Newyddion
Canfuwyd 18 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2
Y rhaglen i gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yng Nghymru wedi’i chyflawni
Wrth i blant ddychwelyd ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod pob disgybl mewn ysgolion cynradd a gynhelir ledled Cymru bellach yn gallu cael pryd ysgol am ddim, o'r wythnos hon ymlaen.
Yr Ysgrifennydd Addysg yn llongyfarch myfyrwyr ar eu canlyniadau TGAU
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi llongyfarch dysgwyr sydd wedi cael eu canlyniadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a Chymwysterau Galwedigaethol heddiw.
Gwella bywydau pobl ifanc yn Wrecsam
Mae gwasanaethau gwaith ieuenctid yn Wrecsam yn helpu pobl ifanc i ffynnu trwy ddarparu amrywiaeth o wasanaethau o ddau gyfleuster yng nghanol y ddinas, gan gynnwys cymorth wyneb yn wyneb, atal digartrefedd a gwasanaethau cyffuriau ac alcohol.
Canlyniadau arholiadau: Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn llongyfarch myfyrwyr
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru sydd wedi cael eu canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, Bagloriaeth Cymru Uwch a chymwysterau galwedigaethol y bore yma.
Polisi newydd ar ddarparu cymorth dysgu a sgiliau mewn carchardai yng Nghymru.
Mae polisi newydd gan Lywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd dysgu a sgiliau yn cael eu gwella yng ngharchardai Cymru.
Grant Hanfodion Ysgol yn agored i helpu gyda chostau ysgol
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol sy'n gallu darparu hyd at £200 i helpu gyda chost y diwrnod ysgol.
Ysgol Uwchradd Whitmore yn cadw'n ddiogel ar-lein yr haf hwn
Ar ymweliad ag Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri mewn gwers ar ddiogelwch ar-lein, cafodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gyfle i glywed gan ddisgyblion am eu pryderon am ddiogelwch ar-lein a'r cymorth sydd ar gael i helpu.
Cyfle teg i bawb siarad Cymraeg
Bil newydd y Gymraeg ac Addysg i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli cyfle i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus.
Myfyrwyr ysgol Cymru yn cael profiad fel meddygon a deintyddion.
Cafodd hanner cant a phump o ddarpar feddygon flas ar yrfa mewn meddygaeth a bywyd fel myfyriwr meddygol mewn cyrsiau preswyl meddygol yr wythnos hon.
Annog plant i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf eleni
Ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio ledled Cymru, cyfle rhad ac am ddim i annog plant i ddarllen a mwynhau dros wyliau’r haf.
Cymorth pellach i athrawon i hybu'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd.
Bydd cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru yn cael hwb gan gefnogaeth bellach i athrawon ac ysgolion er mwyn sicrhau darpariaeth gyson ledled Cymru.
Ymweliad â’r Cymoedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd Wythnos Gwaith Ieuenctid
I ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Lynne Neagle a’r Prif Weinidog Vaughan Gething â phrosiect yn Nhonypandy, Plant y Cymoedd.