English icon English
books-1204029 1280-2

Polisi newydd ar ddarparu cymorth dysgu a sgiliau mewn carchardai yng Nghymru.

A new prison learning and skills policy for Wales.

Mae polisi newydd gan Lywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd dysgu a sgiliau yn cael eu gwella yng ngharchardai Cymru.

Mae Gwell Dysgu, Gwell Cyfleoedd: darpariaeth dysgu a sgiliau carchardai yng Nghymru yn nodi, am y tro cyntaf, sut olwg fydd ar ddarparu cymorth dysgu a sgiliau mewn carchardai. Nod y polisi yw ysgogi ac ysbrydoli carcharorion a'u helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth, ennill annibyniaeth a chyfrannu at y gymdeithas ehangach.  Mae'r carcharorion sy'n dod o hyd i waith ar ôl cael eu rhyddhau yn llai tebygol o aildroseddu na'r rhai sydd ddim. Mae buddsoddi mewn dysgu a sgiliau yn allweddol i hyrwyddo a datblygu diwylliant o adsefydlu yn ein system cyfiawnder troseddol.

Mae llawer o garcharorion presennol a chyn-garcharorion wedi elwa ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i waith. Cafodd dysgwr, a dreuliodd ddedfryd mewn carchar yng Nghymru, hyfforddiant drwy gyllid ReAct+.

Dywedodd: “Rwy'n mwynhau hyn yn fawr a doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai gen i gyfle i ennill sgiliau ymarferol, wedi'u hachredu o fewn carchar, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at astudio ymhellach”.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae darpariaeth dysgu a sgiliau carcharorion yn hanfodol ar gyfer adsefydlu. Yn aml, mae carcharorion dan anfantais yn y gymdeithas, ac mae'r polisi newydd hwn yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn cyflogaeth. Rwy'n edrych ymlaen at weld y modd y bydd hyn o fantais i'r dysgwyr, i'n system cyfiawnder troseddol, ac i’r gymuned ehangach."

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru, carcharorion a'r rhai sy'n gadael y carchar, darparwyr addysg a sefydliadau'r trydydd sector i gydlunio'r polisi.

Cyhoeddi'r polisi hwn yw cam gweithredu olaf argymhellion adroddiad Hanson – sy'n golygu bod holl argymhellion yr adroddiad bellach wedi'u cyflawni.