English icon English
Primary School Free Scool Meals FSM Prydau Ysgol Am Ddim-2

Y rhaglen i gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yng Nghymru wedi’i chyflawni

Roll-out of free school meals for all primary school children in Wales complete

Wrth i blant ddychwelyd ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod pob disgybl mewn ysgolion cynradd a gynhelir ledled Cymru bellach yn gallu cael pryd ysgol am ddim, o'r wythnos hon ymlaen.

Bellach, mae cyflwyno'r rhaglen fesul cam wedi’i gyflawni ledled Cymru, sy'n golygu bod pob plentyn hyd at Flwyddyn 6 a chan gynnwys Blwyddyn 6, yn gallu cael pryd ysgol am ddim bob diwrnod ysgol erbyn hyn.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi pennu’r ymrwymiad hwn yn 2021, fel rhan o'i hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi plant. Ers ei lansio, mae bron i 30 miliwn o brydau bwyd wedi'u darparu, ac mae'r rhaglen newydd hon yn rhoi hawl i 176,000 yn fwy o ddysgwyr i bryd ysgol am ddim.

Mae prydau ysgol am ddim hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd, hyrwyddo bwyta'n iach, ac mae ganddynt y potensial i wella sgiliau cymdeithasol yn ystod amser bwyd, gan gynnwys helpu i wella ymddygiad a chyrhaeddiad dysgwyr. Mae’r awdurdodau lleol hefyd wedi'u cefnogi a'u hannog i ddod o hyd i fwyd yn lleol, lle bo hynny'n bosibl.

Mae gwaith ar y gweill i adolygu Rheoliadau sy'n nodi'r mathau o fwyd a diod y gellir eu darparu yn ystod y diwrnod ysgol, gan gynnwys diffinio cynnwys maethol prydau ysgol.  

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: "Mae pryd ysgol iach yn hanfodol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn teimlo'n llwglyd yn ystod y diwrnod ysgol. Ac mae hynny’n eu helpu i ganolbwyntio, o fudd i’w lles, ac yn eu galluogi i gyflawni eu potensial llawn. Mae prydau ysgol am ddim hefyd yn cynnig cymorth sy’n cael ei groesawu’n fawr gan deuluoedd ac yn helpu i drechu tlodi plant.

Mae hwn yn achlysur hollbwysig i blant yma yng Nghymru. Rwy'n hynod falch mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Rydyn ni’n sicrhau na fydd unrhyw blentyn ysgol gynradd yn teimlo’n llwglyd yn yr ysgol, ac rwy'n ddiolchgar i'n hawdurdodau lleol a'n hysgolion am helpu i wireddu hyn.

"Rwy wedi gweld y gwahaniaeth y mae'r cynnig hwn eisoes wedi'i wneud i blant a theuluoedd yn uniongyrchol. Mae hwn yn sicr yn gam pwysig yr ydyn ni wedi'i gymryd i fynd i'r afael â thlodi plant, a byddaf yn parhau i weithio i sicrhau bod gennym ni’r cynnig bwyd ysgol gorau yn y DU."