Sicrhau dyfodol heini: Darparu cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf i bawb
Getting fit for the future: Serving up revitalised sporting facilities for all
Mae prosiectau cydweithredu cyrtiau'n dangos ymrwymiad i wella seilwaith chwaraeon ledled Cymru.
Mae cyrtiau chwaraeon newydd yn ymddangos mewn cymunedau lleol ledled Cymru fel rhan o fenter i adfywio cyfleusterau nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio, gan eu gwneud yn fwy hygyrch ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
Ers 2022, mae Cronfa Cydweithredu Cyrtiau Chwaraeon Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi dyfarnu dros £1.4 miliwn i brosiectau ar draws 12 Awdurdod Lleol i uwchraddio arwynebau cwrt caled i greu cyfleusterau modern a chynhwysol ar gyfer tenis, pêl-rwyd a phêl-fasged.
Mae'r gronfa yn cynrychioli rhan o fuddsoddiad o £41 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyfleusterau chwaraeon cymunedol ac elitaidd drwy Chwaraeon Cymru yn ystod tymor presennol y Llywodraeth – gan gynnwys £10.1 miliwn ar gyfer 2025–26.
Agorodd dau o'r cyrtiau newydd hyn yr wythnos hon ym Mharc Lles Maesteg, gan drawsnewid hen gyrtiau tenis yn gyfleusterau pêl-fasged a phêl-rwyd pwrpasol, sydd bellach yn cynnwys arwynebau llawr amryliw, llinellau ac offer cwrt.
Bydd y cyrtiau wedi'u hailwampio'n cynyddu'n sylweddol gyfleoedd yn yr ardal i gymryd rhan mewn chwaraeon, gan alluogi cyrff llywodraethu i ddatblygu rhaglenni hyfforddi, sefydlu timau newydd a chydweithio ag ysgolion lleol, gan ddarparu cyfleusterau modern, hygyrch i bobl ifanc a theuluoedd ar garreg eu drws.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad lansio, dywedodd y Gweinidog Chwaraeon, Jack Sargeant:
"Mae'r Gronfa Cydweithredu Cyrtiau yn enghraifft o sut y gall gweithio gyda'n gilydd yn strategol i fuddsoddi yn y cyfleusterau cywir yn y lleoedd cywir gynyddu'r manteision ar gyfer cymunedau lleol i'r eithaf. Maen nhw'n fwy na chyrtiau – maen nhw'n sbardun ar gyfer cydlyniant cymunedol, datblygu ieuenctid a lles gwell."
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Gyda'r £10 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer seilwaith chwaraeon, rydyn ni'n adeiladu'r sylfaen ar gyfer Cymru iachach, fwy egnïol lle nad yw daearyddiaeth a chefndir yn rhwystr i gymryd rhan mewn chwaraeon."
Mae prosiect Maesteg yn ymuno â buddsoddiadau cydweithredu cyrtiau llwyddiannus eraill ledled Cymru – o Gil-y-coed yn Sir Fynwy i Dredegar ym Mlaenau Gwent – gan greu rhwydwaith o gyfleusterau amlchwaraeon sy'n gwasanaethu cymunedau amrywiol ac yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o wneud Cymru yn wlad lle mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi'u hymgorffori yn ein bywydau bob dydd.