English icon English
Lynne Neagle (P)

Canlyniadau arholiadau: Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn llongyfarch myfyrwyr

Exam results: Cabinet Secretary for Education congratulates students

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru sydd wedi cael eu canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, Bagloriaeth Cymru Uwch a chymwysterau galwedigaethol y bore yma.

Ar ymweliad â Choleg Cambria yn Wrecsam, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â myfyrwyr oedd yn casglu eu canlyniadau. Dywedodd:

"Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i bawb sy'n cael eu canlyniadau ledled Cymru. Hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr, yn ogystal â'n hathrawon a'n staff gwych yn ein hysgolion a'n colegau, am eu holl waith caled yn arwain at heddiw.

"Arholiadau eleni yw'r cam olaf wrth i ni ddychwelyd at y trefniadau a oedd ar waith cyn y pandemig. Eleni, am y tro cyntaf ers y pandemig, cynhaliwyd arholiadau ac asesiadau Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol gyda'r un trefniadau â chyn y pandemig. 

"Mae'r canlyniadau yn unol â'r hyn roedden ni'n gobeithio ei weld ac maen nhw'n weddol debyg i ganlyniadau cyn y pandemig.

"Dylai pob un ohonoch chi sy'n cael eich canlyniadau heddiw fod yn hynod falch o'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni. Mae heddiw yn dystiolaeth o'ch penderfyniad a'ch dyfalbarhad.

“Beth bynnag yw eich cynlluniau ar gyfer y cam nesaf yn eich bywyd, dymunaf bob lwc i chi i gyd. Mae llawer o ffyrdd i barhau â'ch dysgu. Efallai y bydd rhai ohonoch ar fin dechrau prentisiaeth neu swydd newydd neu efallai eich bod wedi sicrhau lle mewn prifysgol o'ch dewis, gan gynnwys rhai o'n sefydliadau gwych yma yng Nghymru.

"Ond os ydych chi angen cyngor ar beth i'w wneud nesaf, mae digon o wybodaeth a chefnogaeth ar gael i chi, trwy eich ysgol neu goleg yn ogystal â'r Warant i Bobl Ifanc sy'n cynnig ystod o opsiynau."

 "Byddaf yn parhau i ganolbwyntio ar wneud popeth o fewn fy ngallu i godi safonau a sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial."

Nodiadau i olygyddion

Notes:

Awarding qualifications in Wales this year

An overview of this year’s assessment arrangements from Qualifications Wales: Canlyniadau Haf 2024 | Cymwysterau Cymru 

The Young Person’s Guarantee

This is the Welsh Government commitment to providing under-25s in Wales with support to gain a place in education or training, find work, or become self-employed: Gwarant i Bobl Ifanc | Working Wales (llyw.cymru)

Apprenticeships

Apprenticeships are open to anyone over the age of 16 in Wales. They combine practical training in a job with study. Prentisiaethau | LLYW.CYMRU 

Employment Bureaus

Based in FE Colleges, the Employment and Enterprise Bureaus provide a package of opportunities for students, full and part-time, to build essential employability and enterprise skills: Biwroau Cyflogaeth a Menter | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales)

Power Up Campaign

Support for learners taking exams and assessments during the 2024 season: Lefel Nesa - Hwb (gov.wales)

Meic

The free helpline service for children and young people up to the age of 25 in Wales. Hafan - Hafan - Meic (meiccymru.org)

NHS Wales Silvercloud

Free online guided self-help programme to support learners and their parents: SilverCloud - therapi ar-lein am ddim - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)