English icon English

Mwy na dwy o bob tair fferyllfa yng Nghymru bellach yn cynnig presgripsiynu electronig

More than two-thirds of Welsh pharmacies now provide electronic prescribing

Mae'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig, sy'n galluogi trosglwyddo presgripsiynau'n electronig rhwng meddygon teulu a fferyllfeydd, bellach ar gael mewn saith o bob 10 o fferyllfeydd yng Nghymru.

Mae'r Gwasanaeth hwn yn disodli presgripsiynau papur ac mae wedi'i gynllunio i wneud y broses o ragnodi a dosbarthu meddyginiaethau yn fwy effeithlon i feddygon teulu a fferyllwyr.

Mae'n rhan o Raglen Moddion Digidol Cymru sy'n ehangu'n gyflym, ac sy'n cynnwys cyflwyno systemau presgripsiynu electronig ym mhob ysbyty yng Nghymru ac uwchraddio Ap GIG Cymru ymhellach i alluogi pobl i weld pa bryd mae eu presgripsiynau'n barod i'w casglu.

Yn siarad yn y gynhadledd Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach yng Nghaerdydd, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, fod mwy na miliwn o bresgripsiynau'n cael eu trosglwyddo'n electronig rhwng meddygon teulu a fferyllfeydd bob mis, sy'n gam mawr ymlaen o ran digideiddio gofal iechyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â dyddiad cyflwyno'r Gwasanaeth cyflawn ymlaen i fis Tachwedd 2026 – bron i flwyddyn yn gynt nag a gynlluniwyd yn wreiddiol.

Daw'r trawsnewidiad digidol hwn ochr yn ochr â gwaith ehangu sylweddol i wasanaethau fferyllol.

Darparodd fferyllfeydd bron i 500,000 o ymgyngoriadau ar gyfer anhwylderau cyffredin y llynedd, gyda'r rhestr o afiechydon y gellir eu trin mewn fferyllfeydd yn cael eu hehangu.

Ers mis Mehefin, mae fferyllfeydd wedi gallu darparu profion, cyngor a, lle bo angen, gwrthfiotigau ar gyfer heintiau’r gwddf.

Erbyn hyn mae gan fwy na 40% o fferyllfeydd cymunedol fferyllydd sy'n gallu rhagnodi triniaethau ar gyfer ystod o gyflyrau eraill fel heintiau'r glust neu'r croen, sy'n golygu y gall mwy o bobl osgoi gorfod gwneud apwyntiad â'u meddyg teulu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1.4 miliwn i drawsnewid yr ystâd fferyllfa dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan helpu fferyllfeydd i osod ystafelloedd ymgynghori newydd, gwasanaethau awtomataidd sy'n arbed amser a phwyntiau casglu meddyginiaethau.

Ochr yn ochr â'r datblygiadau mewn fferylliaeth yn y gymuned a mewn ysbytai, mae'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol wedi cael ei chomisiynu i adolygu rôl gweithwyr fferylliaeth proffesiynol sy'n gweithio mewn practisau meddygon teulu. Bydd y gwaith yn dechrau yr hydref hwn a disgwylir adborth yn y gwanwyn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:

“Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran cyflawni newid yn y proffesiwn fferylliaeth ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n falch iawn ohono.

“Mae ein diwygiadau eang wedi ehangu mynediad pobl at ofal priodol ac effeithiol, gan dynnu ar yr arbenigedd sylweddol yn y proffesiwn fferylliaeth a rhoi mynediad cyflymach a rhwydd i bobl at ofal ar gyfer ystod eang o gyflyrau.

“Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y rhaglen moddion digidol yn gwella cynhyrchiant, ac yn gwella diogelwch a phrofiad cleifion. Mae ehangu'r gwasanaeth presgripsiynau electronig yn gyflym yn golygu bod llawer o gleifion eisoes yn gweld y buddion.

“Bydd cyflwyno presgripsiynau electronig mewn ysbytai hefyd yn gwella cywirdeb a diogelwch o ran rheoli meddyginiaethau ac yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion.

“Mae gennym weledigaeth glir ac argyhoeddiadol o ran sut y bydd fferyllfeydd yn parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd a llesiant pobl yng Nghymru.”