Buddsoddi miliynau i adfer castell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Millions invested to restore castle for future generations
Bydd Castell Sain Ffagan ar gau am dri mis er mwyn dechrau gwaith cadwraeth a gwaith atgyweirio hanfodol i'r to, fel rhan o fuddsoddiad mawr gan Lywodraeth Cymru yn adeiladau hanesyddol Amgueddfa Cymru.
Er mwyn diogelu dyfodol hirdymor yr adeilad, dros y ddwy flynedd nesaf, bydd gwaith adnewyddu yn cael ei wneud ar do'r castell rhestredig Gradd I, un o'r adeiladau hanesyddol mwyaf arwyddocaol yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Mae cau'r castell yn rhan o £1.8 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu y flwyddyn ariannol hon ar gyfer gwaith gwella ar draws safle Sain Ffagan. Bydd hyn yn cynnwys gwaith adfer ar dai gwydr hanesyddol yr amgueddfa - yr unig ddau sydd ar ôl ar y tir o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae grant sylweddol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, ynghyd â nifer o gyfranwyr eraill, hefyd yn cefnogi'r gwaith adfer hwn.
Mae'r buddsoddiad yn Sain Ffagan yn rhan o raglen ehangach o gymorth ychwanegol i Amgueddfa Cymru y flwyddyn ariannol hon, sy'n dod i gyfanswm o £11.5 miliwn:
- Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru - tua £1.8 miliwn ar gyfer adfer y castell, atgyweirio tai gwydr a gwelliannau i'r safle
- Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd - bron i £3.5 miliwn ar gyfer gwaith adeiladu â blaenoriaeth, yn ychwanegol at £1.3 miliwn a ddarparwyd y llynedd
- Amgueddfa Lechi Cymru - £3.3 miliwn tuag at y gwaith ailddatblygu parhaus, gan ddod â chyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y prosiect i £5.8 miliwn
- Cynllun Ynni Llywodraeth Cymru - £1.5 miliwn tuag at brosiectau datgarboneiddio
- Storio a gofalu am gasgliadau – dros £780,000 i helpu i ddiogelu casgliadau cenedlaethol Cymru
- Gwelliannau i brofiad ymwelwyr - dros £706,000 ar gyfer Sain Ffagan ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, i gynnwys siop wedi'i huwchraddio a chyfleusterau toiledau mwy hygyrch.
Mae hyn yn ychwanegol at y cyllid cyfalaf o £5 miliwn y mae Amgueddfa Cymru hefyd yn ei dderbyn fel rhan o'i chyllid grant blynyddol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru i gynnal arolygon cyflwr adeiladau ar draws safle Sain Ffagan i lywio'r gwaith o flaenoriaethau buddsoddiadau yn y dyfodol.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:
"Mae Castell Sain Ffagan yn rhan werthfawr o'n stori genedlaethol, a bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau y gall ymwelwyr ei fwynhau am genedlaethau i ddod. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, y gobaith yw y bydd y cyhoedd yn gallu crwydro rhywfaint i fyny'r grisiau eto.
"Mae hyn yn ymwneud â mwy nag un adeilad. Rydym yn buddsoddi bron i £11.5 miliwn y flwyddyn ariannol hon i ofalu am ein hamgueddfeydd cenedlaethol, ar gyfer gwaith hanfodol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a thrawsnewid Amgueddfa Lechi Cymru.
"Mae ein Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant yn nodi dyhead clir i gasgliadau ac asedau hanesyddol Cymru gael eu diogelu a'u defnyddio i gefnogi dysgu, creadigrwydd a llesiant. Mae'r buddsoddiad hwn yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw, gan sicrhau bod ein safleoedd treftadaeth mwyaf poblogaidd yn parhau i fod wrth galon cymunedau ledled Cymru."
Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru ac mae ymhlith y deg atyniad rhad ac am ddim mwyaf poblogaidd yn y DU yn ôl pleidlais gan ddefnyddwyr TripAdvisor. Bydd gweddill safle'r amgueddfa, gan gynnwys yr adeiladau hanesyddol, yr orielau a’r tiroedd, yn parhau ar agor trwy gydol y gwaith ar y castell.
Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson:
“Bydd y gwaith sy'n dechrau yng Nghastell Sain Ffagan y mis hwn yn helpu i ddiogelu'r adeilad ar gyfer y dyfodol ac rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu buddsoddiad. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, hefyd yn cefnogi'r gwaith o adfer ein tai gwydr hanesyddol yn Sain Ffagan.
"Mae'n gyffrous gweld cymaint o waith yn digwydd i warchod, diogelu a datblygu ein hamgueddfeydd ledled Cymru, a fydd yn y pen draw yn ein helpu i ehangu mynediad i'r casgliad cenedlaethol i bawb.”