Rhaglen gyfnewid unigryw o Gymru yn cynnig llond byd o gyfleoedd
Unique Welsh learning exchange programme opening up a world of opportunity
Mae oedolion sy’n dysgu a mentoriaid o St Giles Cymru wedi teithio i Norwy i elwa ar daith gyfnewid ar gyfer dysgu a ariennir drwy raglen Taith.
Mae St Giles Cymru yn cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl sy'n wynebu heriau fel tlodi, camfanteisio, cam-drin a phroblemau iechyd meddwl drwy ddefnyddio profiadau bywyd go iawn a mentoriaethau gan gymheiriaid.
Ymwelodd y grŵp â chanolfan adfer Norwyaidd a choleg galwedigaethol lle buont yn dysgu am y gwahanol ddulliau a ddefnyddir i gefnogi pobl yn eu hadferiad, gan gynnwys therapi celf, a sut y gallant ddefnyddio eu profiadau bywyd eu hunain mewn ffordd gadarnhaol.
Mae Taith yn rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n cefnogi dysgu gan gymunedau a diwylliannau eraill ar draws y byd, gan hefyd hyrwyddo Cymru fel gwlad o gydweithio ac arloesi. Ers 2022 mae Taith wedi ariannu 327 o sefydliadau yng Nghymru i gefnogi 199 o brosiectau ar draws 90 o wledydd.
Dywedodd Maleeha, un o’r rhai a aeth ar brofiad Taith: “Mae ymweld â Norwy wir wedi agor fy llygaid i'r gwahanol ffyrdd o fynd i’r afael ag adferiad. Rwy'n ddiolchgar i raglen Taith am ariannu'r daith a darparu profiadau amhrisiadwy y byddaf yn dod â hwy yn ôl i'r gwaith hwn yng Nghymru.”
Ychwanegodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, a ymwelodd â'r tîm yn St Giles Cymru yn ddiweddar i glywed mwy am eu profiad:
“Mae Taith yn stori lwyddiant go iawn o Gymru, mae'n cynnig cyfle unigryw i ddysgwyr, o bob oed, ehangu gorwelion a chychwyn ar daith sy'n llywio eu bywydau personol a phroffesiynol am flynyddoedd i ddod.
“Mae mentoriaid cymheiriaid a staff yn St Giles Cymru wedi siarad yn angerddol am yr effaith gadarnhaol y mae'r profiadau hyn wedi'i chael arnynt. O roi hwb i’w hyder i helpu i ddarganfod ffyrdd newydd o helpu'r rhai o'u cwmpas. Rwy'n hynod falch ein bod yn gallu cynnig profiad diwylliannol a gwerth chweil i gynifer o ddysgwyr a fydd yn para am oes.”