English icon English

Ddim yn rhy hwyr i blant gael eu hamddiffyn rhag y ffliw cyn y Nadolig

Not too late for children to be protected from flu before Christmas

Mae rhieni y mae eu plant wedi colli eu brechlyn ffliw yn yr ysgol yn cael eu hannog i fanteisio ar y cynnig yn fuan gan fod y ffliw ar gynnydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae mwy na 800,000 o bobl yng Nghymru eisoes wedi cael eu brechu ond mae cyfraddau'r ffliw yng Nghymru wedi cynyddu yn ystod yr wythnos ddiwethaf a disgwylir rhag o achosion yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Mae straen newydd o'r ffliw yn cylchredeg, gydag achosion wedi'u cadarnhau ymhlith plant o dan bum mlwydd oed ar lefelau uchel iawn ar hyn o bryd.

Mae brechlyn y ffliw ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng dwy oed a 16 oed yn chwistrell trwyn, nid yn bigiad. Dangoswyd bod brechlyn eleni yn effeithiol iawn, gan atal plant rhag gorfod mynd i'r ysbyty.

The flu vaccine for children and teenagers between two and 16 is a nasal spray not an injection. This year’s vaccine has been shown to be very effective, preventing hospital attendances in children.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver:

“Mae brechu yn achub bywydau, yn amddiffyn pobl a chymunedau, ac yn cryfhau gwydnwch y GIG.

“Mae'n bwysig iawn bod pawb sy'n gymwys yn manteisio ar eu cynnig o frechlyn y ffliw am ddim y gaeaf hwn. Rydyn ni'n gweld straen ffliw newydd yn mynd ar led a dechrau cynharach i dymor y ffliw ond mae amser o hyd i gael y brechlyn felly ewch ati nawr, i amddiffyn eich plentyn mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Dywedodd y Dr Chris Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r brechlyn chwistrell trwyn rhag y ffliw yn ddiogel, yn ddi-boen, ac yn helpu i amddiffyn miloedd o blant o oedran ysgol yng Nghymru bob blwyddyn. Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn i blant, ond mae un chwistrell gyflym yn helpu i'w cadw'n iach y gaeaf hwn ac yn lleihau'r risg o salwch difrifol.

"Mae rhoi cydsyniad i'ch plentyn gael y brechlyn ar ffurf chwistrell trwyn yn rhan arferol o'i gadw'n iach yn ystod y flwyddyn ysgol. Mae'n helpu hefyd i amddiffyn y teulu cyfan drwy atal y ffliw rhag lledaenu i frodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau a pherthnasau sydd mewn mwy o berygl.

"Mae bron miliwn o bobl yng Nghymru yn cael eu brechu rhag y ffliw bob blwyddyn, felly gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn cael ei amddiffyn hefyd drwy roi cydsyniad iddynt gael y brechlyn chwistrell trwyn rhag y ffliw."

Mae brechlyn y ffliw yn rhad ac am ddim i bob plentyn o ddwy flwydd oed (a anwyd cyn Medi 2023) hyd at flwyddyn ysgol 11, ac i bob plentyn mewn grŵp risg glinigol dros 6 mis oed.

Mae  gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys manylion am sut i gael brechiad am ddim i blentyn os nad oedd yn yr ysgol pan ymwelodd y tîm brechu neu os na chafodd ei ffurflen gydsyniad ei llenwi mewn pryd. Fel arfer bydd hyn drwy eich meddyg teulu neu'ch bwrdd iechyd.

Mae llawer o oedolion yn gymwys i gael brechlyn am ddim gan gynnwys pawb 65 oed a hŷn, pobl â chyflwr iechyd hirdymor, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, menywod beichiog a gofalwyr.

I wirio a ydych yn gymwys i gael brechiad rhag y ffliw am ddim a sut i gael un, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Nodiadau i olygyddion

  • The Welsh Government will continue to monitor the surveillance data and take appropriate action to minimise the impact on the more vulnerable and our health and care services this winter.
  • Advice and guidance have been sent to the NHS and care homes on the importance of vaccination, and that prompt antiviral post exposure prophylaxis and treatment for seasonal influenza is offered to eligible groups.
  • Appropriate infection, prevention and control measures remain a cornerstone of mitigating the spread of influenza and other respiratory viruses. Health and care settings will be considering implementing appropriate interventions such as ensuring ventilation is optimised and isolating suspected or confirmed influenza cases.
  • The Welsh Government continues to work with partners across the UK and follows the best scientific advice, spearheaded by the JCVI to adapt and improve its vaccination offer.