£7.7m i gefnogi canolfan llosgiadau er mwyn helpu i achub mwy o fywydau
£7.7m to support burns centre to save more lives
Heddiw, mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Mark Drakeford, wedi cadarnhau y bydd £7.7m yn cael ei neilltuo i uwchraddio Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru, wrth i’r ganolfan nodi ei 30fed flwyddyn.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella cyfleusterau yn y ganolfan ragoriaeth yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, sy’n gwasanaethu poblogaeth o 10m o bobl o Aberystwyth i Rydychen.
Mae’r ganolfan yn rhoi gofal arbenigol i dros 1,000 o bobl bob blwyddyn – hanner ohonynt yn blant – gan gynnwys pobl sydd wedi dioddef y llosgiadau mwyaf difrifol.
Mae pobl â llosgiadau sy’n dod o bellach i ffwrdd hefyd yn cael eu hanfon i Abertawe i gael triniaeth a gofal.
Bydd y £7.7m yn creu tri chiwbicl llosgiadau a dau giwbicl gofal dwys cyffredinol ym mhrif uned gofal dwys YsbytyTreforys, yn ogystal â chael ei ddefnyddio i wneud newidiadau i un o’r theatrau presennol er mwyn trin mwy o gleifion sydd â llosgiadau. Mae’r ciwbiclau llosgiadau yn ystafelloedd sy’n arbenigol iawn, lle y gellir rheoli’r tymheredd yn fanwl a lleihau’r perygl heintiau.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Mark Drakeford:
“Yn ystod ei 30 o flynyddoedd, mae Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru wedi ennill enwogrwydd fel un o wasanaethau mwyaf a phrysuraf Ewrop wrth iddi roi gofal rhagorol i filoedd o bobl.
“Bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau y bydd y ganolfan yn gallu parhau i sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion a staff, drwy ei chyfleusterau o ansawdd uchel a’i gallu i ddenu a chadw staff talentog a phroffesiynol – er mwyn helpu i achub mwy o fywydau, yn gyflym ac yn ddiogel.”
Mae dros 6,500 o bobl y mae angen iddynt gael llawdriniaeth blastig, oherwydd trawma, haint a chanser yn aml iawn, yn cael eu trin bob blwyddyn yn y ganolfan.
Dywedodd y llawfeddyg ymgynghorol ar gyfer llawdriniaeth blastig yn Ysbyty Treforys, Dean Boyce:
“Mae Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn darparu gofal ar gyfer llosgiadau difrifol i boblogaeth o dros 10 miliwn yng Nghymru a De-orllewin Lloegr, a bydd yn aml yn derbyn cleifion gofal dwys o bob rhan o’r DU.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn golygu y bydd y cleifion llosgiadau sydd fwyaf sâl yn parhau i gael y gofal gorau posibl.
“Mae Abertawe erioed wedi bod yn un o’r canolfannau llosgiadau gorau yn y DU, ac mae’r datblygiad hwn yn sicrhau y bydd ei rhagoriaeth yn parhau.”