Y Prif Weinidog yn cael cip y tu ôl i’r llen ar ganolfan orthopaedig newydd Gogledd Cymru

FM gets behind-the-scenes look at North Wales’ new orthopaedic centre

Heddiw, cafodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, gyfle i fynd o amgylch Canolfan Lawfeddygol newydd Gogledd Cymru yn Llandudno, cyn y caiff ei hagor ym mis Mai. 

Mae’r ganolfan newydd yn Ysbyty Llandudno yn gyfleuster orthopaedig pwrpasol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i leihau amseroedd aros ledled y Gogledd.

Bydd y ganolfan lawfeddygol yn canolbwyntio ar gynnal nifer sylweddol o lawdriniaethau nad ydynt yn rhai cymhleth mewn lleoliad pwrpasol. Bydd yn gallu cynnal 1,900 o lawdriniaethau a thrin 730 o bobl ychwanegol bob blwyddyn.

Mae’r prosiect yn cynnwys adnewyddu ward bresennol i ddarparu 19 o welyau ychwanegol, ochr yn ochr â dwy theatr lawdriniaeth newydd ac uned wyth gwely adferiad gwell ar ôl llawdriniaeth a gofal ôl-anesthetig.

Bydd y ganolfan yn lleihau nifer y llawdriniaethau sy’n cael eu canslo ac yn cyflymu triniaethau drwy wahanu gofal wedi’i gynllunio oddi wrth wasanaethau brys ac argyfwng.

Disgwylir i’r cleifion cyntaf gael eu trin o fis Mai ymlaen, sy’n nodi carreg filltir arwyddocaol o ran gwella gwasanaethau orthopaedig yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid cyfalaf gwerth £29m ar gyfer y prosiect. 

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Rwy’n falch iawn o weld y gwaith ar y ganolfan orthopaedig hon yn cael ei gwblhau - mae hyn yn newyddion gwych i bobl sy’n aros am lawdriniaeth orthopaedig yn y Gogledd.

“Mae gofal heb ei gynllunio a gofal brys yn effeithio ar gleifion sy’n aros am lawdriniaeth mewn ysbytai dosbarth ac ysbytai cyffredinol. Bydd creu safle pwrpasol yn sicrhau bod modd diogelu gofal wedi’i gynllunio rhag pwysau eraill sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd.

“Yn dilyn y buddsoddiad ychwanegol ry’n ni wedi’i ddarparu a gwaith caled staff y Gwasanaeth Iechyd, ry’n ni newydd weld y lleihad uchaf o ran maint rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd, sydd bellach ar eu lefel isaf ers bron i chwe blynedd.

“Bydd Canolfan Lawfeddygol Gogledd Cymru, ynghyd â buddsoddiadau eraill yn ein hystad Gwasanaeth Iechyd, yn helpu i wella mynediad at ofal a lleihau amseroedd aros ymhellach.”

Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Mae hyn yn gam sylweddol ymlaen i wasanaethau gofal wedi’i gynllunio yn y Gogledd. Bydd datblygu Canolfan Lawfeddygol Gogledd Cymru yn ein helpu i ddiogelu gofal sydd wedi’i gynllunio rhag y pwysau sy’n gysylltiedig â gofal brys a gofal mewn argyfwng. Bydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cleifion sydd wedi bod yn aros am driniaeth ac sydd eisiau byw eu bywydau heb boen na chyfyngiadau unwaith eto.

“Ry’n ni’n ddiolchgar am gymorth Llywodraeth Cymru i wneud y buddsoddiad hwn yn bosibl, ac i’n staff sy’n gweithio’n ddiflino i roi’r cyfleuster newydd hwn ar waith.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at groesawu ein cleifion cyntaf yn ystod mis Mai 2026.”