Ymateb y Gweinidog Iechyd i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru – Rhagfyr 2023 ac Ionawr 2024
Health Minister response to latest NHS Wales performance data – December 2023 and January 2024
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
"Mae'r ffigurau hyn yn ymwneud â'r cyfnod o'r flwyddyn pan fo ein Gwasanaeth Iechyd a'i staff arwrol o dan y pwysau mwyaf dwys.
"Felly, rwy'n falch iawn bod nifer y bobl ar restrau aros yn gyffredinol wedi gostwng eto, am yr ail fis yn olynol. Gwnaeth y nifer sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth ostwng hefyd, a hynny am yr unfed mis ar hugain yn olynol.
"Rwy'n falch o weld cynnydd yn y perfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod o ran canser hefyd, o 53.5 y cant i 58 y cant ym mis Rhagfyr. Yn ogystal, y nifer o bobl a gafodd wybod nad oes ganddyn nhw ganser oedd y ffigur uchaf yn y cofnodion ar gyfer unrhyw fis Rhagfyr.
"Rydyn ni wedi rhoi pwyslais clir ar drin y cleifion hynny sydd ag angen brys a'r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf.
"Mae'r pwysau aruthrol ar ein gwasanaeth iechyd yn parhau. Mae atgyfeiriadau newydd at gyfleusterau gofal eilaidd, fel ysbytai, ar eu lefel uchaf erioed, ar ôl cynyddu 11 y cant yn y flwyddyn ddiweddaraf. Y nifer a aeth i Adrannau Achosion Brys oedd y ffigur uchaf yn y cofnodion ar gyfer unrhyw fis Ionawr.
"Er gwaethaf hyn, cynyddodd perfformiad yn erbyn y targed pedair awr, tra gwnaeth yr amser cyfartalog a dreulir mewn adrannau achosion brys ostwng ym mis Ionawr o gymharu â'r mis blaenorol.
"Y nifer o gleifion a gafodd ymateb ambiwlans 'coch' neu fwyaf brys mewn wyth munud oedd yr ail uchaf yn y cofnodion ym mis Ionawr, a'r amser ymateb cyfartalog oedd 8 munud ac 11 eiliad. Ac er gwaetha'r pwysau ar y system, gwnaeth yr amser cyfartalog i ymateb i gleifion 'oren' wella o gymharu â mis Rhagfyr.
"Mae'r gwasanaethau canolfannau gofal sylfaenol brys newydd rydyn ni wedi'u hariannu i helpu i roi gofal yn nes at gartrefi pobl, a lleihau'r pwysau ar feddygon teulu ac adrannau achosion brys, yn helpu llawer mwy o bobl na'r adeg hon y llynedd. Mae'r canolfannau hyn yn sicrhau bod pobl yn cael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf, ac mae'r mwyafrif helaeth yn osgoi'r angen i fynd i adran achosion brys ar ôl cael eu hasesu.
"Mae gwelliant yn parhau i gael ei wneud o ran Oedi yn achos Llwybrau Gofal, gan arwain at ostyngiadau sylweddol yn nifer yr achosion o oedi sy'n gysylltiedig ag asesu.
"Mae'n siomedig gweld bod y nifer sy'n aros blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf wedi cynyddu, a bod y nifer sy'n aros mwy nag wyth wythnos am wasanaethau diagnostig wedi cynyddu. Serch hynny, gwnaeth y nifer cyffredinol sy'n aros am wasanaethau diagnostig ostwng.
"Hoffwn ddiolch unwaith eto i'n staff ymroddedig yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Maen nhw wedi parhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel o dan amgylchiadau hynod o heriol y gaeaf hwn."