Presenoldeb, llythrennedd a rhifedd yn hanfodol ar gyfer gwella safonau ysgolion wrth i ystadegau ddangos bod lefelau presenoldeb ysgolion yn gwella
Attendance, literacy and numeracy central to improving school standards as stats show schools attendance levels improve
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi amlinellu'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwella ysgolion yng Nghymru, yn ogystal â mwy o gyllid ar gyfer mentrau i wella cyrhaeddiad mewn llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth.
Bydd y £1.1 miliwn ychwanegol yn rhoi hwb i raglenni llythrennedd a rhifedd presennol a llwyddiannus ac yn darparu gwell cymorth i athrawon a dysgwyr drwy
- Ehangu dysgu proffesiynol i helpu plant i fwynhau darllen
- Darparu cymorth wedi'i dargedu i ddysgwyr iau sy'n cael trafferth darllen drwy ehangu'r Rhaglen Iaith a Llythrennedd (RILL) a ddarperir gan Brifysgol Bangor, sydd wedi helpu plant i symud ymlaen rhwng 6 a 12 mis yn eu sgiliau darllen
- Ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael drwy Raglen Gymorth Mathemateg Cymru, gan gynnwys dosbarthiadau meistr ar gyfer dysgwyr oedran uwchradd
- Gwella’r cymorth i fanteisio ar raglenni gwyddoniaeth – gan gynnwys cyfieithu adnoddau rhad ac am ddim ar gyfer addysgu gwyddoniaeth ac ehangu mentrau merched mewn STEM
- Ennyn diddordeb rhieni i fanteisio ar wasanaethau lleferydd ac iaith drwy'r prosiect Siarad gyda Fi
- Cynhyrchu mwy o ddeunyddiau ac adnoddau i gefnogi gweithwyr proffesiynol yn eu gwaith
O'r flwyddyn nesaf ymlaen bydd grantiau Llywodraeth Cymru i gefnogi'r cwricwlwm yn cael eu had-drefnu i dargedu'r cyllid yn agosach at lythrennedd, rhifedd a chynllunio'r cwricwlwm, cynnydd ac asesu.
Mae ffigyrau presenoldeb yn dechrau gwella a’r presenoldeb cyfartalog ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yw 92%, i fyny o 91.4%. Mae'r Tasglu Presenoldeb wedi bod yn gweithio i ddeall yr heriau sy'n wynebu ysgolion, plant a phobl ifanc a'u teuluoedd ac yn dylanwadu ar bresenoldeb yn yr ysgol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gwneud datganiad pellach ar sut y bydd presenoldeb yn dychwelyd i'r lefelau cyn y pandemig yn ddiweddarach eleni.
Bydd gwelliannau i safonau ysgolion yn seiliedig ar ddiwylliant newydd ar gyfer gwella ysgolion - gyda chydweithio rhwng ysgolion yn rhan annatod o hynny. Bydd Grŵp Cydlynu Cenedlaethol yn cael ei sefydlu i adolygu modelau gwella ysgolion awdurdodau lleol, a bydd corff cenedlaethol newydd yn cael ei sefydlu i fod yn gyfrifol am ddarparu dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth. Yn ogystal, bydd Grŵp Cynghori Gweinidogol sy'n cynnwys arbenigwyr annibynnol yn cael ei sefydlu.
Bydd ymgynghoriad ar gyfres newydd o ddangosyddion ar gyfer dysgu 14-16 yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd hon, a byddwn yn dechrau ar y gwaith o edrych ar ddichonoldeb cysylltu disgwyliadau clir sy'n gysylltiedig ag oedran yn y fframwaith llythrennedd a rhifedd diweddaraf â data asesiadau personol.
Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Addysg heddiw (5 Tachwedd 2024) y bydd athrawon yn derbyn eu codiad cyflog o 5.5% a fydd yn cael ei ôl-ddyddio i fis Medi, a bydd cyllid hefyd yn cael ei ddarparu i Medr i sicrhau bod staff addysgu mewn addysg bellach a chweched dosbarth yn cael cyflog sy'n cyfateb i gyflog athrawon ysgol.
Bydd buddsoddi yn yr ystâd addysg yn parhau i fod yn rhan allweddol o wella ysgolion. Gan adeiladu ar y £2 biliwn a fuddsoddwyd eisoes drwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, bydd cynlluniau buddsoddi 9 mlynedd newydd awdurdodau lleol yn gweld £4.5 biliwn arall yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion newydd a rhai sy’n cael eu hadnewyddu ledled Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
"Presenoldeb, llythrennedd a rhifedd yw'r blaenoriaethau i mi. Does dim dadl am hynny — byddant yn sail i bopeth a wnawn. Er gwaethaf y ffocws di-baid ar ddiwygio ein system addysg gyda chwricwlwm newydd a system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, mae rhagor y gallwn ei wneud o hyd i wella addysg.
"Mae addysg yn dechrau drwy fod yn bresennol yn yr ysgol a chymryd rhan yn y dysgu, ond mae'r profiad o addysg wedi newid - i'n pobl ifanc, eu hathrawon a'u rhieni a'u gofalwyr. Mae angen i ni nawr sicrhau gwelliant ar draws ysgolion. Byddaf yn ysgrifennu at bob ysgol yng Nghymru i rannu fy mlaenoriaethau gyda nhw ac edrychaf ymlaen at drafod y blaenoriaethau hyn a materion eraill, gan gynnwys ymddygiad yng nghynhadledd y Penaethiaid yn ddiweddarach yr wythnos hon.
"Mae codi safonau addysg yn gyfrifoldeb i ni i gyd. Gan weithio gyda'r sector gallwn gynnig y gorau i'n dysgwyr a llunio dyfodol mwy disglair a chadarn iddyn nhw."