English icon English

O'r sgript i'r sgrin: chwe ffilm Gymraeg yn derbyn cyllid i helpu i sicrhau llwyddiant

From script to screen: six Welsh-language films awarded funding to help land big break

Mae Sinema Cymru - cydweithrediad rhwng S4C, Ffilm Cymru Wales a Llywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol - wedi cyhoeddi enillwyr ei ail rownd o gyllid, cynllun sy'n anelu at ddatblygu sawl cysyniad ffilm yn y Gymraeg gyda'r bwriad o symud o leiaf un ymlaen i gyllid cynhyrchu.

Mae'r Gronfa, sy'n cael ei gweinyddu gan Ffilm Cymru Wales, yn neilltuo hyd at £30,000 ar gyfer prosiectau unigol sydd â'r potensial i fod yn barod i'w cynhyrchu o fewn 12 mis ar ôl dechrau'r cyfnod datblygu, gyda dyfarniadau llai o hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau mewn camau cynharach.

Mae chwe phrosiect wedi bod yn llwyddiannus ar gyfer datblygu ffilm yn yr ail rownd hon:

MOGI – gan yr awdur/cyfarwyddwr Mared Swain, cynhyrchwyd gan Jessica Gardner yn Divergence Pictures: Yn profi galar a phwysau bod yn fam newydd, mae Meg yn dechrau bwyta gwaith celf ei diweddar fam i deimlo'n gysylltiedig â hi, ond mae'r dull hwn o ymdopi yn torri ei synnwyr o realiti, gan ei thynnu i frwydr rhithwir dros ei babi, ei hunaniaeth, a'i phwyll.

AWEN – gan yr awdur Teleri Hughes: Yn Wrecsam yn yr 1980au, mae dwy chwaer dalentog yn dianc o'u hen dref lofaol am y llwyfan rhyngwladol, ond a yw llwyddiant byd-eang yn werth yr hyn maen nhw'n geisio ei adael ar ôl?

LLYFR GLAS NEBO - gan yr awdur Manon Steffan Ros, cynhyrchwyd gan Hannah Thomas yn Severn Screen: Yn addasiad o lyfr Manon Steffan Ros gyda'r un teitl, mae Llyfr Glas Nebo yn stori ôl-apocalyptaidd dyner am fam a mab sy'n adeiladu bywyd newydd iddyn nhw eu hunain yn seiliedig ar iaith, cof a gobaith yng nghefn gwlad Cymru ar ôl cwymp gwareiddiad modern.

CWLWM – gan yr awdur/cyfarwyddwr Tom Chetwode-Barton, cynhyrchwyd gan Adam Knopf yn Riot Time Pictures: Mae galar, brad a gwrthwynebiad yn gwrthdaro pan fydd Iwan yn darganfod bod ei famiaith yn cael ei chynaeafu gan yr union dechnoleg a oedd i fod i achub ei gymuned.

WHALE FALL – gan yr awdur Hannah Daniel, y cyfarwyddwr Marc Evans, cynhyrchwyd gan Ffion Williams ac Adam Partridge yn Fiction Factory (cyd-gynhyrchiad gyda Samson Films, Iwerddon): Yn addasiad o nofel gyntaf emosiynol Elizabeth O'Connor, mae Whale Fall yn stori dod i oed am berthyn a brâd, wedi'i gosod ar ynys anghysbell yng Nghymru ym 1938 yn erbyn cefndir byd ar fin newid.

DAFFODIL – gan yr awdur/cyfarwyddwr Yassa Khan, cynhyrchwyd gan Nora Ostler Spiteri yn Triongl: Mae Daffodil yn ffilm amrwd a thelynegol gan yr awdur-gyfarwyddwr Yassa Khan. Wedi'i lleoli yng Nghaernarfon yn ystod diwedd yr 80au a'r 90au, mae'n olrhain brwydr bachgen ifanc am hunaniaeth a hunan-werth wrth dyfu i fyny yng nghysgod ei dad - lleidr banc enwog. Tyner, dirdynnol ac yn drafodaeth ddofn o'r natur ddynol, mae'r ffilm yn ymdrin â'r cyfnod pan fo plentyn yn dechrau deall pwy allai fod yn y pen draw – a’r hyn mae'n gwrthod fod.

Nod Sinema Cymru yw rhoi ffilmiau Cymraeg ar y map drwy gyflymu'r broses o greu ffilmiau annibynnol, mentrus ac anghonfensiynol, ac a allai gael eu rhyddhau i sinemâu rhyngwladol. Mae'r rhaglen yn darparu cyllid, a chymorth datblygu gyrfa hefyd i dimau creadigol, gan gynnig cynlluniau datblygu pwrpasol ynghyd â chyllid ar gyfer prosiectau.

Yn y rownd hon, anogwyd geisiadau gan brosiectau ar gam cynharach yn y broses ddatblygu, gan gydnabod pwysigrwydd datblygu talent sinematig yn yr iaith Gymraeg.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

"Mae'r chwe phrosiect eithriadol hyn yn dangos dyfnder y dalent greadigol sydd gennym yma yng Nghymru. O straeon pwerus am hunaniaeth a pherthyn i drafodaethau beiddgar o alar a gwytnwch, mae pob ffilm yn arddangos cryfder a bywiogrwydd adrodd straeon yn y Gymraeg.

"Rwy'n falch ein bod drwy Sinema Cymru yn cefnogi gwneuthurwyr ffilmiau i ddod â'r lleisiau Cymreig unigryw hyn i sgriniau sinemau ledled y byd."

Mae llwyddiant yr ail rownd hon yn adeiladu ar y cyllid cyntaf, a welodd bedwar prosiect yn cael eu dewis ar gyfer datblygu ffilm yn 2024/5: Gorllewin Gwyllt, Pijin, Lluest ac Estron.

Meddai Pennaeth Ffilm a Drama S4C, Gwenllian Gravelle:

"Mae cyhoeddi'r enillwyr yn ail rownd y cynllun hwn yn foment o falchder; mae'n brawf o gryfder ein gwneuthurwyr ffilmiau, a phŵer straeon yn y Gymraeg i gynulleidfaoedd ym mhob man."

Dywedodd Swyddog Gweithredol Datblygu a Chynhyrchu Ffilm Cymru Wales, Gwenfair Hawkins:

"Rydym yn falch iawn o weithio eto drwy Sinema Cymru gyda thalent eithriadol o Gymru ar y chwe phrosiect ffilm cyffrous newydd hyn. Maen nhw i gyd yn trafod nodweddion unigryw a hardd ein hiaith a'n diwylliant, trwy archwilio straeon sydd ag apêl a pherthnasedd byd-eang."