chwefror 2026.
Datblygu adnoddau Cymru gyfan i gefnogi diogelwch mewn ysgolion
Mae adnoddau Cymru gyfan newydd yn cael eu datblygu i gefnogi'r canllawiau cyfredol ar gyfer ysgolion i ddelio ag achosion o arfau mewn ysgolion a lleoliadau addysg.
Cymru yn ymuno â'r Flwyddyn Darllen Genedlaethol
Bydd Cymru yn ymuno â holl genhedloedd y Deyrnas Unedig i gymryd rhan ym Mlwyddyn Darllen Genedlaethol 2026, er mwyn ysbrydoli pobl i garu darllen gydol eu hoes.
Hwb o £20 miliwn ar gyfer cynnal a chadw ysgolion a cholegau
Mae £20 miliwn ychwanegol o gyllid wedi'i ddyrannu eleni i gefnogi gwaith atgyweirio a chynnal a chadw cyfalaf hanfodol ar draws ysgolion a cholegau yng Nghymru.
Y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol yn dod â chymunedau ynghyd yn ysbryd y Nadolig
Mae'n gyfnod prysur i wasanaethau cerddoriaeth lleol ledled Cymru, a'r Nadolig yn prysur agosáu. Maent wrthi yn helpu disgyblion, teuluoedd a cymunedau i greu profiadau bythgofiadwy sy'n llawn swyn. Ym mhob cwr o'r wlad, mae plant a phobl ifanc, gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol, yn mwynhau perfformio yn yr ysgol, mewn neuaddau cyngerdd ac archfarchnadoedd i ledaenu hud y Nadolig.
Cefnogi dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal drwy raglen beilot arloesol
Mae gwerthusiad annibynnol wedi canfod bod rhaglen beilot y Model Ysgolion Rhithwir wedi helpu i fynd i'r afael ag anghenion plant sy'n derbyn gofal a chefnogi eu cynnydd addysgol.
Hwb gwerth £8 miliwn i brydau bwyd mewn ysgolion cynradd yng Nghymru
Bydd y rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Bob Plentyn Cynradd ledled Cymru yn elwa ar fuddsoddiad amcan ychwanegol gwerth £8m dros y ddwy flynedd nesaf, gyda'r pris sy'n cael ei wario fesul pryd yn codi o £3.20 i £3.40.
Cyhoeddi rhaglen gymorth newydd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae pecyn cymorth i helpu dysgwyr a theuluoedd drwy'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi'i gyhoeddi, ar ôl adolygu deddfwriaeth ADY, gwrando ar deuluoedd a dysgu gwersi o bob rhan o Gymru.