Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd i’r data sydd wedi’u diwygio a’u diweddaru yn sgil datrys materion data Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Health Secretary response to revised and updated data following the resolution of Betsi Cadwaladr University health board data issues
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd: “Mae’r ffigurau hyn heddiw yn dangos ein bod ni ar y llwybr cywir i leihau’r arosiadau hiraf a lleihau maint y rhestrau aros.
“Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl oni bai am ymroddiad ein staff gwych yn y Gwasanaeth Iechyd a’r cyllid ychwanegol sydd wedi’i roi gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod degau o filoedd yn rhagor o apwyntiadau yn cael eu darparu.
“Roedd lleihad o 10,400 yn nifer y bobl sy’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol ym mis Hydref o’i gymharu â mis Medi, ac roedd lleihad o tua 9,200 yn y rhestr aros hefyd.
“Mae’r data dros dro ar gyfer mis Tachwedd yn awgrymu bod gostyngiad sylweddol i ddod eto.
“Cafodd y nifer uchaf erioed o lwybrau cleifion eu cau – bron i 139,000 ohonyn nhw – ym mis Hydref. Mae hyn yn dangos faint o weithgarwch gofal a gynlluniwyd sy’n mynd rhagddo dros Gymru.
“Rwy’n falch o weld bod yr ymchwiliad i reoli data ar amseroedd aros ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nawr wedi’i gwblhau.
“Mae’r data sydd wedi’u diwygio yn dangos bod nifer bach o lwybrau cleifion wedi’i ychwanegu at y ffigurau rhwng mis Ebrill a mis Awst o ganlyniad i’r ymchwiliad.
“Hoffwn i fod yn gwbl glir mai mater rheoli data, ac nid mater trin cleifion, oedd hwn. Mae’r gweithdrefnau a’r prosesau wedi’u cryfhau.
“Mae rhagor i’w wneud eto i leihau amseroedd aros hir, ond hoffwn i ddiolch i staff y Gwasanaeth Iechyd am eu hymdrechion parhaus.”