English icon English
Minister for Children and Social Care and Mr P-2

£30 miliwn i roi hwb i wasanaethau gofal cymdeithasol a lleihau oedi mewn ysbytai

£30 Million to boost social care services and reduce hospital delays

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £30 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol ledled Cymru er mwyn cryfhau gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y gymuned a gwella prosesau rhyddhau o'r ysbyty.

Mae awdurdodau lleol yn buddsoddi eu dyraniad tuag at gamau gweithredu i gefnogi asesiadau amserol ac argaeledd pecynnau gofal i sicrhau bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty pan fyddan nhw'n gallu gwneud hynny'n glinigol. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i leihau nifer yr achosion o oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gryfhau gwasanaethau cymorth a gofal cymdeithasol yn y gymuned er mwyn helpu pobl i aros yn iach gartref.

Bydd awdurdodau lleol yn cyfeirio'r cyllid tuag at heriau penodol yn eu rhanbarthau, gan adeiladu ar y cynnydd a wnaed o dan yr her 50 diwrnod a sicrhau cysondeb â modelau gofal integredig.

Yn ystod ymweliad â Phen-y-bont ar Ogwr, cyfarfu'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, â Mr Howard Pring sy'n cael cymorth hanfodol gan Tîm Cymorth yn y Cartref yr awdurdod lleol. Drwy ymweliadau dyddiol, mae'r tîm yn darparu cymorth gyda thasgau hanfodol, gan alluogi'r unigolyn i barhau i fyw'n annibynnol gartref.

Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu tîm atal amlddisgyblaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi'i gynllunio i leihau derbyniadau i'r ysbyty drwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu i unigolion mewn cartrefi gofal ac yn y gymuned ehangach.

Bydd prosiectau tebyg ledled Cymru yn elwa ar y £30 miliwn, a fydd yn gweld awdurdodau lleol yn canolbwyntio ar fentrau ataliol ac ymyrraeth gynnar yn ogystal â chamau gweithredu sy'n galluogi pobl i adael yr ysbyty cyn gynted ag y byddan nhw'n gallu gwneud hynny'n glinigol. Bydd hyn yn helpu unigolion i fyw bywydau iachach gartref ac yn eu cymunedau.

Mae'r cymorth sydd ar gael yn dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i wella llif cleifion a datblygu a chynyddu cymorth i unigolion sy'n cael gofal yn y gymuned.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

"Bydd y cyllid rydyn ni'n ei roi i awdurdodau lleol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ledled Cymru sydd angen gofal a chymorth.

"Drwy fuddsoddi mewn cymorth yn y gymuned, byddwn ni'n helpu mwy o bobl i ddychwelyd adref o'r ysbyty pan fyddan nhw'n barod i wneud hynny'n feddygol ac yn galluogi eraill i aros yn annibynnol yn eu cymunedau.

"Bydd hyn nid yn unig yn gwella profiadau i unigolion ond hefyd yn helpu i wella llif cleifion drwy ysbytai."

Mae'r cyllid hwn wedi'i sicrhau drwy'r cytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Jane Dodds, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Nodiadau i olygyddion

  • The £30 million grant allocation for the 2025/26 financial year is being distributed directly to local authorities based on adult population.