Pecyn cymorth newydd ar ymddygiad i ysgolion
New behaviour support package for schools
Yn dilyn yr Uwchgynhadledd Ymddygiad Genedlaethol yn 2025, heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn newydd o brosiectau i gefnogi ysgolion ledled Cymru gydag ymddygiad, lles ac ymgysylltiad.
Gan ychwanegu at waith llwyddiannus sydd eisoes ar y gweill, bydd y pecyn yn edrych ar ffyrdd arloesol o gefnogi dysgwyr sydd weithiau'n ei chael hi'n anodd ymdopi ag amgylchedd yr ysgol.
Mae Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn bartner allweddol. Trwy ddull wedi'i dargedu, a ariennir ar hyn o bryd gan yr Uwch Gynghrair ac a ddarperir trwy sesiynau yn yr ystafell ddosbarth ac ymarfer corff, mae'r Sefydliad yn helpu dysgwyr i reoli gwrthdaro, cryfhau eu hagweddau cadarnhaol at ddysgu ac ail-ymgysylltu â'r ysgol mewn modd cadarnhaol.
Bydd y dull a ddefnyddir yn Abertawe yn un o nifer o gynlluniau peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cael eu cynnal ledled Cymru, gyda chefnogaeth, er mwyn sicrhau y gall mwy o ysgolion a dysgwyr elwa ar y gwahanol ddulliau sy'n cael eu profi ar hyn o bryd.
Ar y cyd â'r rhaglen beilot, bydd £3 miliwn o gyllid ar gyfer rhaglenni cyfoethogi a ddarperir i Awdurdodau Lleol yn galluogi ysgolion i gyflawni gweithgareddau ymgysylltu a chyfoethogi gan gynnwys gweithgareddau creadigol, diwylliannol, chwaraeon a chwarae. Bydd hyn yn helpu i gryfhau'r gefnogaeth ehangach sydd ar gael i bobl ifanc y tu hwnt i'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn y rhaglen beilot.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei atgyfnerthu gan gymorth ariannol parhaus a fydd yn caniatáu i'r heddluoedd ledled Cymru barhau â'u gwaith ymgysylltu â phobl ifanc mewn lleoliadau ysgol, gan helpu i feithrin cydberthynas gadarnhaol a chefnogi ymyrraeth gynnar.
Er mwyn ategu'r gefnogaeth ymarferol i ysgolion, mae gwaith ymchwil pellach yn cael ei gomisiynu gyda phrifysgolion ac ysgolion Cymru i archwilio'r dulliau mwyaf effeithiol yn yr ystafell ddosbarth i helpu athrawon i gefnogi pobl ifanc.
Meddai Tom Williams, Pennaeth Rhaglenni Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe:
"Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n wynebu ysgolion, ac mae ymddygiad aflonyddgar wedi cynyddu'n sylweddol ers y pandemig. Mae'n galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y sector ac yn gweithredu strategaethau amgen i fynd i'r afael â'r materion hyn.
"Yn seiliedig ar ein profiad o gyflwyno'r rhaglen dros y blynyddoedd diwethaf, rydym yn gwybod y gall cydweithio â grŵp bach wedi'i dargedu a chyflwyno ymyriadau wedi'u teilwra i'w hanghenion a'u diddordebau gael effaith sylweddol. Mae cael oedolyn dibynadwy - rhywun o'r tu allan i'r lleoliad ysgol - yn cyflwyno ystod o bynciau diddorol trwy gyd-destun pêl-droed yn caniatáu i negeseuon allweddol gael eu cyflwyno mewn ffordd wahanol i'r ffordd y'u cyflwynir yn yr ystafell ddosbarth.
"Yn Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, rydym yn falch iawn o gydweithio â Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad disgyblion ledled Cymru."
Meddai'r Athro Carl Hughes, Athro Addysg ac Ymchwil Ymddygiadol ym Mhrifysgol Wrecsam:
"Mae'r gwaith hwn yn ymwneud â chefnogi dysgwyr a helpu ysgolion i greu amgylcheddau cefnogol lle mae pob person ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu deall, yn ddiogel ac yn barod i ymgysylltu. Mae prosiectau fel hyn yng nghlwb pêl-droed Abertawe, ochr yn ochr â mentrau ehangach ledled Cymru, yn dangos sut y gall cymorth wedi'i dargedu ail-ennyn diddordeb dysgwyr sydd o bosibl yn gweld yr ysgol yn heriol.
"Drwy'r rhaglen genedlaethol Ymddygiad mewn Ysgolion, rydym yn y brifysgol hefyd yn ceisio deall y prosesau newid sy'n sail i brosiectau llwyddiannus fel cynllun peilot Abertawe, fel y gallwn ennyn diddordeb dysgwyr yn well drwy amrywiaeth o ddulliau arloesol."
Wrth ymweld â dysgwyr sydd wedi elwa ar gynllun Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
"Yn dilyn ein Uwchgynhadledd Ymddygiad, rydym yn cymryd camau i sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu, a bod athrawon ac ysgolion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu gwaith. Rydym yn dod ag arfer gorau ac ymchwil at ei gilydd i helpu ysgolion i greu amgylcheddau cynhwysol i bob person ifanc."
"Mae cynlluniau peilot fel hyn yn Abertawe yn ein helpu i ddeall sut i gefnogi pobl ifanc sy'n gweld yr ysgol yn heriol. Rydym eisiau dysgu o arferion llwyddiannus a gweithio i lunio dulliau sy'n cefnogi pob ysgol ledled Cymru"