Cyhoeddi rhaglen gymorth newydd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol
New programme of support announced for Additional Learning Needs
Mae pecyn cymorth i helpu dysgwyr a theuluoedd drwy'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi'i gyhoeddi, ar ôl adolygu deddfwriaeth ADY, gwrando ar deuluoedd a dysgu gwersi o bob rhan o Gymru.
Mae hyn yn cynnwys pecyn cymorth newydd i rieni a gofalwyr dysgwyr ag ADY, sydd wedi'i gyhoeddi a'i ddatblygu ochr yn ochr â rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae'r pecyn yn darparu ystod o adnoddau i esbonio sut mae'r system ADY yn gweithio, mae'n amlinellu'r cymorth sydd ar gael i blant, pobl ifanc a rhieni, ac mae'n nodi eu hawliau o dan ddeddfwriaeth ADY.
Mae'r pecyn a'r holl ddeunyddiau ategol ar gael mewn fformatiau hygyrch, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain a Hawdd ei Ddarllen, ac maent ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Mae'r Ysgrifennydd Addysg hefyd wedi cyhoeddi mwy o gefnogaeth genedlaethol i ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol i gynyddu cysondeb y ddarpariaeth, ac ymgynghoriad ar set ddata ADY genedlaethol newydd er mwyn deall perfformiad cenedlaethol a darparu trywydd ar gyfer gwelliant.
Bydd £8.2m arall hefyd yn cael ei ddyrannu eleni i awdurdodau lleol, lleoliadau addysg a cholegau i wella'r broses o ddiwygio'r system ADY.
Mae hyn yn ychwanegol at £150 miliwn o refeniw a fuddsoddwyd dros y 4 blynedd diwethaf i helpu partneriaid allweddol i weithredu'r system ADY ac arwain strategaethau ysgol gyfan i ymgorffori addysg gynhwysol, yn ogystal â mwy na £170 miliwn o gyllid cyfalaf i wella cyfleusterau a seilwaith ar gyfer dysgwyr ADY drwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet ag ysgol gynradd Pencaerau, i siarad ag athrawon, staff a rhieni ynghylch darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn ogystal â gweld y Ganolfan Adnoddau Arbenigol newydd.
Mae adolygiad annibynnol o'r eiriolaeth dros ddysgwyr ADY ledled Cymru hefyd wedi'i gadarnhau. Bydd yr adolygiad pwysig hwn yn helpu i gryfhau'r gefnogaeth i blant, pobl ifanc, a'u teuluoedd. Cyhoeddwyd mai Gareth Morgans fydd arweinydd annibynnol yr adolygiad. Mae Gareth yn dod â phrofiad helaeth ym meysydd gwerthuso gwasanaethau cyhoeddus, dadansoddi polisi, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y sector addysg. Ymhlith ei rolau blaenorol, bu'n Gyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, ac mae ganddo gefndir cryf mewn arweinyddiaeth ysgolion, cynhwysiant a gwasanaethau addysg awdurdodau lleol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Yr hyn sy'n bwysig i mi yw bod gyda ni system addysg lle mae anghenion pob dysgwr yn cael eu deall, a bod yna ymateb i'r anghenion hynny, a'r gefnogaeth gywir.
"Dw i'n falch bod Gareth Morgans am ymgymryd â'r gwaith o adolygu'r ddarpariaeth eirioli ym maes ADY, fel bod llais rhieni a gofalwyr yn cael ei glywed yn gliriach."
"Mae'r pecyn cymorth newydd yn ymateb yn uniongyrchol i rieni a gofalwyr sydd wedi gofyn am wybodaeth gliriach, symlach a mwy cyson am y system ADY".
"Mae'r adolygiad a'r pecyn hwn yn rhan o raglen gymorth gychwynnol i gryfhau'r gefnogaeth i blant, pobl ifanc, a'u teuluoedd, gan sicrhau eu bod yn cael eu grymuso ac yn cael digon o wybodaeth drwy gydol eu taith ADY".
Dywedodd un o'r rhieni sydd wedi cydweithio ar y pecyn cymorth newydd: "Pan ddechreuodd fy mhlentyn hynaf ei chael yn anodd yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd y broses na beth y gallwn i ei wneud i'w helpu. Fe wnes i chwilio am gyngor, wrth gwrs, ond roedd cymaint o'r wybodaeth yn anghyson. Byddai cael y pecyn hwn wir wedi bod yn ddefnyddiol ar y dechrau i fy helpu i ddeall y broses."