Newyddion
Canfuwyd 253 eitem, yn dangos tudalen 1 o 22

Lansio Cynllun Iechyd Menywod Cymru i gau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau
Mae'r Cynllun Iechyd Menywod cyntaf i Gymru wedi'i lansio heddiw (dydd Llun 9 Rhagfyr 2024) gan osod gweledigaeth 10 mlynedd o hyd i wella gwasanaethau gofal iechyd i fenywod.

£7.7m i gefnogi canolfan llosgiadau er mwyn helpu i achub mwy o fywydau
Heddiw, mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Mark Drakeford, wedi cadarnhau y bydd £7.7m yn cael ei neilltuo i uwchraddio Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru, wrth i’r ganolfan nodi ei 30fed flwyddyn.

Anghydfod cyflogau aelodau Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) – Meddygon Iau, Ymgynghorwyr a Meddygon Arbenigol
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru a thri phwyllgor cenedlaethol BMA Cymru Wales sy’n cynrychioli ymgynghorwyr, meddygon SAS a meddygon iau wedi cytuno i gynnal negodiadau ffurfiol ar gyflogau.

Ffioedd deintyddol y GIG i gynyddu o fis Ebrill
Bydd cost triniaeth ddeintyddol y GIG yng Nghymru yn cynyddu o 1 Ebrill.

Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau diogelwch cleifion yn ystod trydedd streic y meddygon iau
Mae Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a Chymdeithas Feddygol Prydain yn cydweithio i sicrhau diogelwch cleifion tra bydd y meddygon iau ar streic am y trydydd tro yr wythnos nesaf.

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru: Ionawr a Chwefror 2024
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf y GIG a gafodd eu cyhoeddi heddiw.

Hyfforddwr pêl-droed o Lyn Ebwy yn ailafael yn llawn yn y gêm diolch i dechnoleg symudedd
Gall Martin Padfield, 49 oed - a gollodd ei goes 24 o flynyddoedd yn ôl - ymuno yn llawn yn yr hwyl gyda thîm pêl-droed ei fab unwaith eto wedi iddo gael pengliniau prosthetig arbenigol a reolir gan ficrobrosesydd diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Disgwyliadau newydd ar fyrddau iechyd i wella perfformiad adrannau achosion brys
Heddiw, mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi cyhoeddi safonau ansawdd newydd ar gyfer gwella perfformiad adrannau achosion brys. Ymhlith rhai o'r ffyrdd a fydd yn cael eu defnyddio i wella perfformiad mae dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth o gyflymu amseroedd asesu a lleihau'r amser y mae cleifion yn aros i gael eu derbyn i'r ysbyty, yn ogystal â dull sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.

Arweinydd clinigol newydd i helpu i wella gwasanaethau iechyd menywod
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi croesawu penodiad arweinydd clinigol newydd ar gyfer iechyd menywod a fydd yn helpu i annog gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd menywod ledled Cymru.

250 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol newydd i Gymru
Bydd 250 o nyrsys a meddygon yn dod i Gymru o dan gytundeb newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Kerala.

Y Gweinidog Iechyd yn cyfarfod â Tata Steel yn Mumbai
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi ailadrodd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant dur yng Nghymru yn ystod ei chyfarfod â Tata Steel yn India yn gynharach heddiw (dydd Iau 29 Chwefror).

Ymateb y Gweinidog Iechyd i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru – Rhagfyr 2023 ac Ionawr 2024
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: