Paratoi Cymru ar gyfer y gaeaf
Preparing Wales for winter
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru (dydd Mawrth 7 Hydref) yn nodi cynlluniau cynhwysfawr i baratoi Cymru ar gyfer heriau'r gaeaf eleni. Mae'r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn cael cymorth ychwanegol i baratoi ar gyfer pwysau'r gaeaf ac mae aelwydydd yn cael cymorth i gadw'n gynnes.
Er mwyn brwydro yn erbyn y cynnydd a ragwelir mewn achosion o'r ffliw y gaeaf hwn, mae'r GIG, am y tro cyntaf, wedi prynu brechlynnau'n ganolog, i wella cyfraddau brechu a diogelu rhagor o bobl. Yn ogystal, er mwyn lleihau'r pwysau ar feddygon teulu, gall 99% o fferyllfeydd cymunedol bellach brofi a thrin dolur gwddf am ddim, heb apwyntiad meddyg.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £30m fel y gall rhagor o bobl gael gofal gartref, gan eu helpu i adael yr ysbyty yn gynt. Mae hefyd yn buddsoddi dros £1m mewn offer a hyfforddiant ar gyfer cartrefi gofal i atal cwympiadau ymhlith pobl hŷn, gan osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty.
Er mwyn helpu teuluoedd incwm isel i gadw'n gynnes a dianc rhag amodau oer a llaith, eleni, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £30m yn ei chynllun Cartrefi Clyd Nyth. Mae hefyd yn buddsoddi £600,000 i gefnogi lleoliadau croeso cynnes a £940,000 i gefnogi pobl sy'n cael trafferth gyda chostau bwyd.
Yn dilyn Stormydd Bert a Darragh yn 2024, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu mesurau paratoi cynhwysfawr ar gyfer y gaeaf, gan gynnwys buddsoddi £6m i wella'r Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd cenedlaethol. Mae ymgyrch 'Byddwch yn Barod am Lifogydd' Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl i wirio eu risg yn ôl cod post, cofrestru i gael rhybuddion llifogydd am ddim a pharatoi ar gyfer llifogydd pan fo rhagolygon o dywydd o'r fath.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Mae'r gaeaf yn gyfnod heriol i bobl, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, pan fydd ein gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu'r pwysau mwyaf. Rydyn ni'n paratoi ar gyfer y gaeaf drwy gydol y flwyddyn, fel bod y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl yn ei lle cyn y misoedd oerach.
"Dros y mis diwethaf, rydyn ni wedi gweld Cymru yn mynd o wynebu cyfnod o sychder i wynebu llifogydd, oherwydd tywydd sy'n fwyfwy eithafol ac anodd ei rag-weld. Fe wnaethom ymrwymo i wella mesurau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer 45,000 o gartrefi yn ystod tymor y Senedd hon - rydyn ni'n cyflawni'r addewid hwnnw diolch i lefelau buddsoddi mwy nag erioed.
"Mae pawb yn haeddu cartref cynnes, ac rydyn ni'n gweithio i helpu pobl sy'n cael trafferth gyda chostau byw a biliau ynni, gan fuddsoddi dros £7bn rhwng 2022 a 2026 i leddfu'r pwysau ariannol ar aelwydydd, helpu i wneud y mwyaf o incwm a helpu i gadw mwy o arian ym mhocedi pobl.
"Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth gefnogi ein cymunedau yr adeg hon o'r flwyddyn. P'un a yw hynny'n sicrhau ein bod yn cael ein brechu, yn defnyddio ein Gwasanaeth Iechyd yn gyfrifol neu'n cadw golwg ar ein cymdogion oedrannus neu agored i niwed yn rheolaidd. Gadewch inni i gyd wneud yr hyn y gallwn i ofalu am ein gilydd y gaeaf hwn."