SCFL Collage-2

Ysgolion, colegau a phrifysgolion i elwa ar dros £40 miliwn o gyllid cynnal a chadw ychwanegol

Schools, colleges, and universities to benefit from over £40 million additional maintenance funding

Mae £40.5 miliwn yn ychwanegol o gyllid wedi'i ddyrannu eleni i gefnogi gwaith atgyweirio a chynnal a chadw cyfalaf hanfodol ar draws yr ystad addysg yng Nghymru.

Mae hyn yn adeiladu ar y cyhoeddiad blaenorol o £20 miliwn ar gyfer ysgolion a cholegau a wnaed ym mis Ionawr.

Bydd y cyllid hwn yn cefnogi gwaith cynnal a chadw ar raddfa fawr fel ailosod toeau, systemau ffenestri, systemau gwresogi ac awyru, a gwaith trydanol, gyda'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a Medr.

 

Bydd y cyllid yn golygu bod £15 miliwn yn cael ei ddyrannu ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer ysgolion, ochr yn ochr â £25.5 miliwn a ddyrennir yn gyfartal i golegau a phrifysgolion i fuddsoddi mewn prosiectau trawsnewid a chynnal a chadw. Ar gyfer colegau, bydd yr arian ychwanegol yn helpu i gynyddu cyfranogiad, yn enwedig mewn cyrsiau galwedigaethol er enghraifft drwy ehangu'r ddarpariaeth o ran gweithdai. Mae cyllid blaenorol wedi cael ei ddefnyddio gan brifysgolion i gefnogi prosiectau sy'n lleihau eu costau gweithredu ac yn gwella cyfleusterau i fyfyrwyr a staff.

 

Ochr yn ochr â gwella cyfleusterau dysgu i ddysgwyr, mae'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wedi cefnogi nodau Cymru o ran yr hinsawdd, gyda'r holl waith cynnal a chadw yn helpu i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon.  Mae'r buddsoddiad wedi helpu i gefnogi gwell inswleiddio, gwresogi effeithlon a ffenestri ynni-effeithlon gan greu amgylcheddau dysgu mwy cynaliadwy sy'n rhatach i'w rhedeg ac yn well i'r amgylchedd.

 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Yn ystod y deng mlynedd diwethaf rydym wedi buddsoddi £3.6 biliwn mewn dros 330 o brosiectau i adeiladu a gwella adeiladau ysgolion a cholegau ym mhob awdurdod lleol, drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

"Mae'r cyllid hwn wedi helpu i ddarparu adeiladau modern, addas i'r diben sydd wedi'u dylunio i addysgu'r genhedlaeth nesaf, gan fuddsoddi yn ein cymunedau lleol.

"Bydd y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i gefnogi awdurdodau lleol ledled Cymru i fuddsoddi eto yn ein hystad ysgolion."

 

Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells: "Mae buddsoddi yn adeiladau'n colegau a'n prifysgolion hefyd yn fuddsoddiad mewn darparu ein sgiliau a'n huchelgeisiau i'r dyfodol fel gwlad.

"Mae'r arian ychwanegol eto yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddysgu ôl-16 ac yn sicrhau bod dysgwyr yn elwa ar amgylcheddau dysgu cynaliadwy.

"Bydd y cyllid yn helpu colegau i gynyddu cyfranogiad mewn cyrsiau galwedigaethol. Mae hyn yn cynnwys ehangu gweithdai ac addasu mannau dysgu.

"Caiff y buddsoddiad ar gyfer prifysgolion ei ddarparu drwy Medr. Bydd yn caniatáu i brifysgolion barhau i ariannu prosiectau sydd wedi helpu i greu arbedion hirdymor mewn costau rhedeg drwy gynyddu effeithlonrwydd ynni a lleihau costau cynnal a chadw parhaus. Bydd hefyd yn gwella profiad myfyrwyr drwy sicrhau gwell cyfleusterau a gwasanaethau digidol i fyfyrwyr."

 

 Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford:  "Mae ein cyllideb yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ac rydym wedi dyrannu dros £60 miliwn i helpu i wella ysgolion a lleoliadau addysg. Bydd yr arian hwn yn cael effaith gadarnhaol ar ysgolion, colegau a lleoliadau addysg uwch ledled Cymru.