English icon English
Shop-21

"Mae'r ffordd rydyn ni'n trochi plant yn yr Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru"

"How we immerse children in the Welsh language is unique to us in Wales”

Heddiw, (dydd Mawrth 8 Hydref) mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg  Lynne Neagle yn dathlu gwaith canolfannau trochi wrth i'r galw am ddarpariaeth trochi hwyr barhau i dyfu - gyda Chymru'n cael ei hystyried yn arweinydd byd-eang yn y maes.

Mae darpariaeth trochi hwyr yn rhaglen o ddysgu dwys yn y Gymraeg i ddysgwyr ifanc, sy'n darparu llwybr amgen i addysg cyfrwng Cymraeg i'r rhai a allai fod wedi colli cyfleoedd i gael eu trochi'n gynnar yn y Gymraeg mewn lleoliadau gofal plant, meithrinfeydd ac yn yr ysgol. Gall dysgwyr sydd ag ychydig neu ddim Cymraeg ymgysylltu â'r rhaglen am hyd at ddeuddeg wythnos. Yn y cyfnod hwnnw, byddant yn parhau i gadw mewn cysylltiad â'u hysgol gartref, a'r cwricwlwm, nes eu bod yn barod i barhau â'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Eleni gwelwyd cynnydd yn nifer y dysgwyr blwyddyn un sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae canolfannau trochi yn chwarae rhan unigryw wrth greu siaradwyr Cymraeg newydd. Hyd yma mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £8.8 miliwn i gefnogi sefydlu darpariaeth trochi hwyr mewn awdurdodau lleol yn ogystal â pharhau i gefnogi'r ddarpariaeth (canolfannau neu unedau) sydd eisoes wedi'i sefydlu yng Nghymru, gyda chyfanswm o 26 canolfan yn cefnogi dysgwyr cynradd, 16 canolfan yn cefnogi dysgwyr uwchradd ac athrawon yn ymweld ag ysgolion unigol i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r ddarpariaeth drochi.

Mae'r cyllid wedi helpu i recriwtio athrawon trochi hwyr yn ogystal â galluogi defnydd creadigol o dechnoleg i gyfoethogi'r profiad dysgu, fel y gwelir mewn canolfannau ar draws Gwynedd, Ceredigion a Phowys ymhlith eraill.

Ar draws Cymru, mae'r rhai sy'n elwa ar ganolfannau trochi yn cynyddu. Yn 2024 croesawodd Caerdydd ei charfan fwyaf erioed o ddysgwyr i'w chanolfan drochi yn Ysgol Gynradd Groes Wen. Yng ngogledd y wlad, mae Wrecsam wedi cefnogi dros 600 o ddysgwyr ers i'w chanolfan agor yn 2022.

Roedd adroddiad diweddar gan Estyn hefyd yn cydnabod y rôl y mae canolfannau trochi hwyr yn ei chwarae o ran datblygu sgiliau iaith Gymraeg effeithiol ymhlith dysgwyr sy'n trosglwyddo o'r sector cyfrwng Saesneg.

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet ag Ysgol Gynradd Groes Wen yn ddiweddar, lle cyfarfu â Guadalupe, merch 5 oed. Symudodd ei theulu o Colombia yn ystod tymor yr haf ac mae hi wedi mynychu'r Uned Trochi Iaith ers dechrau mis Medi. Mae hi'n setlo'n dda ac yn mwynhau ymarfer siarad Cymraeg yn yr ardal chwarae rôl.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni gyd

ac mae'r holl ganolfannau trochi a hwyr yn helpu i sicrhau bod ein hiaith hardd yn parhau i ffynnu.

"Hyd yma mae dros 4,000 o ddysgwyr wedi cael y cyfle i elwa ar raglenni trochi hwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ers i'r grant ddod ar gael yn 2021.

"Mae'r ffordd rydyn ni'n trochi plant yn yr iaith Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru ac rydyn ni'n prysur ddod yn arweinwyr byd mewn darpariaeth trochi hwyr. Mae academyddion o Quebec yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â ni a dysgu o'n harferion gorau yn y maes hwn.

"Rwy'n hynod falch o ddysgwyr ac ysgolion ledled Cymru, sy'n hyrwyddo dysgu trochol a datblygu sgiliau iaith a fydd o fudd i bobl ifanc am oes."