Hwb o £20 miliwn ar gyfer cynnal a chadw ysgolion a cholegau
£20 million boost for school and college maintenance
Mae £20 miliwn ychwanegol o gyllid wedi'i ddyrannu eleni i gefnogi gwaith atgyweirio a chynnal a chadw cyfalaf hanfodol ar draws ysgolion a cholegau yng Nghymru.
Bydd y cyllid hwn, sy'n rhan o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, yn cefnogi gwaith cynnal a chadw ar raddfa fawr fel ailosod toeau, systemau ffenestri, systemau gwresogi ac awyru, a gwaith trydanol.
Mae'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wedi ailadeiladu neu adnewyddu 20% o'r ystâd ysgolion dros y degawd diwethaf, ac mae'r cyllid ar gyfer cynnal a chadw cyfalaf yn ystod 2025-26 bellach yn dod i gyfanswm o £50 miliwn.
Cyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 drwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yw £391 miliwn bellach – y buddsoddiad blynyddol uchaf ers dechrau yn 2014.
Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi nodau hinsawdd Cymru gan fod yn rhaid i'r holl waith cynnal a chadw a ariennir drwy'r dyraniad hwn helpu i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon. Mae'r cyllid yn cefnogi gwelliannau fel gwell inswleiddio, gwresogi effeithlon a ffenestri ynni-effeithlon gan greu amgylcheddau dysgu mwy cynaliadwy sy'n rhatach i'w rhedeg ac yn well i'r amgylchedd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
"Mae cynnal ein hysgolion a'n colegau mewn cyflwr da yn hanfodol ar gyfer darparu'r amgylcheddau dysgu gorau i'n pobl ifanc. Ers 2018, rydym wedi buddsoddi £314 miliwn mewn cynnal a chadw ar gyfer ysgolion a cholegau ledled Cymru.
"Bydd y £20 miliwn ychwanegol hwn yn helpu awdurdodau lleol a cholegau i fynd i'r afael ag anghenion cynnal a chadw ac mae'n dangos ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod ein ystâd addysg yn addas i'r diben gan gyfrannu hefyd at y targedau ar gyfer Ystâd Addysg carbon sero net yng Nghymru."
Nodiadau i olygyddion
Breakdown of the additional £20m funding, calculated on a 70:30 split between pupil numbers and number of schools.
|
Local Authority |
Additional Allocation (£) |
|
Isle of Anglesey |
380,923 |
|
Blaenau Gwent |
312,617 |
|
Bridgend |
726,243 |
|
Caerphilly |
941,832 |
|
Cardiff |
1,767,899 |
|
Carmarthenshire |
1,004,461 |
|
Ceredigion |
360,626 |
|
Conwy |
556,363 |
|
Denbighshire |
561,086 |
|
Flintshire |
800,704 |
|
Gwynedd |
707,728 |
|
Merthyr Tydfil |
301,981 |
|
Monmouthshire |
385,943 |
|
Neath Port Talbot |
716,027 |
|
Newport |
841,732 |
|
Pembrokeshire |
608,439 |
|
Powys |
699,650 |
|
Rhondda Cynon Taf |
1,279,099 |
|
Swansea |
1,174,549 |
|
Torfaen |
462,452 |
|
The Vale of Glamorgan |
715,334 |
|
Wrexham |
694,312 |
|
Wales |
16,000,000 |
|
FE / Colleges |
Additional Allocation (£) |
|
Adult Learning Wales |
75,733 |
|
Bridgend College |
205,456 |
|
Cardiff & Vale College |
490,836 |
|
Coleg Cambria |
497,214 |
|
Coleg Gwent |
569,275 |
|
Coleg Sir Gâr |
269,590 |
|
Coleg y Cymoedd |
414,538 |
|
Gower College Swansea |
345,282 |
|
Grŵp Llandrillo Menai |
446,141 |
|
Grŵp NPTC Group |
305,157 |
|
Merthyr Tydfil College |
126,831 |
|
Pembrokeshire College |
163,103 |
|
St David's Catholic Sixth Form College |
90,844 |
|
Wales |
4,000,000 |