Newyddion
Canfuwyd 43 eitem, yn dangos tudalen 3 o 4
Sylfeini hanes: Castell y Fflint ar lun Minecraft
Cafodd plant ysgol archwilio Castell y Fflint mewn ffordd newydd sbon heddiw [dydd Gwener 7 Tachwedd] – drwy Minecraft Education – pan lansiodd Cadw ei bedwerydd safle hanesyddol yng Nghymru ar y platfform gemau poblogaidd.
Paratoi Cymru ar gyfer y gaeaf
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru (dydd Mawrth 7 Hydref) yn nodi cynlluniau cynhwysfawr i baratoi Cymru ar gyfer heriau'r gaeaf eleni. Mae'r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn cael cymorth ychwanegol i baratoi ar gyfer pwysau'r gaeaf ac mae aelwydydd yn cael cymorth i gadw'n gynnes.
Sicrhau dyfodol heini: Darparu cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf i bawb
Mae prosiectau cydweithredu cyrtiau'n dangos ymrwymiad i wella seilwaith chwaraeon ledled Cymru.
Mwy na dwy o bob tair fferyllfa yng Nghymru bellach yn cynnig presgripsiynu electronig
Mae'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig, sy'n galluogi trosglwyddo presgripsiynau'n electronig rhwng meddygon teulu a fferyllfeydd, bellach ar gael mewn saith o bob 10 o fferyllfeydd yng Nghymru.
Cynllun cyflogaeth wedi'i deilwra yn tanio llwybr i'r gweithle
Mae'r rhaglen 'Trailblazer' gwerth £10 miliwn yn parhau i ddarparu cymorth cyflogaeth wedi'i deilwra, gyda chadarnhad o gyllid yn yr ail flwyddyn.
Uwchraddio offer diagnostig yng Ngorllewin Cymru
£481,000 gan Lywodraeth Cymru i wella system camera gama Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg a rhoi hwb i ddiagnosteg.
Cyn-gomisiynydd plant i gadeirio asesiad Cymru gyfan o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol
Bydd y cyn-gomisiynydd plant, Sally Holland, yn cadeirio’r asesiad annibynnol o’r holl wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.
£1.3m i uwchraddio ystafell pelydr-x yn Abertawe
Bydd pobl yn Abertawe yn elwa o gael diagnosis yn gynt yn dilyn buddsoddiad o £1.3m gan Lywodraeth Cymru i uwchraddio cyfleusterau pelydr-x yn adran argyfwng Ysbyty Treforys.
£30 miliwn i roi hwb i wasanaethau gofal cymdeithasol a lleihau oedi mewn ysbytai
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £30 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol ledled Cymru er mwyn cryfhau gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y gymuned a gwella prosesau rhyddhau o'r ysbyty.
Tirnod diwylliannol Gogledd Cymru yn derbyn hwb ariannol mawr
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hwb ychwanegol o £3.3 miliwn i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis heddiw.
Gwaith cadwraeth hanfodol ar Eglwys hanesyddol Sant Silyn bron wedi dod i ben
Mae gwaith cadwraeth hanfodol ar Eglwys Sant Silyn yn Wrecsam bron wedi dod i ben, gan sicrhau dyfodol yr eglwys hanesyddol am flynyddoedd lawer i ddod.
Cymru yn cyflwyno cerdyn cymhorthdal ar gyfer bwyd heb glwten
Bydd cerdyn newydd wedi'i rag-dalu yn cael ei gyflwyno ledled Cymru i roi mwy o ddewis a rhyddid i bobl sy'n cael bwyd heb glwten ar bresgripsiwn.