English icon English
NATIONAL SLATE MUSEUM Jack Sargeant visit 31.7.25 (8)

Tirnod diwylliannol Gogledd Cymru yn derbyn hwb ariannol mawr

North Wales cultural landmark receives major funding injection

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hwb ychwanegol o £3.3 miliwn i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis heddiw.

Bydd yr ailddatblygu'n creu canolfan ddysgu, ardal chwarae, siop a chaffi newydd yn yr amgueddfa, yn ogystal â gwneud y safle cyfan yn fwy hygyrch. Bydd rhagor o gyfleoedd i ddarganfod a mwynhau stori llechi drwy arddangosfeydd a dehongli newydd.

Bydd y cyllid hefyd yn galluogi'r safle i barhau i ddatblygu ei rôl fel amgueddfa fyw drwy gynnig hyfforddiant a chyfleoedd i bobl o bob cefndir fwynhau, datblygu a dysgu am sgiliau treftadaeth draddodiadol.

Mae'r amgueddfa wedi cau dros dro er mwyn gwneud y gwaith cadwraeth ac adnewyddu'n ddiogel. Ond mae Amgueddfa Cymru yn mynd â'r amgueddfa ar daith o amgylch atyniadau lleol a digwyddiadau cymunedol yng ngogledd Cymru a thrwy amgueddfeydd dros dro yn Ysbyty'r Chwarel a Chastell Penrhyn.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cynnwys £3m ychwanegol ynghyd â grant o £300,000 o'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol tuag at adeiladu caffi newydd, Canolfan Ddysgu a Gwirfoddoli a chyfleusterau newid. Mae hyn yn dod â chyfanswm cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r prosiect i £5.8 miliwn (gyda £2.5 miliwn wedi'i ddyfarnu o'r blaen).

Ymwelodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, â'r safle yn ddiweddar i gwrdd â staff Amgueddfa Cymru a gweld y datblygiadau sy'n mynd rhagddyn nhw. Meddai:

"Fel y Gweinidog Diwylliant, a gogleddwr balch, mae wedi bod yn haf delfrydol imi – yn ymweld ag un datblygiad neu ddigwyddiad cyffrous yn y Gogledd ar ôl y llall:  Theatr Clwyd ar ei gwedd newydd, sydd bron wedi'i gorffen; yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol ar ddechrau ei thaith i drawsnewid ei hun; Maes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam lle ymunais â degau o filoedd o ymwelwyr eraill i ddathlu popeth sy'n ymwneud â'r Gymraeg – a ches i ddiweddariad ar gynnydd yr Amgueddfa Bêl-droed newydd ar gyfer Cymru o fewn Amgueddfa Wrecsam.

"Rydyn ni wedi cynyddu gwariant o ddydd i ddydd ar ddiwylliant 8.5% eleni ac wedi treblu buddsoddi mewn lleoliadau a safleoedd o'i gymharu â degawd yn ôl. Ond mae ein gwariant ar ddiwylliant yn mynd ymhell y tu hwnt i hyn – mae'n cael ei ymgorffori mewn cyllidebau ar draws Llywodraeth Cymru.

"Mae ein buddsoddiad yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol heddiw yn enghraifft ardderchog o'r ffordd mae hyn yn gweithio'n ymarferol, gyda £5.5 miliwn o gyllideb fy adran ynghyd â chyllid adfywio cymunedol i sicrhau bod yr amgueddfa wedi'i hailddatblygu yn cynnig profiad o'r radd flaenaf i ymwelwyr â thirwedd llechi gogledd-orllewin Cymru – safle Treftadaeth y Byd UNESCO ers 2021."

Dyrannodd Llywodraeth Cymru dros £230 miliwn eleni i raglenni diwylliant a diwylliannol y tu allan i bortffolio'r Gweinidog Diwylliant – ar draws adrannau gan gynnwys addysg, llywodraeth leol, yr economi, iechyd, y Gymraeg, ynni a chyfiawnder cymdeithasol.

Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer prosiectau cyfarwydd a diwylliannol arwyddocaol fel y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Llangollen, Her Ddarllen yr Haf ym mhob llyfrgell yng Nghymru, y buddsoddi yn ein sectorau ffilm, teledu a cherddoriaeth fyw a digwyddiadau proffil uchel fel Tafwyl a rhaglen Canmlwyddiant Richard Burton 2025 flwyddyn o hyd.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae prosiect Amgueddfa Lechi Cymru yn derbyn £6.2 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU, fel rhan o gais ehangach a gyflwynwyd gan Gyngor Gwynedd, a £12 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.