Newyddion
Canfuwyd 43 eitem, yn dangos tudalen 1 o 4

Presgripsiynau am ddim yng Nghymru 'wedi estyn fy oes'
Wrth i Gymru nodi deunaw mlynedd fel y genedl gyntaf yn y DU i gael gwared â thâl am bresgripsiynau, mae Ryan Perrot, sy'n bedwar deg pedwar oed ac yn byw gydag asthma difrifol yn rhannu sut y gwnaeth y polisi helpu i newid ei fywyd.

Cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer hosbisau
Bydd hosbisau yn cael cyllid ychwanegol i'w helpu i barhau i ddarparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes hanfodol.

Cytundeb newydd i wella mynediad at ofal y GIG a lleihau amseroedd aros
Mae cytundeb newydd rhwng y GIG a’r cyhoedd yn rhan ganolog o gynllun i barhau i leihau’r amseroedd aros hiraf eleni.

Y Senedd yn pleidleisio dros reolau newydd ynghylch hyrwyddo bwyd sy'n gysylltiedig â gordewdra
Mae'r Senedd wedi pasio rheolau newydd ynghylch sut a ble y gellir hyrwyddo bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster, halen a siwgr a'u harddangos mewn siopau mawr ac ar-lein.

Ysgolion Cymru yn helpu i gynyddu faint o lysiau mae plant yn eu bwyta
Mae bron i 500 o ysgolion yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ‘Bwyta’r Llysiau i'w Llethu’, gan helpu mwy na 100,000 o blant i fwyta mwy o lysiau a gwneud dewisiadau iachach o ran bwyd.

Penodi'r Prif Swyddog Gwyddor Gofal Iechyd cyntaf i Gymru
Mae Victoria Heath wedi'i phenodi yn Brif Swyddog Gwyddor Gofal Iechyd cyntaf Cymru.

Gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl i blant mewn bwrdd iechyd yn y De
Mae gwelliannau gwirioneddol wedi'u gwneud i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc sy'n cael eu darparu i bobl sy'n byw yng Nghymoedd y De.

Bwrdd iechyd Hywel Dda yn gwneud gwelliannau o dan arweinyddiaeth newydd
Mae gwelliannau i amseroedd aros ac arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru.

Newid ymateb ambiwlansys i ganolbwyntio ar achub mwy o fywydau
Bydd newidiadau i wella sut mae ambiwlansys yn ymateb i alwadau brys 999 yn helpu i achub mwy o fywydau a gwella canlyniadau pobl.

Meddygon teulu i chwarae rhan hanfodol er mwyn trawsnewid gwasanaeth iechyd Cymru
Bydd cryfhau rôl meddygon teulu yng Nghymru yn hollbwysig er mwyn gwella gofal iechyd cleifion a mynd i'r afael â rhestrau aros y GIG.