English icon English
Hanes Cymru attrib @CorbDavies-2

Datgelu straeon Cymru drwy archif ddigidol am ddim

Uncover the stories of Wales through free digital archive

Bydd casgliad newydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am eu hardal leol a hanes amrywiol Cymru.

Lansiwyd y casgliad o adnoddau gan Adnodd, y corff cenedlaethol ar gyfer adnoddau addysgol y Cwricwlwm i Gymru, ac mae'r casgliad yn ymdrin â chyfnodau o oes y Celtiaid a'r Rhufeiniaid hyd at heddiw. Bydd yr adnoddau yn helpu ysgolion i adrodd amrywiaeth o straeon, fel hanes y diwydiannau glo a mwyngloddio llechi yng Nghymru, boddi Cwm Tryweryn a thrychineb Aberfan.

Mae casgliad Hanes Cymru hefyd yn cynnwys awgrymiadau i athrawon a dysgwyr er mwyn iddynt ddarganfod eu Cynefin – eu hanes lleol.

Mae'r adnoddau i'w gweld ar Hwb ac yn cynnwys gwaith celf gan y cartwnydd Cymreig Corb Davies.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn dysgu am ein gorffennol cyfoethog ac amrywiol yn yr ysgol. Rydym am iddynt gael eu hysbrydoli, a thanio'u brwdfrydedd - a bydd yr adnoddau newydd hyn yn eu helpu i ddeall sut mae'r gorffennol wedi helpu i lunio'r Gymru gyfoes.

"Byddwn yn parhau i ddatblygu'r llwyfan hwn o adnoddau dwyieithog fel y gall athrawon gael eu hysbrydoli, a bod yn frwdfrydig dros ehangder a dyfnder ein hanes."

Mae'r broses o ddatblygu adnoddau ar gyfer y dyfodol wedi digwydd o dan arweiniad  grŵp arbenigol a ddaeth at ei gilydd i'r perwyl hwnnw ar wahoddiad Llywodraeth Cymru yn 2024 i gynghori ar y gwaith o greu adnoddau a allai gefnogi ac ysbrydoli ysgolion i addysgu hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth.

Mae buddsoddiad Adnodd mewn adnoddau newydd eisoes ar y gweill i ddatblygu deunyddiau Hanes Cymru, gan gynnwys £150,000 ar gyfer comisiynau a £60,000 arall i greu cynnwys newydd i gefnogi TGAU Hanes. Mae'r prosiectau hyn yn rhan o raglen ehangach o gyllid a gweithgarwch, sy'n dangos ymrwymiad i ehangu a gwella'r casgliad dros y 12 mis nesaf.

Nodiadau i olygyddion

Darluniad: @CorbDavies