
Miloedd yn rhagor o ddysgwyr yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol drwy'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg
Thousands more learners to receive financial support through Education Maintenance Allowance
Bydd miloedd yn rhagor o ddysgwyr yn y sector addysg ôl-16 mewn colegau a chweched dosbarth yn gymwys i derbyn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn sgil penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i godi trothwyon incwm yr aelwyd, a fydd yn golygu bod rhagor o deuluoedd yn gallu gwneud cais am gymorth.
Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn grant wythnosol o £40 i gefnogi pobl ifanc 16 i 18 oed o aelwydydd cymwys gyda chostau addysg bellach, fel cludiant neu brydau bwyd. Daeth y Lwfans i ben yn Lloegr yn 2011, ac mae'n cael ei gadw ar gyfradd is o £30 yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ar hyn o bryd mae dros 16 000 o fyfyrwyr yn derbyn y Lwfans, ond bydd 3 500 yn rhagor o ddysgwyr yn elwa arno o ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi .
Y trothwy presennol ar gyfer aelwydydd ag un plentyn dibynnol yw £20,817 - bydd hyn yn cynyddu i £23 400 sy'n golygu y bydd teuluoedd ag incwm aelwyd o £23 400 neu lai yn gymwys i dderbyn y Lwfans.
Y trothwy presennol ar gyfer aelwydydd sydd â dau neu fwy o blant dibynnol yw £23 077 a bydd hyn yn cynyddu i £25 974, sy'n golygu y bydd teuluoedd ag incwm aelwyd o £25 974 neu lai yn gymwys i dderbyn y Lwfans.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells: "Mae Cymru eisoes yn darparu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, sy'n helpu dysgwyr ôl-16 i barhau i astudio cyrsiau academaidd neu alwedigaethol, ac mae'r newid hwn yn golygu y byddwn nawr yn cefnogi miloedd yn rhagor o ddysgwyr.
"Rydym yn falch iawn o'n record o gynnal a chynyddu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Rydym yn glir bod ein Cyllideb Ddrafft yn gyllideb ar gyfer dyfodol mwy disglair ac mae'r newid hwn i feini prawf cymhwystra'r Lwfans yn un o'r ffyrdd yr ydym yn cyflawni hyn. Mae'r cyhoeddiad yn golygu y bydd miloedd yn rhagor o ddysgwyr nawr yn elwa ar gymorth ariannol pellach i barhau neu ddechrau ar eu taith addysg bellach."
Dywedodd Deio Owen, Llywydd UCM Cymru: "Mae UCM Cymru yn croesawu cyhoeddiad y Gweinidog heddiw. Bydd codi trothwy incwm aelwydydd ar gyfer y Lwfans yn galluogi mwy na 3 500 yn rhagor o bobl ifanc i ystyried addysg ôl-16. Dyna 3 500 o bobl ifanc a fydd, gobeithio, yn parhau â'u haddysg ac yn parhau i arfogi eu hunain ar gyfer dyfodol gwell.",
"Rydym wedi bod yn ymgyrchu dros hyn ers peth amser, ac rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi gwrando ar leisiau myfyrwyr. Edrychaf ymlaen at gydweithio'n agosach â'r Gweinidog yn ystod y misoedd nesaf ar feysydd lle gallwn gryfhau'r cynnig i fyfyrwyr yng Nghymru ymhellach."